Adolygu’r Amodau Hawliau Cyffredinol

Cyhoeddwyd: 19 Medi 2017
Ymgynghori yn cau: 14 Tachwedd 2017
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Mae’r datganiad hwn yn sôn am newidiadau rydym yn eu gwneud i’r Amodau Hawliau Cyffredinol – y rheolau rheoleiddio y mae’n rhaid i bob darparwr cyfathrebiadau eu dilyn er mwyn gweithredu yn y DU.

Mae’r datganiad hwn yn sôn am y canlynol:

  1. diweddaru cyfarwyddyd sy’n nodi pa gyrff cyhoeddus gaiff ofyn i’r diwydiant wneud trefniadau i adfer gwasanaethau cyfathrebiadau os bydd trychineb;
  2. ymestyn ein pŵer ymhellach o ran dileu rhifau ffôn sydd ddim yn cael eu defnyddio’n unol â’r Cynllun Rhifau Ffôn Cenedlaethol, neu sy’n cael eu camddefnyddio mewn ffordd arall;
  3. cynnig canllawiau ar gyfer gweithdrefnau terfynu contractau.

Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2018, sef yr un diwrnod y mae’r Amodau Cyffredinol yn dod i rym.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Selene Rosso
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig