royal-mail-post-office-delivery-vans-parked

Ofcom yn ymchwilio i berfformiad dosbarthu’r Post Brenhinol

Cyhoeddwyd: 10 Mehefin 2024

Mae Ofcom wedi agor ymchwiliad heddiw i fethiant y Post Brenhinol i gyrraedd ei dargedau dosbarthu ar gyfer 2023/24, yn dilyn y cwmni yn cyhoeddi eu canlyniadau y prynhawn yma.

O dan ein rheolau, mae’n rhaid i’r Post Brenhinol gyrraedd targedau perfformiad penodol dros y flwyddyn ariannol gyfan, ac eithrio cyfnod y Nadolig. Ymysg targedau eraill, mae’n rhaid i’r Post Brenhinol wneud y canlynol:

  • dosbarthu 93% o bost dosbarth cyntaf o fewn un diwrnod gwaith ar ôl ei gasglu; a
  • dosbarthu 98.5% o bost ail ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith ar ôl ei gasglu.

Mae’r Post Brenhinol wedi cydnabod heddiw nad oedd wedi cyrraedd y targedau perfformiad uchod yn 2023/24, gan ei fod wedi gwneud y canlynol:

  • dosbarthu 74.5% o bost dosbarth cyntaf o fewn un diwrnod gwaith; a
  • dosbarthu 92.4% o bost ail ddosbarth o fewn tri diwrnod gwaith.

Wrth benderfynu a yw’r cwmni wedi mynd yn groes i’w rwymedigaethau, byddwn yn ystyried a fu unrhyw ddigwyddiadau eithriadol – y tu hwnt i reolaeth y cwmni – a allai egluro pam ei fod wedi methu ei dargedau.

Os nad oes esboniad boddhaol ar gael, a’n bod yn penderfynu bod y Post Brenhinol wedi methu â chydymffurfio â’i rwymedigaethau, byddwn yn ystyried a ddylid gosod cosb ariannol.

Llynedd roedd Ofcom wedi rhoi dirwy o £5.6m i’r cwmni am fethu â chyflawni ei dargedau dosbarthu dosbarth cyntaf ac ail ddosbarth rheoleiddiol yn 2022/23.

Nodiadau i olygyddion:

Hanes ansawdd gwasanaeth y Post Brenhinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf:

  • 2022/23: Fe wnaethom roi dirwy o £5.6m i’r Post Brenhinol.
  • 2020/21 a 2021/22: Cafodd pandemig Covid-19 effaith sylweddol, hollbresennol a digynsail ar weithrediadau'r Post Brenhinol.
  • 2019/20: Roedd y Post Brenhinol ar y trywydd iawn i gyrraedd ei dargedau cyn Covid-19, a gafodd effaith ar ei weithrediadau dros wythnosau olaf y flwyddyn ariannol. Yn unol â hynny, roeddem yn fodlon bod y cwmni wedi cyflawni ei rwymedigaethau rheoleiddiol.
  • 2018/19: Fe wnaethom roi dirwy o £1.5m i’r Post Brenhinol.
Yn ôl i'r brig