Abstract graphic of a sine wave

Gweithio gyda’n gilydd i alluogi arloesedd wrth rannu sbectrwm

Cyhoeddwyd: 2 Tachwedd 2023
Diweddarwyd diwethaf: 2 Tachwedd 2023

Yn ddiweddar, cafodd Ofcom y fraint o gynnal digwyddiad ar rannu’r band sbectrwm 6 GHz Uchaf mewn modd hybrid. Daeth y digwyddiad ag arweinwyr diwydiant, rheoleiddwyr ac academyddion ynghyd i drafod y posibiliadau a'r heriau o ganiatáu i weithredwyr Wi-Fi a symudol rannu mynediad i'r band.

Ymunodd dros 100 o fynychwyr allanol â ni i archwilio potensial y dull arloesol hwn – gyda chynrychiolwyr o bob rhan o'r diwydiant yn cynnwys: gwneuthurwyr Wi-Fi a setiau sglodion symudol a chaledwedd, gweithredwyr rhwydwaith, cwmnïau technoleg mawr, adrannau'r llywodraeth, grwpiau diwydiant, rheoleiddwyr sbectrwm o Ewrop ac ehangach, a’r byd academaidd.

Ymhlith y prif siaradwyr ac aelodau panel roedd yr arweinwyr canlynol o’r diwydiant:

  • Andreas Johann (Swyddog Gweithredol, BMDV, Gweinyddiaeth Ffederal yr Almaen ar gyfer Digidol a Thrafnidiaeth)
  • Christopher Szymanski (Cyfarwyddwr yr Is-adran Marchnata Cynnyrch, Cyfathrebu Di-wifr a Chysylltedd, Broadcom)
  • Yr Athro William Webb (Prif Swyddog Technegol, Access Partnership)
  • Luigi Ardito - Cyfarwyddwr Materion Llywodraeth ar gyfer Ewrop, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, Qualcomm
  • Mark Henry – Cyfarwyddwr Strategaeth Rhwydwaith a Sbectrwm, BT/EE
  • Dr Martha Suarez – Llywydd, Dynamic Spectrum Alliance
  • Yr Athro Monisha Gosh – Athro Peirianneg Drydanol, Prifysgol Notre Dame
  • Saul Friedner – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Sbectrwm a Datblygu Busnes, LS Telcom
  • Stuart Cooke – Cyfarwyddwr Materion Diwydiant a Sbectrwm, Samsung

Roedd y digwyddiad yn llwyfan ddeinamig ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, mewnwelediadau a thrafodaethau cydweithredol. Arddangosodd barodrwydd yr arweinwyr hyn o’r diwydiant i archwilio gorwelion newydd mewn technoleg ddi-wifr a rhannu sbectrwm.

Rydym yn ddiolchgar am yr ymateb brwdfrydig a gafwyd gan yr holl gyfranogwyr ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y momentwm a sbardunwyd yn y digwyddiad hwn. Byddwn yn parhau i ymgysylltu i wneud rhannu hybrid yn llwyddiant, felly cadwch lygad ar y sefyllfa wrth i ni barhau ar y daith hon.

Yn ôl i'r brig