Y Fonesig Melanie Dawes, Connected Britain, 11 Medi 2024
Bore da.
Sawl blwyddyn yn ôl, yn Brighton, roedd cydweithiwr o Ofcom yn sefyll ar ben yr adeilad uchaf yn y cyffiniau. Roedd yn ddiwrnod cynnes o Fedi, ac mae 100 metr yn yr awyr gyda golygfeydd clir dros Fôr Udd.
Mae ein cyfaill yn gwneud ei orau i beidio amharu ar nyth hebog tramor prin gerllaw. Yn ei law mae ganddo gyfrifiadur sydd wedi costio £30 ac erial metr o hyd.
Dyma Rashid Mustapha, peiriannydd sy’n rhan o’n tîm sbectrwm. Mae ar fin treialu ei ddyfais newydd: ffordd newydd o ddarlledu radio digidol.
Mae mor rhad a syml, ac os gall wneud iddo weithio, mi all cannoedd o orsafoedd cymunedol ledled y DU ddechrau darlledu.
Wrth iddo roi ei gyfarpar ymlaen, mae signal prawf o wylanod lleol i’w clywed ar setiau radio ym mhob rhan o’r ddinas.
Bedwar mis yn ddiweddarach, mae cri’r adar wedi dod yn boblogaidd. Pan ddaeth yn amser i’w tewi, roedd rhai gwrandawyr braidd yn siomedig.
Ond roedd yr arbrawf yn llwyddiant. Mae Rash wedi datblygu ‘DAB ar raddfa fach’ ar gyfer y DU. Mae wedi agor y drws i radio digidol i gannoedd o orsafoedd – a hynny am gyfran fechan iawn o’r gost arferol.
Ers hynny rydym wedi cynnal cyfres o dreialon, gyda chymorth ariannol gan y Llywodraeth. Yn 2021 lansiwyd y gwasanaethau cyntaf, i fyny yn Tynemouth a South Shields.
Erbyn heddiw, mae dros ddau gant o orsafoedd newydd yn cyrraedd eu cymunedau drwy’r dull hwn. Cafodd Rash MBE i gydnabod ei waith. Mae wedi creu math o dechnoleg nad yw fel arfer yn cyrraedd y penawdau, rhywbeth angerddol, personol, lleol. Ond mae’n dangos arloesedd – a dychymyg – i greu cyfleoedd i bobl gysylltu.
A dyma pam yr ydym yma heddiw: i edrych ar ffyrdd o hyrwyddo a defnyddio technolegau sy’n dod â ni’n nes at ein gilydd.
Mae ein diwydiant telathrebu’n arwain y byd, ac mae Ofcom yn falch o fod yn ei reoleiddio. Mae angen inni chwarae ein rhan ein hunain i greu’r amodau sy’n eich galluogi i ffynnu.
Rydym am weld marchnad lle gall buddsoddiad sicrhau enillion teg; lle gall cystadleuaeth ffynnu; a lle gall arloesedd dyfu.
Mae angen rheoleiddiwr arnoch sy’n deall busnes. Un sy’n rhagweld technoleg newydd. Un sydd ei hun yn arloesi, i ddal i fyny â marchnad sy’n newid.
Felly, beth mae Ofcom yn ei wneud i’ch helpu i hybu a thyfu ein heconomi ddigidol?
Heddiw, mi hoffwn gynnig tair enghraifft:
Arloesi mewn band eang
Gadewch inni ddechrau o dan y ddaear, lle mae chwyldro tawel ar waith i drawsnewid sut yr ydym yn cysylltu.
Bum mlynedd yn ôl, prin y gallai un o bob deg cartref a swyddfa ym Mhrydain fanteisio ar fand eang ffibr llawn, cyflym iawn sy’n barod ar gyfer gofynion y dyfodol.
Roeddem yn sylweddoli, oni fyddai hyn yn newid, y byddai ein rhwydweithiau’n gwegian o dan bwysau cynyddol y galw am ddata.
Gweithio o bell, cyfrifiadura yn y cwmwl, ffrydio fideo, gemau gyda sawl chwaraewr ... mae’r rhain i gyd yn gofyn am gyflymder a dibynadwyedd.
Roeddem am i ddatblygiad ffibr llawn gael ei weld fel prosiect seilwaith cenedlaethol, yn yr un ffordd ag adeiladu tai, ynni glân a rheilffyrdd cyflym.
Roeddem eisiau i Openreach, y cwmni mwyaf, gyflymu eu cynlluniau ar gyfer ffibr llawn. Roeddem hefyd eisiau cymell rhwydweithiau newydd, fel y byddai cystadleuaeth yn hybu buddsoddiad ac arloesedd.
