Mae'r gwyliau ysgol wedi dechrau, ac i lawer o bobl dyna'r arwydd i gael y ces dillad a'r eli haul allan a mynd i ffwrdd ar wyliau haf.
I rai pobl, mae wedi bod yn gryn amser ers iddynt gael y cyfle i fynd dramor, ac yn y cyfnod hwnnw bu rhai newidiadau i daliadau crwydro symudol gan lawer o gwmnïau ffonau symudol y DU. Felly, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o sut y gellid codi tâl am ddefnyddio'ch ffôn symudol dramor – yn enwedig gan fod y taliadau hynny'n debygol o fod yn wahanol ers y tro diwethaf i chi deithio.
Does neb eisiau cael bil symudol mwy na'r disgwyl pan fyddant yn dychwelyd o'u gwyliau. I gael gwybodaeth am y newidiadau a gyflwynwyd gan y prif ddarparwyr ffonau symudol, darllenwch ein canllaw i'r hyn y maent yn ei gynnig ar hyn o bryd.
Ond mae hefyd yn werth ystyried y camau y gallwch eu cymryd eich hun i leihau'r risg o wynebu bil mawr ar gyfer crwydro symudol. Dyma ychydig o awgrymiadau syml i'w cymryd cyn ac yn ystod eich taith.
Gwiriwch y taliadau cyn i chi deithio a phennwch derfyn gwario
Gwiriwch gyda'ch darparwr bob amser cyn i chi deithio, i weld a fydd taliadau crwydrol yn berthnasol yn y gyrchfan rydych chi'n mynd iddi. Gwiriwch faint maen nhw'n ei gostio ac unrhyw derfynau defnydd y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt – a gofynnwch i'ch darparwr a oes gennych yr opsiwn i gymhwyso cap gwariant i'ch data crwydrol, neu derfyn bil symudol drwy gydol eich taith.
Prynwch fwndeli i arbed costau
Os oes angen i chi ddefnyddio'ch ffôn symudol wrth symud pan fyddwch dramor, gwiriwch a oes gan eich darparwr unrhyw gynigion i'ch helpu i leihau eich taliadau crwydrol. Gallai hyn fod, er enghraifft, yn dâl dyddiol neu wythnosol sy'n eich galluogi i ddefnyddio'ch lwfans cartref arferol neu'r dewis i brynu ychwanegion crwydro ar gyfer nifer penodol o alwadau, negeseuon testun neu ddata.
Diffoddwch ddata symudol
Os ydych chi am osgoi taliadau crwydro uchel, gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd eich data symudol ar bob dyfais cyn i chi gyrraedd eich cyrchfan. Byddwch yn dal i allu gwneud a derbyn galwadau (a byddwch yn ymwybodol y bydd taliadau'n berthnasol ar gyfer y rhain), ond bydd angen i chi gysylltu â Wi-Fi i ddefnyddio unrhyw apiau ar-lein.
Llwythwch i lawr cyn i chi fynd
Os ydych chi am osgoi taliadau data, llwythwch i lawr unrhyw hoff restrau chwarae, podlediadau neu sioeau teledu rydych chi neu'ch teulu eisiau eu gwylio neu wrando arnynt, cyn i chi deithio.
Cysylltu â Wi-Fi i leihau eich taliadau crwydrol
Defnyddiwch Wi-Fi. Gall gwestai, fflatiau a mannau cyhoeddus gynnig Wi-Fi am ddim, felly defnyddiwch hyn wrth deithio i osgoi talu am ddata. Gellir defnyddio apiau fel FaceTime, WhatsApp a Skype gyda Wi-Fi, i’ch helpu i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu.
Os nad ydych chi'n defnyddio Wi-Fi, ceisiwch osgoi gweithgareddau sy'n defnyddio llawer o ddata
Mae enghreifftiau'n cynnwys gwylio fideos, diweddaru cyfryngau cymdeithasol gyda lluniau neu lwytho i lawr cerddoriaeth. Hefyd, os ydych chi'n gwirio e-byst, ceisiwch osgoi agor atodiadau mawr. Dewis arall fyddai ystyried prynu SIM ar gyfer y wlad rydych chi'n ymweld â hi.
Peidiwch ag anghofio'r plant
Cyn i chi deithio, gwiriwch a fydd ffonau symudol eich plant yn destun taliadau crwydro. Os byddant, cofiwch wneud yn siŵr eich bod chi'n dilyn yr awgrymiadau uchod ar eu ffonau nhw hefyd, er mwyn iddynt osgoi cronni taliadau crwydro arôl i chi gyrraedd lleoliad eich gwyliau.
Os oes gennych gwestiynau o hyd ynghylch pa daliadau crwydrol a allai fod yn berthnasol ar gyfer eich taith, siaradwch â'ch darparwr symudol.