- Mae angen diwygio’r gwasanaeth cyffredinol ar frys i adlewyrchu’r hyn sydd ei angen ar bobl ac i ddiogelu ei ddyfodol
- Mae’r cynigion yn cynnwys danfon llythyrau Ail Ddosbarth bob yn ail ddiwrnod yn ystod yr wythnos, nid ar ddydd Sadwrn
- Bydd llythyrau Dosbarth Cyntaf yn dal i gael eu danfon chwe diwrnod yr wythnos, a bydd cap prisiau’n parhau ar stampiau Ail Ddosbarth
Heddiw, mae Ofcom wedi cynnig newidiadau i’r rhwymedigaethau ar y Post Brenhinol – gan ddiogelu nodweddion y post sydd bwysicaf i bobl – er mwyn rhoi’r gwasanaeth cyffredinol ar sylfaen fwy cynaliadwy.
Mae’r byd wedi newid – rydym yn anfon traean o’r llythyrau roedden ni’n arfer eu hanfon 20 mlynedd yn ôl. Mae angen i ni ddiwygio’r gwasanaeth post i ddiogelu ei ddyfodol a sicrhau ei fod yn cyflawni ar gyfer y DU gyfan.
Ond rydym yn diogelu’r hyn sydd bwysicaf i bobl – post Dosbarth Cyntaf chwe diwrnod yr wythnos am yr un pris ledled y DU, a chap prisiau ar stampiau Ail Ddosbarth.
- Natalie Black, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom
Pam mae angen diwygio
Er bod llawer o bobl yn dal i ddibynnu ar bost, mae’r ffordd maen nhw’n ei ddefnyddio wedi newid yn ddramatig. Ugain mlynedd yn ôl, roedd y Post Brenhinol yn danfon 20 biliwn o lythyrau. Mae’r nifer hwnnw bellach yn 6.6 biliwn y flwyddyn, ac mae’r Post Brenhinol yn disgwyl iddo fod yn 4 biliwn y flwyddyn yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Mae’r cwymp yn niferoedd y llythyrau sy’n cael eu hanfon wedi cynyddu cost gyfartalog danfon llythyr – gan fod gweithwyr post yn cerdded mwy o lwybrau nag erioed, ond yn danfon llawer llai o lythyrau, mae’r cwmni wedi bod yn colli cannoedd o filiynau o bunnoedd.[1]
Os na fydd y gwasanaeth cyffredinol yn esblygu i gyd-fynd ag anghenion cwsmeriaid, mae mewn perygl o fod yn anghynaliadwy, a gallai pobl orfod talu prisiau uwch na’r angen. Nid y DU yw’r unig wlad sydd angen ymateb i’r her hon. Mae gwledydd ar draws y byd yn diwygio eu rhwymedigaethau gwasanaeth cyffredinol.
Diogelu’r hyn sydd bwysicaf
Mae ein hymchwil yn awgrymu bod fforddiadwyedd a dibynadwyedd yn bwysicach i bobl na’r cyflymder danfon.
Mae pobl wedi dweud wrthym nad yw’r rhan fwyaf o lythyrau yn rhai brys. Fodd bynnag, mae wyth o bob deg (78%) yn gwerthfawrogi cael gwasanaeth y diwrnod canlynol pan fydd angen iddynt anfon eitem frys o bryd i’w gilydd, ac mae cyfran debyg (82%) yn gwerthfawrogi gallu anfon rhywbeth am yr un pris yn unrhyw le yn y DU.
Ar gyfartaledd, mae aelwydydd y DU yn gwario dim ond 60c yr wythnos ar wasanaethau post – 0.11% o’u gwariant wythnosol. Fodd bynnag, dywed naw o bob deg (90%) ei bod yn bwysig bod opsiwn fforddiadwy ar gael.
Felly, rydym yn diogelu’r hyn sydd bwysicaf i bobl, ac nid ydym yn newid y canlynol:
- parhau i roi cap ar bris stamp Ail Ddosbarth;
- mae un pris yn mynd i unrhyw le ledled y DU; a
- gwasanaeth Dosbarth Cyntaf y diwrnod canlynol chwe diwrnod yr wythnos.
Newidiadau i ddanfon llythyrau Ail Ddosbarth
Yn ein gwaith ymchwil manwl diweddaraf, dywedodd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr post nad oes angen danfon y rhan fwyaf o lythyrau chwe diwrnod yr wythnos.
Er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth cyffredinol yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn darparu’r hyn sydd ei angen ar bobl, rydym yn cynnig caniatáu i’r Post Brenhinol ddanfon llythyrau Ail Ddosbarth bob yn ail ddiwrnod yn ystod yr wythnos – o fewn tri diwrnod gwaith i’w casglu – ond nid ar ddydd Sadwrn.[2]
Rydym wedi asesu anghenion defnyddwyr post ac wedi dod i’r casgliad dros dro y byddai’r gwasanaeth newydd arfaethedig yn parhau i’w diwallu. A dweud y gwir, dim ond 4% o ddefnyddwyr sy’n meddwl y byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael effaith sylweddol iawn arnynt.[3]
Rydym yn amcangyfrif y byddai gweithredu’r newid hwn yn llwyddiannus yn golygu bod y Post Brenhinol yn gallu arbed rhwng £250m a £425m o gostau net blynyddol. Byddai hyn yn golygu ei fod yn gallu gwella ei ddibynadwyedd a symud adnoddau i feysydd twf fel parseli.[4]
Fodd bynnag, nid yw dim ond diwygio’r rhwymedigaethau hyn yn debygol o fod yn ddigon i sicrhau cynaliadwyedd ariannol tymor hirach y gwasanaeth cyffredinol. Rhaid i’r Post Brenhinol fuddsoddi yn ei rwydwaith, dod yn fwy effeithlon a gwella ei lefelau gwasanaeth gyda pharseli a llythyrau.
