Abstract graphic of a sine wave

Edrych ymlaen at haf o sbectrwm

Cyhoeddwyd: 5 Mai 2023
Diweddarwyd diwethaf: 31 Mai 2023

Does dim llawer o bobl a fydd yn bresennol yng Nghoroni Brenin Charles III a Chystadleuaeth Eurovision, ond bydd peirianwyr sbectrwm Ofcom yn bresennol yn y ddau ddigwyddiad gwahanol iawn yma.

Mae ein timau sbectrwm yn paratoi ar gyfer haf o ddigwyddiadau amrywiol ledled y wlad. A bydd cyfnod prysur y flwyddyn yn dechrau gyda’r Coroni yn Llundain, ac yna bydd sioe gerddoriaeth fwyaf Ewrop yn cael ei chynnal yn Lerpwl dros y penwythnos olynol.

Bydd presenoldeb ein cydweithwyr yn hanfodol i sicrhau bod y digwyddiadau hyn yn mynd rhagddynt yn ddidrafferth ar y diwrnod a hefyd i helpu cynulleidfaoedd byd-eang i’w mwynhau wrth iddynt gael eu darlledu.

Mae graddfa’r digwyddiadau hyn – a’r diddordeb byd-eang maen nhw’n ei gynhyrchu – yn golygu y bydd llawer o ddarlledwyr rhyngwladol yn bresennol, gan helpu cynulleidfa fyd-eang i wylio gartref.

Mae llawer o ddarlledwyr yn golygu llawer o offer – a dyna lle rydyn ni’n chwarae ein rhan.

Beth yw rôl Ofcom yn y digwyddiadau yma?

Mae rhywfaint o’r offer hanfodol sy’n cael ei ddefnyddio gan ddarlledwyr a staff digwyddiadau – er enghraifft camerâu di-wifr a microffonau, monitorau yn y glust, ac offer cyfathrebu fel walkie-talkies – yn gweithredu ar wahanol amleddau ar y sbectrwm radio.

Ar gyfer digwyddiadau fel y rhain sydd â chyrhaeddiad byd-eang, bydd llawer o ddarlledwyr yn bresennol - ac mae hynny'n golygu llawer o offer. Yn y Coroni, er enghraifft, bydd 88 o ddefnyddwyr gan gynnwys darlledwyr, gyda 890 o amleddau sbectrwm unigol yn cael eu dyrannu rhyngddynt. Ac ar gyfer Eurovision mae 878 o amleddau wedi'u dyrannu i 17 o ddefnyddwyr mewn lleoliadau ledled y ddinas.

Ac mae’n hanfodol bod yr holl offer unigol hyn yn gweithredu’n ddiogel ac nad ydynt yn ymyrryd â’i gilydd – nac ag unrhyw dechnoleg arall a ddefnyddir yn y lleoliad neu gerllaw.

Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer digwyddiad fel y Coroni, er enghraifft, lle mae diogelwch yn hollbwysig. Gallai achosi problemau, er enghraifft, pe bai rhywfaint o’r offer di-wifr hwn yn effeithio ar allu’r gwasanaethau brys i gyfathrebu ar y diwrnod oherwydd bod technoleg ddi-wifr arall wedi effeithio ar eu hoffer.

Cyn ac yn ystod y digwyddiad

Er mwyn helpu i leihau’r risg y bydd hyn yn digwydd, mae Ofcom yn helpu i gynllunio’r defnydd o sbectrwm cyn i ddigwyddiadau gael eu cynnal, ac mae ganddo dîm ar y safle mewn llawer o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr fel y rhai sy’n digwydd dros yr haf.

Mae sbectrwm yn adnodd y mae llawer iawn o alw amdano pan fydd digwyddiadau mawr yn dod â nifer fawr o ddarlledwyr at ei gilydd. Felly, cynllunio yw’r gwaith pwysig sy’n digwydd cyn digwyddiadau fel y rhain.

Mae sefydliadau fel darlledwyr wedi’u trwyddedu a’u hawdurdodi i ddefnyddio sbectrwm mewn digwyddiad, ac mae bandiau penodol o sbectrwm yn cael eu dyrannu i bob un ohonynt. Drwy ddyrannu pob un o’r amleddau pwrpasol hyn, gallwn helpu i osgoi achosion o ymyriant.

A phan fydd y digwyddiadau ar y gweill, mae ein timau Gwneud Rhaglenni a Digwyddiadau Arbennig (PMSE) a sicrwydd sbectrwm ar y safle yn cydweithio, gan wirio offer a ddefnyddir gan ddarlledwyr, trwyddedeion a staff digwyddiadau i leihau’r risg o ymyriant.

Mae ganddyn nhw rôl ragweithiol pan fyddan nhw’n bresennol.  Mae’r peirianwyr Sbectrwm yn defnyddio derbynyddion monitro pwrpasol i wylio am drosglwyddiadau heb drwydded, a phan fyddant yn canfod signal anhysbys, byddant yn defnyddio cyfarpar profi radio fel dadansoddwyr sbectrwm i ganfod offer a gweithredwyr, a sefydlu a ydynt wedi’u trwyddedu ac yn defnyddio’r amleddau sbectrwm cywir.

Calendr llawn dop

Mae ein harbenigwyr yn gweithio y tu ôl i’r llenni drwy gydol y flwyddyn, a nhw yw’r arwyr tawel sy’n helpu i wneud yn siŵr bod y digwyddiadau enfawr hyn yn cael eu cynnal yn ddidrafferth – i ryddhad y trefnwyr ac i foddhad y cynulleidfaoedd sy’n eu mwynhau yn y cnawd neu os ydyn nhw’n gwylio ac yn gwrando gartref.

Efallai y bydd y Coroni ac Eurovision yn ychwanegiadau prin at y calendr, ond bydd ein cydweithwyr yn gweithio’n galed mewn mannau eraill drwy gydol yr haf a thu hwnt mewn lleoliadau ledled y DU.

O ddigwyddiadau chwaraeon mawr fel Grand Prix Prydeinig Fformiwla 1, Epsom Derby a Rownd Derfynol Cwpan FA, i gigs a gwyliau mwyaf y DU fel Glastonbury, Penwythnos Mawr Radio 1 a Gŵyl Download, byddwn ni yno.

Yn ôl i'r brig