Mewn geiriau eraill, roedd angen fframwaith newydd ar gyfer rheoleiddio.
Felly ar y dechrau, ni oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i adolygu’r farchnad band eang ffisegol. Mewn geiriau eraill, y twneli a’r polion telegraff sy’n cludo’r gwifrau.
Pam oedd hynny mor bwysig? Wel, mi oedd yn dangos yr angen i Openreach, y cyfrannwr mwyaf, i drwsio ac ehangu ei seilwaith. Roeddem hefyd am i’r cwmni wneud yn siŵr bod ei ddwythellau a’i bolion ar gael, heb gyfyngiadau, i gwmnïau eraill a oedd yn gosod eu ceblau eu hunain. Roedd hyn yn haneru’r gost gyfalaf o gysylltu pob adeilad newydd i gwmnïau newydd.
Ond roedd yn rhaid mynd ymhellach na hyn. Fel y gwyddoch yn dda, mae risgiau ynghlwm wrth brosiectau seilwaith, ac mae buddsoddwyr eisiau sefydlogrwydd a deall yr hyn sy’n debygol o ddigwydd. Os oedd cwmnïau am gael yr hyder i adeiladu, mi fyddai’n rhaid wrth ddull newydd.
Felly, penderfynwyd cefnu ar y ffordd draddodiadol, sy’n seiliedig ar gost, o reoleiddio. Yn hytrach, caniatawyd i BT ac eraill bennu eu prisiau eu hunain ar gyfer cynnyrch arloesol, cyflym iawn – yn gyfnewid am gadw eu helw os oedd y buddsoddiad yn talu.
Ymatebodd y diwydiant drwy ei fentrau arloesol eu hun. Eleni, dangosodd CityFibre – y trydydd rhwydwaith mwyaf – dechneg newydd inni i blethu ffibrau o fewn un cebl fflat. Mae hynny’n arbed llawer o amser i beirianyddion. Mae CityFibre ymhlith y rhai sy’n buddsoddi yn y systemau monitro diweddaraf. Mae hynny’n golygu y gallant drwsio nam cyn eich bod chi, y cwsmer, yn ymwybodol ohono, yn oed.
Mae cwmnïau her yn cystadlu ar safonau cysylltu data newydd, sy’n eu galluogi i gynnig cyflymderau cyflym iawn sy’n fwy na gigabeit yr eiliad. Mae Openreach yn gwneud yr un peth. Mae band eang yn gyflymach nag erioed.
Dyna sy’n digwydd pan fydd arloesi a gwaith rheoleiddio’n gweithio â’i gilydd.
Ers i’n cyfundrefn reoleiddio newydd ddod i rym, mae twf ffibr llawn wedi cynyddu’n gyflym. Mae’r DU yn cyflwyno ffibr llawn ar raddfa gyflymach nag unrhyw wlad arall yn Ewrop.
Mae tua dau o bob tri eiddo wedi’u cysylltu, ac rydym ar y trywydd i gyrraedd 97% o fewn tair blynedd. Dim ond Ffrainc sydd â chyfraddau tanysgrifio sy’n tyfu’n gyflymach.
Rydych wedi helpu i gyflawni hyn.
Ac wrth gwrs, mi fydd pawb yn elwa.
Mae’r buddiannau uniongyrchol yn amlwg. Llai o namau. Lawrlwytho cyflymach. Dim byffro pan fydd Strictly yn dechrau ar nos Sadwrn. Mi allwch weld fy mod wedi fy nghyffroi gan hyn.
Ond mae’r chwyldro band eang yn llawer mwy na hyn.
Mae tyfu ein heconomi hefyd yn rhan ohono. Mynd i’r afael â’r gagendor digidol. Hybu cynhwysiant digidol. Helpu i foderneiddio ein gwasanaethau cyhoeddus.
Felly pan fydd pobl yn gofyn a all Prydain ‘wneud’ prosiectau seilwaith cenedlaethol mawr, yr ateb yw: Edrychwch ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni eisoes.
Edrychwch ar fand eang, lle mae arloesi mentrus mewn rheoleiddio, technoleg a pheirianneg sifil wedi cyfuno i drawsnewid ein safle ymhlith y prif economïau.
Arloesi ar-lein
Dyna’r byd newydd o dan ein traed.
Ond beth am y gwasanaethau sy’n dibynnu ar y rhwydweithiau hyn – y gwefannau a’r appiau rydym yn eu defnyddio bob dydd yn ein cartrefi a’n swyddfeydd, ar ein ffermydd, yn ein ffatrïoedd, ar ein bysiau a’n trenau?
