Heddiw rydyn ni wedi amlinellu ein cynllun ar gyfer sut y byddwn ni’n galluogi arloesedd a thwf i ddefnyddwyr presennol a newydd sbectrwm radio. Mae hyn yn cynnwys strategaeth newydd i gefnogi sector y gofod a harneisio potensial enfawr gwasanaethau cyfathrebu a ddarperir trwy loerenni.
O dan y strategaeth hon, bydd gweithredwyr lloerenni’n gallu cael mynediad i fwy o donnau awyr fel y gallan nhw ddarparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau band eang.
Mae hyn yn cynnwys systemau lloeren orbit nad yw’n ddaearsefydlog (NGSO) sy'n galluogi amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys darparu band eang lloeren i gartrefi ac eiddo busnes mewn ardaloedd anghysbell.
Oherwydd eu lleoliadau anghysbell, mae'n bosib nad oes modd i'r adeiladau hyn gael eu gwasanaethau band eang drwy'r rhwydweithiau arferol o geblau a gwifrau. Yn hytrach, mae'r band eang yn cyrraedd yr adeilad o loeren, yn yr un modd â gwasanaeth teledu lloeren.
Yn wahanol i loerenni orbit daearsefydlog traddodiadol (GSO) y maent yn parhau'n sefydlog mewn un lleoliad, sef y dull pennaf o ddarparu gwasanaethau cyfathrebu lloeren, mae miloedd o loerennau NGSO yn troi o gwmpas y Ddaear trwy'r amser. Caiff y rhain eu tracio gan ddysglau lloeren wrth iddynt symud ar draws yr awyr, ac maent yn cael eu defnyddio gan amrywiaeth o gwmnïau efallai eich bod wedi clywed amdanynt, megis OneWeb a SpaceX.