Mynediad di-wifr sefydlog (y band 5725 – 5850 MHz)

Cyhoeddwyd: 16 Mai 2023

Mae’r drwydded 5.8 GHz (band 5725 – 5850 MHz) yn gallu caniatáu offer pwynt-i-sawl-pwynt ar gyfer Atebion WIS, mynediad band eang i'r rhyngrwyd, a systemau 
gwyliadwriaeth fideo IP.

Mae’r band hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio gan wasanaethau eraill, gan gynnwys lloeren amatur, radar tywydd a radar milwrol. O dan drefn arferol sydd wedi’i heithrio o drwydded, ni fyddai’n bosibl i Ofcom ddarparu digon o ddiogelwch ar gyfer y gwasanaethau hyn na chaniatáu’r lefelau pŵer uwch sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth mynediad di-wifr sefydlog hyfyw ar sail a rennir. Felly, mae Ofcom wedi rhoi trefn trwyddedu ysgafn ar waith. Mae’r drefn hon yn gofyn am isafswm tâl a chofrestru.

Y ffi yw £1 am bob terfynell, yn amodol ar isafswm ffi o £50 am bob trwydded. Nid oes uchafswm ar faint o derfynellau y gallwch eu cael ar un drwydded.

Talwch ar-lein (am ffioedd hyd at £5000)

Neu, llenwch y slip talu sydd ynghlwm â’i ddychwelyd gyda'r anfoneb. Mae Ofcom yn derbyn y dulliau talu canlynol:

  •  Y dull talu a ffefrir yw cerdyn credyd/debyd, hyd at uchafswm o £5,000. Sylwch nad ydym yn derbyn American Express.
  • Ar gyfer taliadau dros £5,000, mae’n well cael a cyfarwyddyd debyd uniongyrchol. Ni ellir sefydlu debydau uniongyrchol mewn pryd i gasglu’r taliad cyntaf ond mae modd eu defnyddio ar gyfer taliadau yn y dyfodol. Fodd bynnag, gellir defnyddio debyd uniongyrchol i dalu am drwydded newydd os ydych chi eisoes yn drwyddedai gyda chyfarwyddyd debyd uniongyrchol byw wedi’i osod gyda’ch banc.
  • Os yw'n well gennych wneud taliad BACS, nodwch rif eich anfoneb, er mwyn i'n tîm Cyllid allu dod o hyd i'ch taliad yn hawdd.
  • Ar gyfer Drafftiau Banciwr Rhyngwladol, nodwch rif eich anfoneb. Bydd angen i chi ychwanegu’r tâl ar ddrafft banciwr rhyngwladol at y cyfanswm y gofynnwyd amdano.

Mae gennych tan eich dyddiad adnewyddu i dalu am y drwydded hon. Hwn fydd diwrnod olaf y mis, pan fyddwch yn cael yr anfoneb. Mae perygl y bydd eich trwydded(au) yn cael eu dirymu os na dderbynnir taliad erbyn y dyddiad hwn.

Gwnewch daliad dim ond ar ôl i chi gael anfoneb. Bydd taliadau cynnar yn cael eu dychwelyd atoch.

Ar ôl i chi gael anfoneb, dychwelwch y slip talu gyda chyfarwyddiadau talu i’n helpu i ganfod pa drwyddedau rydych yn talu amdanynt.

Ar ôl i chi wneud cais am drwydded, byddwch yn cael y manylion mewngofnodi 
angenrheidiol ar gyfer ein system gofrestru ar-lein. Sylwch fod cofrestru’n orfodol ar gyfer pob terfynell 5.8 GHz sydd wedi’i gosod.

Nodiadau cyfarwyddyd ar ddefnyddio’r system gofrestru ar-lein ar ôl cyflwyno.

Ar ôl cael hysbysiad dilysu, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd ar gyfer y drwydded (trwyddedau) yn gywir. Os yw’r holl ddata’n gywir, nid oes angen cymryd camau pellach. Os bydd angen i chi wneud unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau, rhowch wybod i ni ar unwaith drwy lenwi’r ffurflenni sydd ynghlwm a’u dychwelyd i Ganolfan Drwyddedu Ofcom.

Gellir newid y manylion cyswllt drwy anfon e-bost i Spectrum.Licensing@ofcom.org.uk

Neu gallwch ysgrifennu at Ganolfan Drwyddedu Ofcom yn y cyfeiriad isod:

Ofcom
FAO Spectrum Licensing
PO Box 1285
Warrington
WA1 9GL

Mae modd defnyddio’r band 5725 MHz i 5850 MHz (Band C) ar gyfer y gwasanaethau Mynediad Di-wifr Sefydlog (FWA), gyda defnydd penodol mewn ardaloedd lle nad yw band eang ar gael drwy lwyfannau cyflawni safonol. Gellir defnyddio FWA sy’n gweithredu ar fand C i ddarparu gwasanaethau band eang i amrywiaeth o ddefnyddwyr busnes, preifat a chyhoeddus.

Gallwch osod a defnyddio offer sy’n cydymffurfio â’r CE ac sy’n bodloni’r gofynion sbectrwm a ddisgrifir yn y gofyniad rhyngwyneb IR 2007

Ar hyn o bryd, caniateir mynediad i fand C 5.8 GHz ar gyfer defnyddwyr FWA ledled y DU ar sail eilaidd, ar yr amod nad oes unrhyw ymyriant yn cael ei achosi i’r prif ddefnyddwyr yn y band. Fodd bynnag, mae Ofcom yn cadw’r hawl i gyflwyno parthau eithrio daearyddol, os daw’n angenrheidiol i ddiogelu’r prif ddefnyddwyr ym mand C.

UK Interface Requirement 2007: Fixed Broadband Services operating in the 5725-5850 MHz band
(PDF, 215.1 KB)

Information on 5GHz Wireless Access Systems including Radio Local Area Networks (PDF, 256.8 KB)

Gallwch wneud cais i ildio neu amrywio drwy anfon e-bost i Spectrum.Licensing@ofcom.org.uk.

Neu gallwch ysgrifennu at Ganolfan Drwyddedu Ofcom yn y cyfeiriad isod:

Ofcom
FAO Spectrum Licensing
PO Box 1285
Warrington
WA1 9GL

Ni allwn brosesu cais i ildio tra byddwn yn aros am daliad adnewyddu. Cyflwynwch eich newidiadau o leiaf bythefnos cyn dechrau’r mis adnewyddu i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu prosesu. Bydd unrhyw geisiadau i ildio a ddaw i law ar ôl dechrau’r mis adnewyddu yn cael eu prosesu ar ôl i ni gael yr union ffi adnewyddu. Yn yr achos hwn, bydd unrhyw gredydau neu ddebydau’n cael eu cymhwyso i’r flwyddyn adnewyddu nesaf. Nid yw hyn yn cynnwys credydau am drwyddedau wedi’u hildio sy’n costio £75 neu lai, nad oes modd eu had-dalu.

Yn ôl i'r brig