Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ein hadroddiad monitro blynyddol ar gynnydd Openreach tuag at fod yn fwy annibynnol.
Yn 2017, cytunodd BT i'n gofynion i ddiwygio ei adran rhwydweithiau, Openreach. Roedd hyn yn gofyn i Openreach gytuno i nifer o ymrwymiadau, mynd yn gwmni gwahanol gyda'i staff, ei reolaeth a'i strategaeth a phwrpas cyfreithiol ei hun i wasanaethu ei holl gwsmeriaid yn gyfartal.
Er mwyn monitro cydymffurfiaeth BT ac Openreach â'r gofynion hyn, sefydlwyd Uned Monitro Openreach (OMU) benodedig gennym, sy'n monitro sut mae'r trefniadau hyn yn gweithio, a ydynt yn glynu wrth y rheolau newydd, ac a yw Openreach yn gweithredu'n fwy annibynnol ar BT ac yn gwneud ei benderfyniadau ei hun. Mae'r adroddiad blynyddol heddiw yn nodi bod Openreach, ar y cyfan, yn gweithredu'n annibynnol ar BT, fel y rhagwelir gan yr ymrwymiadau. Mae strwythurau a phrosesau cryfion bellach wedi'u gwreiddio'n dda ar draws y ddau sefydliad i'w helpu i gefnogi cydymffurfiaeth, neu i ymdrin ag unrhyw broblemau a allai godi.
Mae'r ymrwymiadau hyn yn bwysig i gefnogi cystadleuaeth yn y farchnad telathrebu. Felly, rydym yn disgwyl i BT ac Openreach barhau i fod yn wyliadwrus o ran sut maent yn cydymffurfio. Byddwn yn parhau i fonitro datblygiadau'n agos.
Symud ymlaen
Yn gynharach eleni, gwnaethom nodi rheoliadau newydd ar gyfer y marchnadoedd telathrebu cyfanwerthol a fydd yn helpu i siapio dyfodol ffeibr llawn y DU.
Nod ein fframwaith Adolygu'r Farchnad Telathrebu Sefydlog Cyfanwerthol yw cymell pob adeiladwr rhwydwaith, gan gynnwys Openreach, i ddod â band eang cyflymach a mwy dibynadwy i bobl ledled y DU. Mae gan Openreach rôl bwysig i'w chwarae hefyd o ran sicrhau bod cystadleuaeth yn gweithredu'n effeithiol, er enghraifft drwy ganiatáu i adeiladwyr eraill gael mynediad i'w cwndidau tanddaearol a pholion telegraff.
O ystyried hyn, byddwn yn ehangu sut rydym yn monitro Openreach yn y dyfodol i gynnwys meysydd sy'n ymwneud â ffeibr llawn. I gefnogi ein gwaith monitro, rydym yn annog cwmnïau i roi gwybod i ni am unrhyw bryderon a allai fel arall achosi perygl o danseilio datblygiad rhwydweithiau ffeibr llawn cystadleuol ac argaeledd eang.
Fel rhan o'r gwaith monitro eleni, mae rhai materion eisoes wedi cael eu hamlygu i ni. Rydym yn annog Openreach i ymgysylltu â'i gwsmeriaid ar y meysydd hyn o bryder, a gweithio ar y cyd i'w goresgyn. Byddwn yn adrodd ar gynnydd ar y rhain a meysydd eraill a amlygwyd gan gwmnïau yn ein hadroddiad nesaf.