abstract-graphic-of-a-sine-waves

Gweledigaeth ar gyfer rhannu’r sbectrwm 6 GHz uchaf rhwng gwasanaethau symudol a Wi-Fi

Cyhoeddwyd: 21 Mai 2024

Heddiw, mae Ofcom wedi nodi ei weledigaeth ar gyfer sut gallai’r defnydd o’r band sbectrwm 6 GHz uchaf gael ei rannu er mwyn galluogi gwasanaethau symudol a Wi-Fi, gan barhau i wasanaethu defnyddwyr presennol y band cymaint â phosibl.

Wrth i bobl ddefnyddio mwy a mwy o ddata yn eu bywydau bob dydd, mae mwy a mwy o ofynion ar y sbectrwm radio. Mae’n adnodd y mae pen draw iddo, felly rydym yn ystyried ffyrdd arloesol o sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio mor effeithlon â phosibl.

Ym mis Gorffennaf 2023, fe wnaethom ymgynghori ar ddull a fyddai’n caniatáu i wasanaethau symudol a Wi-Fi rannu sbectrwm yn y band 6 GHz uchaf, a elwir yn ‘rhannu hybrid’. Dyma fyddai’r tro cyntaf i dechnolegau symudol a Wi-Fi trwyddedig rannu sbectrwm yn helaeth.

Sut gallai hyn yn gweithio

Mae’r papur heddiw yn amlinellu dau ddull posibl a allai ffurfio fframwaith rhannu:

  1. Rhaniad sbectrwm amrywiadwy. Byddai gwasanaethau symudol a Wi-Fi yn gallu defnyddio unrhyw ran o’r band lle nad yw’r llall yn cael ei ddefnyddio, ond ceir rhannau ohono lle maent yn cael eu blaenoriaethu. Gellir gwneud hyn drwy sicrhau bod yn naill dechnoleg a’r llall yn trawsyrru signal penodol er mwyn iddyn nhw allu synhwyro ac osgoi ei gilydd.
  2. Rhaniad dan do/awyr agored. Mae llwybryddion Wi-Fi i wasanaethu aelwydydd benodol yn tueddu i fod dan do, tra mae gorsafoedd sylfaen symudol wedi’u lleoli yn yr awyr agored yn bennaf, i gynnig darpariaeth i ardal ehangach. Gellid rheoli’r band i flaenoriaethu’r defnydd o Wi-Fi dan do, gan flaenoriaethu defnydd symudol yn yr awyr agored ar yr un pryd.

Cydweithio a’r camau nesaf

Rydym yn gweithio gyda’r diwydiant i ddatblygu fframwaith rhannu hybrid a’r atebion angenrheidiol ar gyfer cydfodoli. Rydym hefyd yn gweithio gyda rheoleiddwyr Ewropeaidd eraill, ac mae disgwyl i adroddiad technegol ar y pwnc hwn gael ei gyhoeddi yn 2025. Yn gynharach y mis hwn, fe wnaethom groesawu amrywiaeth o gwmnïau technoleg a rheoleiddwyr Ewropeaidd i weithdy ar y pwnc hwn. Bydd y syniadau a drafodwyd gan tua 70 o gyfranogwyr yn ein helpu i fireinio ein syniadau ymhellach.

Mae Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y DU hefyd yn ariannu sawl treial tan fis Mawrth 2025 i archwilio technegau rhannu sbectrwm newydd, a ddylai ddarparu gwybodaeth ar gyfer ein gwaith.

Y flwyddyn nesaf, byddwn yn nodi rhagor o fanylion ynghylch sut rydym yn bwriadu sicrhau bod y band 6GHz uchaf ar gael yn y DU, a byddwn yn ymgynghori cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch defnyddio’r band yn y dyfodol.

Yn ôl i'r brig