Three parking charge notices pinned to a car windscreen

Ofcom yn rhoi dirwy o £150,000 i O2 am ddarparu gwybodaeth anghywir ac anghyflawn

Cyhoeddwyd: 5 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd diwethaf: 5 Gorffennaf 2023

Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £150,000 i O2 am fethu â darparu gwybodaeth gywir a chyflawn i ni wrth i ni archwilio a oedd wedi codi taliadau gormodol ar ei gwsmeriaid.

Rydym yn gofyn yn rheolaidd am wybodaeth gan gwmnïau yr ydym yn eu rheoleiddio. Mae hyn yn rhan bwysig o'n gwaith i ddiogelu defnyddwyr, gan fod yr wybodaeth yn hanfodol i'n helpu i wneud ein penderfyniadau. Felly, mae'n hanfodol bod cwmnïau'n ymateb i'n ceisiadau ar amser, a gyda gwybodaeth gywir a chyflawn. Os byddant yn methu â gwneud hyn, gallwn gymryd camau yn eu herbyn.

Yn gynharach eleni, gwnaethom roi dirwy o £10.5m i O2 am godi taliadau gormodol ar filoedd o'i gwsmeriaid. Fel rhan o'r ymchwiliad hwn, gwnaethom ofyn am wybodaeth gan O2, ond darparwyd ymatebion anghywir ac anghyflawn. O ganlyniad i hyn, cymerodd ein hymchwiliad fwy o amser i'w gwblhau nag sydd angen.

Mae O2 wedi methu â darparu gwybodaeth gywir a chyflawn i ni ar achlysuron blaenorol, ac wedi dangos lefel o ddiofalwch wrth ymateb i'n ceisiadau am wybodaeth.

Rydym yn cymryd y methiannau hyn o ddifri, felly rydym wedi penderfynu rhoi dirwy o £150,000 i O2. Mae'r gosb yn cynnwys gostyngiad o 25% o'r gosb y byddem wedi'i gosod fel arall, o ganlyniad i O2 dderbyn atebolrwydd ac ymrwymo i setliad.

Rydym hefyd wedi dweud wrth O2 i adolygu ei brosesau a'i systemau ar gyfer ymateb i'n ceisiadau am wybodaeth yn y dyfodol.

Caiff yr arian a godir o'r ddirwy hon ei dalu i Drysorlys EM.

Yn ôl i'r brig