Anxious woman on phone

Datgelu’r cwynion diweddaraf am wasanaethau telathrebu a theledu-drwy-dalu

Cyhoeddwyd: 27 Gorffennaf 2023

Heddiw rydyn ni'n cyhoeddi'r ffigurau diweddaraf ar gyfer y cwynion a gafwyd gennym ynghylch prif ddarparwyr llinell dir, band eang, symudol a theledu-drwy-dalu y DU.

Mae’r adroddiad chwarterol diweddaraf hwn yn ymdrin â’r cyfnod rhwng Ionawr a Mawrth 2023.

Yn ystod y cyfnod hwn, cododd nifer y cwynion i Ofcom ychydig o gymharu â’r chwarter blaenorol (Hydref i Ragfyr 2022), gyda chynnydd bach yn nifer y cwynion am wasanaethau llinell dir, band eang, symudol talu'n fisol a theledu-drwy-dalu.

  • TalkTalk oedd y darparwr llinell dir a band eang y cwynwyd fwyaf amdano, gyda chynnydd mewn cwynion ar gyfer y ddau wasanaeth hyn ers y chwarter diwethaf. Ysgogwyd cwynion yn bennaf o ganlyniad i brofiadau cwsmeriaid o ddiffygion, ansawdd gwasanaeth a chysylltu gwasanaethau, yn ogystal â sut yr ymdriniwyd â'u cwynion.
  • Sky wnaeth gynhyrchu’r nifer isaf o gwynion ymhlith darparwyr band eang unwaith eto, a nhw hefyd oedd y darparwr llinell dir y cwynwyd leiaf amdano.
  • BT Mobile oedd y darparwr symudol y cwynwyd fwyaf amdano, gyda chwsmeriaid yn cwyno’n bennaf am faterion yn ymwneud â newid darparwr a sut yr ymdriniwyd â’u cwynion. Sky Mobile, Tesco Mobile a EE oedd y darparwyr symudol y cwynwyd leiaf amdanynt.
  • Denodd BT hefyd y nifer fwyaf o gwynion ynghylch teledu-drwy-dalu. Y prif resymau dros gwyno oedd problemau ynghylch bilio, prisio a thaliadau. Denodd Sky y nifer lleiaf o gwynion am deledu-drwy-dalu.

Mae’r cynnydd bychan mewn cwynion ar draws yr holl wasanaethau'n dangos bod gan ddarparwyr waith i’w wneud o hyd o ran ansawdd y gwasanaeth y maent yn ei gynnig i’w cwsmeriaid.

Rydym yn falch o weld gwelliant ym mherfformiad Shell Energy ar ôl iddynt ymddangos yn flaenorol ar waelod rhai o’r tablau hyn, ac wrth ymateb i ni ymgysylltu â nhw ynghylch gwelliannau. Er hynny, mae’r ffigurau hyn yn dangos y dylent hwy a darparwyr eraill ymdrechu i sicrhau cynnydd pellach.

Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Ofcom

Fel rheoleiddiwr gwasanaethau cyfathrebu'r DU, gall cwsmeriaid gwyno wrth Ofcom am eu gwasanaethau llinell dir, band eang sefydlog, symudol talu'n fisol a theledu-drwy-dalu.

Mae rhoi'r data cwynion hwn at ei gilydd yn ein galluogi i ddeall yn well y rhesymau dros anfoddhad cwsmeriaid ar eu darparwyr. Mae cyhoeddi'r data hefyd yn helpu cwsmeriaid i ddewis y darparwyr gorau ar gyfer eu hanghenion.

Gweler y siartiau isod i gael gwybod mwy am faint o gwynion yr ydym wedi'u derbyn ar gyfer gwasanaethau band eang, llinell dir, symudol talu'n fisol a theledu-drwy-dalu.

Yn ôl i'r brig