Mae’r byd ar-lein hwn yn ffynhonnell arall o newid ac aflonyddu. Efallai nad oes yr un sector arall wedi profi’r fath arloesi yn y degawd diwethaf.
Meddyliwch - pan gyfarfu’r gynhadledd hon gyntaf ddeng mlynedd yn ôl, nid oedd Instagram a Snapchat yn ddim mwy na babanod bach. Nid oedd sôn am TikTok na Substack; dim ChatGPT na fideos ffugiadau dwfn.
Mewn ychydig o flynyddoedd yn unig, mae cymaint wedi newid. Llawer ohono er gwell. Mae llawer o’r gwasanaethau ar-lein hyn wedi dod â buddiannau yn eu sgil.
Ond mae peryglon ynghlwm wrth eraill. Dyna pam mae’r Senedd wedi pasio’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, sydd wedi rhoi’r gwaith i Ofcom o greu bywyd ar-lein mwy diogel i bawb yn y DU.
Mae hwn hefyd yn faes lle mae’r DU yn arloesi. Mae gwledydd eraill yn cyflwyno deddfau tebyg. Ond gellid dadlau nad oes yr un ohonynt wedi dangos yr un uchelgais â’r DU i roi sylw i amrediad mor eang o niwed, yn enwedig i’n plant.
Cofiwch, mae hyn yn golygu llawer o waith. Pan ddaw’n fater o reoleiddio ar-lein – yn debyg iawn i delathrebu – rhaid cael rheolau trylwyr, ymatebol sydd wedi’u seilio ar y dystiolaeth, y data a’r ymchwil gorau sydd ar gael.
Felly mae Ofcom wedi recriwtio pobl sy’n arbenigwyr mewn Deallusrwydd Artiffisial, dysgu peirianyddol, hunaniaeth ddigidol a chymedroli cynnwys.
Rydym yn datblygu labordy ym Manceinion sy’n galluogi ein timau i weithio’n uniongyrchol â’r dechnoleg ac i edrych ar yr hyn sy’n bosibl.
Er enghraifft, rydym yn defnyddio data i ddeall ym mhle mae plant yn treulio’u hamser ar-lein, ac i sylwi ar batrymau ymddygiad. Er mwyn ein helpu i asesu risgiau, rydym yn creu systemau awtomatig i wirio a oes gan safleoedd pornograffi'r gwiriadau oedran cywir.
Rydym yn edrych sut y gall modelau iaith fawr ddadansoddi telerau ac amodau cwmnïau technoleg. Bydd hynny’n ein galluogi i ganfod cwmnïau sydd heb hyd yn oed bolisi ar derfysgaeth ac iaith casineb, heb sôn am y mesurau priodol i fynd i’r afael â hwy.
Mae’n arwyddocaol ein bod wedi ffurfio partneriaeth â chyrff arbenigol a rheolyddion eraill, yma ac mewn rhannau eraill o’r byd. Rydym wedi treulio amser yn yr UDA, yn cwrdd â rhai o gwmnïau technoleg mwyaf y byd i ddysgu sut maent yn gwella ymddiriedaeth a diogelwch. Beth maent wedi’i ddysgu? I ba gyfeiriad maent yn mynd?
Mae hyn yn bwysig iawn – oherwydd yn y pen draw, waeth pa mor ymatebol ydym ni fel rheolydd, dim ond y diwydiant ei hun all wella diogelwch ar ymddiriedaeth. Mi all hynny olygu datblygu biometreg fel ffordd ddibynadwy o gadarnhau oedran defnyddiwr; neu offer mwy effeithiol o ganfod cynnwys niweidiol – rhaid inni ganiatáu gofod ar gyfer arloesi masnachol i ddod o hyd i’r atebion cywir.
Rhaid bod yn agored i fusnesau, a bod yma i helpu. Dyna pam rydym wedi ffurfio partneriaethau â rheolyddion digidol eraill – y CMA, ICO a’r FCA – i ateb cwestiynau’n uniongyrchol gan arloeswyr, drwy Hyb AI a Digidol. Os ydynt yn cyflwyno cynnyrch, gwasanaeth neu fodel busnes newydd i’r farchnad, a bod angen i chi ddeall gofynion y gwahanol reolyddion mewn meysydd fel cystadleuaeth a data, mi allwch gysylltu â’r Hyb a chael ymateb cyflym, ar y cyd gyda’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Arloesi mewn sbectrwm
Yn awr, at yr enghraifft olaf o ysbrydoliaeth.
Mae ein siwrnai wedi mynd â ni o awyr Sussex i Silicon Valley, drwy’r twneli o dan eich traed. I orffen, gadewch inni edrych ar yr awyr. Na, nid gwylanod y tro hwn, ond math gwahanol o aderyn.
