Mae hi’n cymryd mwy o amser i lawrlwytho ffeiliau ar O2 dros 4G a 5G nag ar y rhwydweithiau symudol eraill, yn ôl ymchwil newydd gan Ofcom a gyhoeddwyd heddiw.
Mae adroddiad ymchwil ‘Materion Symudol’ diweddaraf Ofcom yn edrych yn fanwl ar brofiadau pobl o ddefnyddio rhwydweithiau symudol ar draws y DU. Mae’n seiliedig ar ddata torfol a gasglwyd rhwng mis Hydref 2023 a mis Mawrth 2024.
Mae ein dadansoddiad yn dangos bod 78% o ddefnyddio rhwydweithiau cellog yn cael ei wneud ar 4G, gydag 20% ar 5G, 2% ar 3G a dim ond 0.1% ar 2G. Yn ardaloedd trefol y DU, roedd 21% o’r cysylltiadau rhwydwaith ar 5G, o’i gymharu â 10% mewn ardaloedd gwledig.
Ar gyfartaledd, mae lawrlwytho ffeil 2MB – er enghraifft, lawrlwytho llun neu glip fideo byr cydraniad isel mewn ap negeseuon – yn cymryd 0.3 eiliad ar 5G, o’i gymharu â 0.8 eiliad ar 4G a 4.3 eiliad ar 3G.
Mae hyd yn oed hanner eiliad yn gallu golygu’r gwahaniaeth rhwng teimlo eich bod yn cael gafael ar gynnwys “ar unwaith” neu ar ôl oedi byr. Felly, wrth lawrlwytho yn gyflym dros 5G, mae’n amlwg nad yw maint ffeiliau’n bwysig.
Cymharu’r Gweithredwyr Rhwydweithiau Symudol
Cwsmeriaid O2 sy’n gorfod aros hiraf ar gyfartaledd i lawrlwytho ffeil 2MB dros 5G (0.4 eiliad) a 4G (1 eiliad). Cwsmeriaid Three sydd â’r amser lawrlwytho 2MB byrraf ar gyfartaledd dros 5G (0.2 eiliad), a chwsmeriaid EE sydd â’r amser lawrlwytho 2MB byrraf ar gyfartaledd dros 4G (0.6 eiliad).
Three ac O2 sydd â’r gyfran uchaf o gwsmeriaid sy’n defnyddio 5G (21%), a Vodafone sydd â’r gyfran isaf (15%). Fodd bynnag, Vodafone sydd â’r gyfran uchaf o gysylltiadau ar gyfartaledd ar 4G (83%), ac O2 sydd â’r gyfran isaf (74%). Cwsmeriaid O2 oedd â’r gyfran uchaf o gysylltiadau cellog ar 3G (5%) ac roedd cyfran y cysylltiadau 2G yn isel ar gyfer pob gweithredwr rhwydwaith symudol.
Three sydd â’r amser ymateb cyfartalog cyflymaf (oedi) dros 5G (16.3ms) ac EE sydd â’r amser ymateb cyfartalog cyflymaf dros 4G (18.3ms). Cwsmeriaid O2 sydd â’r amser ymateb cyfartalog arafaf dros 5G (21.4ms) a Vodafone sydd â’r amser ymateb arafaf dros 4G (23.7ms).