Mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i weld a yw Shell Energy wedi cydymffurfio â'n rheolau i roi hysbysiadau diwedd contract a hysbysiadau ynghylch y tariff gorau blynyddol i'w gwsmeriaid telathrebu.
Ar 15 Chwefror 2020, cyflwynodd Ofcom reolau newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau band eang, ffonau symudol, ffôn cartref a theledu drwy dalu i rybuddio eu cwsmeriaid pan fydd eu cyfnod contract gofynnol yn dod i ben, a'r hyn y gallent ei arbed drwy ymrwymo i fargen newydd. Rhaid iddynt hefyd atgoffa unrhyw gwsmeriaid sy'n aros allan o gontract am eu bargeinion gorau bob blwyddyn.
Pan gyflwynwyd y rheolau hyn, amcangyfrifwyd bod hyd at 20 miliwn o bobl wedi mynd y tu hwnt i'w cyfnod contract cychwynnol, a gallai llawer o'r rhain fod yn talu mwy nag yr oedd angen iddynt ei wneud.
Ers cyflwyno'r rheolau rydym wedi gweld tystiolaeth bod yr awgrymiadau hyn gan ddarparwyr yn gweithio. Yn ein hymchwil, roedd dwy ran o dair o gwsmeriaid a anfonwyd hysbysiad diwedd contract yn cofio derbyn un. O'r rheini, roedd 90% o'r farn ei bod yn ddefnyddiol a dywedodd un o bob pump eu bod wedi cael eu hysgogi i weithredu ac na fyddent wedi gwneud fel arall.
Mae gwybodaeth a roddwyd i Ofcom gan Shell Energy yn dangos na anfonodd yr hysbysiadau hyn at rai cwsmeriaid am gyfnod wnaeth gychwyn yn Chwefror 2021, ac efallai nad oedd llythyrau cwsmeriaid eraill wedi cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol.
Ein nod yw cwblhau ein cyfnod casglu tystiolaeth erbyn diwedd haf 2022. Byddwn yn cyhoeddi diweddariad pellach ar unrhyw gamau nesaf unwaith y bydd y cam hwnnw wedi'i gwblhau.