bbc ceefax web1

Dathlu 50 mlynedd ers lansio Ceefax - y 'rhyngrwyd ceffyl a throl'

Cyhoeddwyd: 23 Medi 2024

Mae heddiw’n nodi hanner can mlynedd ers lansio Ceefax, gwasanaeth teledestun y BBC a oedd yn galluogi gwylwyr i gael gafael ar wybodaeth ar ffurf testun ar eu setiau teledu, ac a fraenarodd y tir ar gyfer y gwasanaethau ar y sgrin rydym yn eu defnyddio heddiw.

Gyda’i enw’n cyfeirio at sut gallai defnyddwyr ‘weld ffeithiau’ (neu ‘see facts’), Ceefax oedd y gwasanaeth cyntaf o’i fath yn y byd. Er mai dim ond rhyw ddau ddwsin o dudalennau o gynnwys newyddion, chwaraeon a’r tywydd roedd yn ei gynnig i ddechrau, tyfodd hynny i oddeutu 600 o dudalennau yn y pen draw, gydag amrywiaeth eang o gynnwys.

Roedd y cynnwys yn cael ei gynhyrchu gan dîm o olygyddion a oedd yn monitro ffrydiau newyddion y Deyrnas Unedig a’r byd, ac yna’n ei droi’n gynnwys ffurf fer a oedd yn addas ar gyfer y gofod cyfyngedig ar dudalennau Ceefax.

Pan lansiwyd Ceefax, ychydig iawn o gartrefi yn y DU oedd â setiau teledu a oedd yn gallu dangos ei gynnwys. Wrth i setiau teledu gwell ddod yn fwy cyffredin, tyfodd cynulleidfa Ceefax. Ar un adeg roedd ganddo 22 miliwn o ddefnyddwyr wythnosol.

Roedd gan bob tudalen Ceefax ei rhif ei hun, a oedd yn galluogi defnyddwyr i ganfod tudalennau unigol gan ddefnyddio’r botymau ar eu teclyn rheoli’r teledu.

Ymysg y tudalennau mwyaf poblogaidd y rhai chwaraeon, o rif 301 i fyny. Cyn y rhyngrwyd, roedd hi’n arferol i gefnogwyr pêl-droed eistedd gartref yn gwylio’r sgrin wrth i’r sgoriau gael eu diweddaru. Mae’n debyg nad dyma’r ffordd fwyaf cyffrous o gael eich newyddion am chwaraeon, ond roedd yn hoelio sylw pobl ar y pryd.

Technolegau newydd yn ei ddisodli

Mewn sawl ffordd, roedd Ceefax a gwasanaethau eraill fel Teletext, Oracle a FourText (a oedd ar gael ar sianeli darlledu masnachol fel ITV a Channel 4), yn rhagflaenydd i’r rhyngrwyd, a hefyd i’r gwasanaethau ar y sgrin sydd bellach yn gyffredin, fel BBC iPlayer. 

Roedd yn rhoi mynediad i bobl at gyfoeth o newyddion a gwybodaeth gyfredol nad oedd modd cael gafael arni cynt – a hynny drwy bwyso botwm (neu fwy nag un botwm o bosib). Yn wir, disgrifiwyd y gwasanaeth gan yr awdur Barney Ronay fel ‘the horse-drawn internet’. 

Datblygiad technolegau digidol fel hyn a arweiniodd at ddefnyddio llai ar y gwasanaeth analog, ac at ei dranc yn y pen draw. Wrth i deledu digidol gael ei gyflwyno ar hyd a lled y DU, daeth Ceefax i ben yn 2012.

Er y gallai Ceefax sbarduno atgofion i rai ohonom, mae’n beth anghyfarwydd i’r genhedlaeth iau. Fe wnaethon ni ddangos rhywfaint o newyddion modern ar ffurf Ceefax i rai o’n cydweithwyr yn Ofcom – ar draws amrywiaeth o oedrannau – i weld sut bydden nhw’n mynd i’r afael ag ef. Gwyliwch i weld sut hwyl gawson nhw arni:

Yn ôl i'r brig