Mae gan Ofcom genhadaeth i sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb, mewn fformatau traddodiadol ac ar-lein. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni ystyried sut y gall pawb elwa'n ddiogel o bopeth y gall fod ar-lein ei gynnig. Mae'n golygu taclo'r anghydbwysedd sgiliau a gwybodaeth ymhlith gwahanol rannau o'r boblogaeth ac annog llwyfannau i ddylunio ar gyfer ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Bu i'r cyfnodau clo gyflymu tuedd o ddefnydd hollbresennol o gysylltedd, rhywbeth sydd yma i aros.
Mae hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau'n arf allweddol yn ein prif ddyletswydd i hyrwyddo buddiannau dinasyddion a defnyddwyr a bydd yn hanfodol i'n swyddogaethau yn y dyfodol fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein. Rydym yn ail-lansio ein rhaglen ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar-lein, gan ddefnyddio ein pwerau presennol, gyda'r nod o hyrwyddo gallu pobl i gymryd rhan yn effeithiol a chadw'n ddiogel ar-lein.
Mae'r ddogfen hon yn amlinellu ein hymagwedd at hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, a sut mae'n gweddu i'n rôl rheoleiddio ar-lein.
Ymagwedd Ofcom at ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar-lein (PDF, 1.3 MB)