Ansawdd gwasanaeth
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw perfformiad danfon y Post Brenhinol wedi bod yn ddigon da. Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydym wedi rhoi dirwy o dros £16m i’r cwmni, a byddwn yn parhau i’w ddal i gyfrif.
Fodd bynnag, gan fod y farchnad bost wedi newid yn sylweddol ers i safonau danfon y Post Brenhinol gael eu gosod ddau ddegawd yn ôl, credwn ei bod yn briodol ailasesu’r targedau hyn gyda’r dyfodol mewn golwg, fel sydd wedi’i wneud mewn llawer o wledydd eraill yn barod.
Mae gan y DU dargedau mwy heriol na gwledydd Ewropeaidd tebyg. Byddai cynnal y safonau uwch presennol yn golygu costau uwch, a byddai angen eu hadennill drwy brisiau uwch. Mae ymchwil yn dangos bod pobl yn fwy parod i dderbyn gwasanaeth o ansawdd is na chynnydd mewn prisiau i dalu am fuddsoddiad i wella ansawdd.
Rydym yn cynnig dwy set o newidiadau i dargedau danfon y Post Brenhinol:
- Newidiadau bach i’r prif dargedau – danfon 90% yn hytrach na 93% o bost Dosbarth Cyntaf y diwrnod canlynol, a danfon 95% yn hytrach na 98.5% o bost Ail Ddosbarth o fewn tri diwrnod.
Byddai’r targedau newydd arfaethedig yn dal yn uchel yn ôl safonau rhyngwladol. Er enghraifft, targed tri diwrnod yr Almaen yw 95%, mae Sbaen yn 93%, ac mae Norwy a Gwlad Pwyl yn 85%. Yn ein hadolygiad o anghenion defnyddwyr post yn 2020, gwelsom y byddai gostyngiad i 90% yn diwallu anghenion 97% o bobl, o’i gymharu â 98% sy’n cael eu diwallu gan y targedau presennol.
- Byddai targedau wrth gefn newydd yn sicrhau, hyd yn oed os bydd llythyrau’n methu’r prif darged, y bydd defnyddwyr yn hyderus y byddant yn cyrraedd o fewn cyfnod rhesymol. Ar gyfer post Dosbarth Cyntaf, byddai’n rhaid danfon 99.5% o fewn tri diwrnod i bostio. Ar gyfer post Ail Ddosbarth, byddai’n rhaid danfon 99.5% o fewn pum niwrnod i bostio.
Mae’r targedau newydd hyn yn mynd i’r afael â’r broblem mae llawer o bobl wedi’i hwynebu lle mae’r llythyrau wedi cymryd wythnosau i gyrraedd. Mae llawer o wledydd eraill wedi cyflwyno targedau eilaidd fel hyn.
Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud
Mae croeso i unrhyw un ymateb i’n hymgynghoriad – y dyddiad cau yw 10 Ebrill 2025, ac rydym yn bwriadu cyhoeddi ein penderfyniad yn yr haf, ar ôl ystyried yr adborth a ddaw i law yn ofalus. Os byddwn yn penderfynu gwneud unrhyw newidiadau i’r rheolau presennol, rydym yn bwriadu iddynt ddod i rym ar y diwrnod y byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
1. Ers 2008, mae nifer y cyfeiriadau mae’n rhaid i’r Post Brenhinol anfon llythyrau iddynt wedi codi o 28 miliwn i 32 miliwn, ac mae ei refeniw o lythyrau wedi disgyn o £6.9bn i £3.7bn. Yn 2023/24, fe wnaeth y Post Brenhinol golled o £348m, ac yn 2022/23 fe wnaeth golled o £419m.
2. Enghreifftiau o amserlen arfaethedig danfon bob yn ail ddiwrnod yn ystod yr wythnos ar gyfer llythyrau Ail Ddosbarth:
3. Cafodd 3,145 o oedolion 16 oed a hŷn ledled y DU eu cyfweld rhwng 20 Medi a 3 Tachwedd 2024.
4. ‘Post swmp’ yw’r rhan fwyaf o’r llythyrau a anfonir heddiw (63%) – y llythyrau a anfonir gan sefydliadau mawr megis banciau, adrannau’r llywodraeth, y GIG neu awdurdodau lleol. Anfonir y llythyrau hyn y tu allan i’r gwasanaeth cyffredinol. Rydym yn mynnu bod y Post Brenhinol yn darparu mynediad i’w rwydwaith llythyrau, sy’n golygu bod yn rhaid iddo ddanfon llythyrau sy’n cael eu casglu gan gwmnïau post eraill. Mae’r Post Brenhinol yn defnyddio’r un rhwydwaith i ddanfon post y gwasanaeth cyffredinol a phost swmp. Felly, er mwyn gwireddu manteision unrhyw ddiwygiadau i’r gwasanaeth cyffredinol, rydym hefyd yn cynnig newidiadau i’r rhwymedigaethau mynediad ar y Post Brenhinol, er mwyn iddo allu cysoni ei weithrediadau.