Lloerennau
Ni welodd y diwydiant hwn y fath dwf o’r blaen yn ei hanes. Mae mwy nag erioed ohonynt mewn orbit isel uwchben y DU, gan newid sut yr ydym yn byw ac yn cysylltu.
Mae Rhaglen Gofod Ofcom yn sail i’r gwaith hwnnw, gan wneud mwy o sbectrwm ar gael i loerenni sy’n dod â buddiannau i’r DU.
Mae rhai o’r adar hyn yn dod â band eang gigabeit i rai o’n hardaloedd mwyaf diarffordd. Cyn hir byddant yn cysylltu’r gwasanaethau brys â’ch dyfais, ble bynnag y byddwch.
Mae lloerenni eraill yn gwella sut yr ydym yn proffwydo’r tywydd a monitro newid yn yr hinsawdd. Mae eraill yn galluogi telesgopau newydd i weld galaethau pellennig, sy’n gwella ein dealltwriaeth o’r bydysawd sydd ar hyn o bryd y tu hwnt i gyrraedd pobl.
Yn ôl ar y Ddaear, mae cymunedau hefyd yn elwa. Mae Ofcom yn mabwysiadu ffordd newydd o wneud sbectrwm ar gael, drwy bolisi a elwir yn ‘mynediad a rennir’, sy’n golygu y gallwn agor llwybrau awyr newydd i wahanol ddefnyddwyr mewn ardaloedd lleol iawn.
Mae hyn wedi arwain at sefydlu rhwydweithiau preifat ledled y DU. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ffatrïoedd gweithgynhyrchu, porthladdoedd a meysydd awyr ar hyd a lled y wlad.
Yn y cyfamser, rydym wedi agor llwybrau awyr newydd i system ar y ddaear, sy’n debyg i GPS, a all wella cydnerthedd ein seilwaith cenedlaethol hanfodol. A thrwy ddefnyddio’r un sbectrwm, rydym yn helpu DSIT i alluogi gwasanaethau wrth gefn ar gyfer lleoli, llywio ac amseru.
Dyma un maes yn unig lle mae gennym bartneriaeth â’r Llywodraeth – ac wrth gwrs mi gewch glywed gan y Gweinidog Telathrebu yfory. Rydym hefyd yn cydweithio â DSIT ar system sy’n galluogi busnesau ac academyddion i roi prawf ar dechnolegau newydd. Ac wrth iddynt wneud hynny, mi fyddant yn cynhyrchu data a all fod yn sail i waith Ofcom ar sbectrwm.
Casgliad
Rwyf yn gobeithio bod hyn wedi rhoi blas i chi ar dri maes – band eang, diogelwch ar-lein a sbectrwm – lle mae Ofcom yn gweithio i arloesi.
Mae’r rhain yn feysydd lle gall rheoleiddio helpu â’ch gwaith arloesol chi. Technoleg a rheoleiddio’n gweithio law yn llaw.
Efallai eich bod wedi clywed yr hen ddywediad, “Lle mae America’n arloesi, mae Ewrop yn rheoleiddio”. Wel, rwy’n credu y gall – ac y dylai – y DU wneud y ddau. Arloesi a rheoleiddio da mewn cytgord, nid mewn gwrthdrawiad.
O’r tir o dan eich traed, i’r ffôn yn eich poced, i’r lloerenni sy’n amgylchynu’r Ddaear, mi hoffem fod yn rheoleiddiwr sy’n cefnogi arloesi a hefyd sy’n hybu’r rhwydweithiau newydd sy’n cysylltu Prydain.
Oherwydd mae arloesi’n gyfystyr ag arwain. Ac mi wn fod gan y wlad hon y syniadau, y dychymyg a’r arbenigedd i arwain y byd mewn telathrebu, diogelwch ar-lein a thechnoleg ddiwifr.
Mi ydych chi’n brawf o hynny.
Ac felly hefyd Rashid Mustapha.
Pan ofynnodd newyddiadurwr i Rash beth oedd wedi ei ysbrydoli i ddyfeisio DAB ar raddfa fach, ei ateb greddfol oedd: “Rwyf yn beiriannydd darlledu, felly mae yn fy ngwaed i chwilio am ateb i broblem.”
Mi fydd hynny’n canu cloch i lawer ohonoch. A phan fyddwch yn profi rhwystrau yn eich gwaith eich hun, rwyf yn gobeithio y gall Ofcom helpu eich ymdrechion i’w goresgyn.
Rwy’n gyffrous wrth feddwl am yr hyn y gallwn ei gyflawni.
Felly gadewch inni barhau i gydweithio.
A gadewch inni barhau i chwilio am atebion.
Diolch yn fawr.