Datganiad: Gwella mynediad i sbectrwm 5.8 Ghz ar gyfer mynediad band eang di-wifr sefydlog

Cyhoeddwyd: 27 Gorffennaf 2017
Ymgynghori yn cau: 21 Medi 2017
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Ar 27 Gorffennaf 2017, buom yn ymgynghori ar gynnig i ddileu cyfyngiad ar ddefnydd o fynediad band eang di-wifr (BFWA) mewn rhan o’r band 5725-5850 MHz (y band ‘5.8 GHz’).

Mae mynediad band eang di-wifr sefydlog (BFWA) yn cael ei ddefnyddio’n eang i ddarparu band eang i ddefnyddwyr a busnesau, yn arbennig i'r rheini mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd. Mae oddeutu 12,000 o derfynfeydd wedi cael eu cofrestru ar hyn o bryd o dan gynllun trwyddedu ysgafn Ofcom yn y band 5.8 Ghz.

Ar hyn o bryd, mae BFWA wedi’i gyfyngu rhag defnyddio’r amleddau rhwng 5795-5815 MHz i warchod systemau tollffyrdd. Ond, ychydig o ddefnydd mae’r systemau tollffyrdd yn ei wneud o’r amleddau hyn yn y Deyrnas Unedig.

Yn ein hymgynghoriad ym mis Gorffennaf, gwnaethom gynnig dileu'r cyfyngiad hwn a chaniatáu i BFWA ddefnyddio’r amleddau hyn. Esboniwyd gennym y byddai hyn yn galluogi sianelau ychwanegol, ehangach ar gyfer defnydd BFWA, a thrwy hynny gynyddu’r capasiti a/neu gyflymder y gallai gwasanaethau band eang yn y band hwn ei sicrhau.

Cawsom 21 o ymatebion i’n hymgynghoriad. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cefnogi ein cynnig ond mynegodd nifer o ymatebwyr bryderon am effeithiau ar dollffyrdd a defnydd amatur yn y band 5.8 GHz.

Rydym wedi adolygu’r ymatebion hyn yn ofalus ond nid ydym yn teimlo bod y rhain wedi nodi unrhyw wybodaeth newydd na materion sylweddol sy’n gwneud i ni adolygu ein cynnig. Felly rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen i gael gwared ar y cyfyngiad ar ddefnyddio BFWA yn 5795-5815 MHz.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Reuben Braddock
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig