
Heddiw rydym wedi cyhoeddi tablau cynghrair diweddaraf y cwynion rydym wedi'u derbyn ynghylch prif gwmnïau ffôn cartref, band eang, symudol a theledu-drwy-dalu y DU.
Mae'r adroddiad yn datgelu nifer y cwynion a wnaed i Ofcom yn y chwarter cyntaf eleni, rhwng misoedd Ionawr a Mawrth.
Rydym yn cywain y data hwn i wella ein dealltwriaeth o achosion anfodlonrwydd cwsmeriaid. Mae'n galluogi ni i nodi'r rhesymau pam mae pobl yn cwyno, a pha wasanaethau a darparwyr y maent yn cwyno amdanynt.
Rydym yn gwneud hyn bob chwarter, gan gymharu perfformiad darparwyr trwy gyhoeddi'r nifer o gwynion rydym yn eu derbyn amdanynt o'u cymharu â maint eu seiliau cwsmeriaid (h.y. fesul 100,000 o gwsmeriaid).
Band eang sefydlog
Graddau cymharol y darparwyr

Rhesymau dros gwyno

Llinell dir
Graddau cymharol y darparwyr

Rhesymau dros gwyno

Symudol talu'n fisol
Graddau cymharol y darparwyr

Rhesymau dros gwyno

Teledu-drwy-dalu
Graddau cymharol y darparwyr

Rhesymau dros gwyno

I grynhoi, mae ein data diweddaraf yn dangos y canlynol:
- Rhwng misoedd Ionawr a Mawrth arhosodd cwynion i Ofcom yn fras ar yr un lefelau ag yn ystod y chwarter blaenorol. Bu cynnydd bach mewn cwynion am fand eang sefydlog a theledu-drwy-dalu ac arhosodd cwynion am linell dir a symudol talu'n fisol yr un fath.
- Shell Energy a gynhyrchodd y nifer fwyaf o gwynion band eang fesul 100,000 o gwsmeriaid, yn bennaf oherwydd diffygion, gwasanaeth a darpariaeth , a denodd EE a Sky y lleiaf o gwynion.
- Shell Energy oedd y darparwr llinell dir y cwynwyd amdano fwyaf gyda chwynion yn codi'n bennaf oherwydd diffygion, gwasanaeth a darpariaeth , a denodd EE y lleiaf o gwynion am linell dir.
- Virgin Mobile, BT Mobile ac O2 oedd y gweithredwyr symudol y cwynwyd amdanynt fwyaf. Yn bennaf, roedd cwsmeriaid yn anfodlon ar sut yr ymdriniwyd â'u cwynion. Denodd Sky, Tesco Mobile ac EE y lleiaf o gwynion.
- Cynhyrchodd Virgin Media y nifer uchaf o gwynion am deledu-drwy-dalu; y prif reswm y cwynodd cwsmeriaid wrth Ofcom oedd y ffordd yr ymdriniwyd â chwynion. Sky oedd y darparwr teledu-drwy-dalu y cwynwyd leiaf amdano hefyd.
Er y bu'r lefel gyffredinol o gwynion yn isel yn gyson dros fisoedd diweddar, mae'r bwlch rhwng y darparwyr gorau a'r rhai gwaethaf yn y sectorau band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu'n ehangu.
Mae'r ffigurau'n amlygu sut mae gan rai cwmnïau lawer o waith i'w wneud i gadw eu cwsmeriaid yn hapus a dal i fyny a'u cystadleuwyr. Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth rydych chi'n ei dderbyn, ystyriwch siopa o gwmpas a symud i ddarparwr arall.
Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Ofcom
Pam rydym yn cyhoeddi'r data hwn
Mae ein data am gwynion yn helpu pobl i gymharu darparwyr pan fyddan nhw'n siopa o gwmpas am wasanaeth newydd - ac mae hefyd yn helpu i annog cwmnïau i wella'u perfformiad.
Er na all Ofcom ddatrys cwynion unigol, rydym yn cynnig cyngor i bobl am y gwasanaethau telathrebu a theledu-drwy-dalu y maent yn ei ddefnyddio, ac mae'r wybodaeth a dderbyniwn yn gallu arwain at lansio ymchwiliadau.
Os ydych chi'n profi problemau gyda'ch ffôn cartref, band eang, gwasanaeth symudol neu deledu-drwy-dalu, dylech gwyno wrth eich darparwr yn gyntaf. Os ydych yn anfodlon ar y canlyniad, gallwch fynd â'r gŵyn at ombwdsmon annibynnol, a fydd yn archwilio'r achos ac yn gwneud dyfarniad arno.
Nodiadau i olygyddion
Pan fydd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag 1, rydym yn ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy. O fewn y sectorau canlynol, credwn fod modd cymharu'r darparwyr a restrir:
Band eang sefydlog
- EE a Sky;
- BT a NOW Broadband; a
- Vodafone a TalkTalk.
Llinell dir
- BT, Now Broadband a Plusnet; a
- Plusnet a chyfartaledd y diwydiant.
Symudol talu'n fisol
- Sky Mobile, Tesco Mobile, EE a chyfartaledd y diwydiant;
- EE, cyfartaledd y diwydiant, Three a Vodafone;
- Cyfartaledd y diwydiant, Three, Vodafone, iD Mobile, O2 a BT Mobile; ac
- O2, BT Mobile a Virgin Mobile.