Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth Ofcom, sy'n egluro ein hymagwedd i hyrwyddo llythrennedd y cyfryngau yn y DU.
Un o'r pethau mwyaf y mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi’i ddysgu i ni yw ei fod yn hanfodol mynd ar-lein i'n cadw mewn cysylltiad â'r byd o'n cwmpas. I lawer ohonom, mae hynny'n golygu cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau; i eraill mae'n golygu gweithio gartref neu helpu ein plant i ddysgu o bell.
I lawer o bobl, 'ti ar miwt' yw'r ymadrodd y clywid fwyaf yn y gwahanol gyfnodau clo. Ond i eraill, mae'r newid i'n bywydau bob dydd yn ystod y pandemig wedi rhoi rheswm dros ddarganfod eu 'llais' digidol am y tro cyntaf. P'un ai drwy ddysgu sut i anfon e-bost neu wneud galwad fideo, siopa ar-lein, neu ffrydio eu hoff ffilmiau a sioeau teledu. Ac yna mae 'na bobl a aeth ar-lein i ddarganfod sut i chwarae offeryn cerdd, siarad iaith newydd, dechrau swydd, perfformio ar-lein neu gymryd rhan mewn cwisiau tafarn rhithwir.
Mae'r holl weithgareddau hynny'n gofyn am lefel o wybodaeth a sgìl i lywio trwyddynt ar-lein. Mae medru gwneud y pethau hynny – a mwynhau manteision bod ar-lein yn ddiogel a gyda hyder - yw'r hyn sydd wrth wraidd ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.
Mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau'n ffordd o adeiladu bywyd mwy diogel ar-lein ac ar yr un pryd dyna'r tocyn i gymryd rhan yn llawn yn ein cymdeithas. Mae'r gallu i fynd ar-lein mewn ffordd ddiogel a gwybodus yn ein helpu i gael mynediad at wasanaethau'r llywodraeth, sicrhau'r bargeinion gorau gan gwmnïau nwy a thrydan, rheoli ein harian, gwneud ein siopa a mwynhau ein hoff adloniant. I filiynau o bobl ifanc yn eu harddegau, chwarae gemau a rhannu ar-lein yw eu prif gyfred cymdeithasol. Cymryd rhan ar-lein yw'r porth i gael eu cynnwys yn yr ysgol.
Mae'n rhaid i'n plant allu mwynhau eu maes chwarae digidol yn ddiogel.
I bobl hŷn, gall galwadau fideo liniaru oriau unig, neu gallant gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd o bell. Mae'n rhaid i'n bobl oedrannus allu siarad â'u teuluoedd, eu meddygon a gweud trafodion busnes yn ddiogel. I lawer o bobl ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yw'r gallu i feddwl yn feirniadol o ble y daw gwybodaeth - boed hynny'n newyddion, yn glecs am enwogion neu'n wybodaeth iechyd.
Mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau'n bwysig am gynifer o resymau. Mae'n bwysig y gallwn i gyd gymryd rhan ar-lein. Mae'n bwysig y gall y rhai sydd ar gyrion ein cymdeithas hefyd elwa o gael eu cysylltu. Mae'n bwysig ein bod i gyd yn gwybod nid yn unig sut i gadw'n ddiogel ar-lein, ond i gael y sgiliau a'r hyder i ffynnu ar-lein; i wneud y pethau rydym yn eu mwynhau, dod o hyd i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom, a chysylltu â'r rhai yr ydym yn eu caru.
Gall rhai pobl wneud hyn yn dda iawn yn barod. Maent yn hyderus ar-lein ac yn gallu cael mynediad i adnoddau a chymorth pan fydd eu hangen arnynt. Ond nid yw hyn yn wir am bawb. Nid yw darpariaeth ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar-lein ar gyfer grwpiau mawr o fewn ein cymuned – yr henoed, pobl sy'n agored i niwed, y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, grwpiau lleiafrifol, neu siaradwyr ieithoedd eraill – yn hygyrch, naill ai am nad yw'n bodoli neu oherwydd ei bod yn anodd iddynt ddod o hyd iddi.
Wrth gwrs, mae'n rhaid i ymwybyddiaeth o'r cyfryngau fod yn fwy na dim ond yr hyn a wnawn ein hunain. Mae gan y llwyfannau a'r gwasanaethau a ddefnyddiwn gyfrifoldeb yn y maes hwn hefyd. Waeth p'un a yw hynny'n ysgogiad i ddarllen cynnwys cyn rhannu, gosod cyfrifon plant yn breifat yn ddiofyn neu egluro mai hysbysebion yw'r canlyniadau chwilio pennaf.
Cenhadaeth Ofcom yw sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb - ac mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar-lein yn rhan hanfodol o hynny. Dyna pam rwy'n falch iawn bod y ddogfen hon yn manylu ar y pum ffordd yr ydym yn ymdrin ag ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Mae rhai edafedd, fel ein hymchwil flaenllaw i ddefnydd y gwledydd o'r cyfryngau a'u hagweddau atynt, yn hirsefydlog ac uchel eu parch. Mae meysydd eraill yn fwy newydd i ni – er enghraifft, byddwn yn comisiynu rhaglenni peilot i wasanaethu grwpiau a danwasanaethir yn well. A byddwn yn gweithio gyda llwyfannau a darparwyr gwasanaethau – nid yn unig i ddeall yr hyn y maent yn ei wneud eisoes – ond i greu consensws ynghylch arfer gorau i symbylu gwelliannau i'r llwyfannau eu hunain. Rydym wedi recriwtio arbenigwyr i'n helpu i wneud y gwaith hwn yn y ffordd orau sy'n bosib, a byddwn yn parhau i gryfhau ein sgiliau a'n harbenigedd yn y meysydd hyn.
Mae grymuso pobl i fod â'r hyder i 'ddod oddi ar miwt' – ehangu eu gorwelion ar-lein a gwella eu hymwybyddiaeth feirniadol yn y byd digidol carlam sydd ohoni – yn ymdrech a rennir. Ac felly mae ein drws yn agored i unigolion neu sefydliadau â diddordeb sydd am gyfrannu at neu gymryd rhan yn y gwaith uchelgeisiol a nodir yn ein cynllun. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth digidol ym mywydau pobl.