Two Ofcom colleagues standing in a football stadium

Cefn y rhwyd! Cwrdd â'n tîm yn y cefndir yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA

Cyhoeddwyd: 17 Mai 2022
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Roedd miliynau o bobl yn y DU ac ar draws y byd yn gwylio darllediadau teledu o Rownd Derfynol Cwpan yr FA ddydd Sadwrn yn Wembley – ac roedd Ofcom yn y fan a'r lle i helpu sicrhau bod y darllediad yn ddigynnwrf.

Roedd y gêm, rhwng Lerpwl a Chelsea, yn un o'r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr chwaraeon eleni. Ac mae darlledwyr yn defnyddio amrywiaeth o offer i sicrhau bod y cynulleidfaoedd byd-eang hynny'n gallu tiwnio i mewn i'r gêm fawr.

FA-Cup-Cam

Mae rhai o'r offer y maent yn eu defnyddio – er enghraifft meicroffonau a chamerâu di-wifr, monitorau yn y glust, a chyfarpar cyfathrebu fel radios symud a siarad – yn defnyddio gwahanol amleddau ar y sbectrwm radio. Ac mae'n hanfodol bod yr holl ddarnau unigol hyn o offer yn gweithredu'n ddiogel a heb ymyriant.

I sicrhau hyn, mae gan Ofcom dîm ar y safle mewn llawer o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr fel Rownd Derfynol y Cwpan FA. Mae ein tîm Creu Rhaglenni a Digwyddiadau Arbennig (PMSE) yn gyfrifol am wirio offer a ddefnyddir gan ddarlledwyr a staff lleoliadau, i sicrhau nad ydynt yn ymyrryd â'i gilydd, nac ag unrhyw dechnoleg arall a ddefnyddir yn y lleoliad neu'n agos ato.

Ddydd Sadwrn, cafodd ein cynllunwyr sbectrwm Justin Whillock a Des Vitalis y dasg o sicrhau hyn.

FA-Cup-22

Roedden nhw yn Wembley ymhell cyn y gic gyntaf - a hyd yn oed ymhell ar y blaen i'r timau-yn cyrraedd yn y bore i ddechrau eu gwaith.

Mae'n cymryd oriau o brofi a gwirio i sicrhau y gellir defnyddio'r holl offer ar y diwrnod, ac mae angen cymeradwyaeth gan Ofcom ar gyfer pob eitem.

Mae'r cynllun amledd ar gyfer digwyddiad fel hwn yn cael ei gydgysylltu cyn y dydd, sy'n rhoi’r amser sydd ei angen ar ddarlledwyr i raglennu a pharatoi eu citiau. Fel digwyddiad mawr, mae gan Rownd Derfynol Cwpan yr FA ofyniad amledd radio ar gyfer cysylltiadau sain a gweledol o hofrennydd.

Unwaith y byddant ar y safle, mae ein tîm yn gweithio gyda darlledwyr a defnyddwyr offer eraill i gadarnhau bod eu citiau wedi'u tiwnio'n gywir fel y nodir yn y cynllun amledd. Maent yn cwmpasu bron pob modfedd o'r stadiwm, gyda dadansoddwyr sbectrwm a gliniaduron wrth law, yn chwilio'n gyson am offer neu weithredwyr ac yna'n sefydlu'n gyflym a ydynt wedi'u trwyddedu.

O ystyried maint a natur y citiau y maent yn eu defnyddio, mae criwiau ffilm symudol yn denu cryn sylw gennym, ond roedd ein tîm yn falch o ddweud bod digwyddiad eleni wedi rhedeg yn esmwyth, roedd y tywydd yn wirioneddol ogoneddus, ac roedd yn wych cwrdd â darlledwyr, rhoi wynebau i enwau a rhannu rhai straeon.

Diolch i waith Justin and Des, roedd darlledwyr o'r DU a thramor yn gallu defnyddio eu cit yn ddiogel ac yn ddidrafferth, gan sicrhau nad oedd gwylwyr yn colli allan ar weld y gêm – gan gynnwys yr amser ychwanegol a'r cosbau hefyd.

Yn ôl i'r brig