Adroddiad: Cwynion am wasanaethau band eang, llinell dir, symudol a theledu-drwy-dalu

Cyhoeddwyd: 25 Ionawr 2024
Diweddarwyd diwethaf: 25 Ionawr 2024

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau'r DU, mae Ofcom yn derbyn cwynion gan gwsmeriaid am eu gwasanaethau llinell dir, band eang sefydlog, symudol talu'n fisol a theledu-trwy-dalu.

Er mwyn deall yn well y rhesymau dros anfodlonrwydd ymhlith cwsmeriaid preswyl yn ein sectorau, rydym yn cydgrynhoi'r data hwnnw ac yn pennu nifer y cwynion a dderbyniwyd fesul darparwr a fesul gwasanaeth. Er mwyn cymharu perfformiad darparwyr, bob chwarter rydym yn cyhoeddi nifer y cwynion a dderbyniom amdanynt yn berthynol i faint eu sylfaen cwsmeriaid (h.y. fesul 100,000 o gwsmeriaid).

Tueddiadau cyffredinol

Yn y chwarter rhwng Gorffennaf a Medi 2023 (Ch3 2023), cododd cwynion i Ofcom ychydig o gymharu â’r chwarter blaenorol (Ch2 2023: Ebrill i Mehefin 2023). Cododd cwynion am linell sefydlog, band eang sefydlog a theledu-drwy-dalu i gyd ers y chwarter blaenorol ac arhosodd cwynion am symudol talu'n fisol ar lefelau tebyg.

  • Virgin Media oedd y darparwr band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu y cwynwyd fwyaf amdano, gan weld cynnydd sylweddol ar draws yr holl feysydd hyn o gymharu â’r chwarter blaenorol. Roedd cwynion cwsmeriaid wedi'u hysgogi'n bennaf gan y ffordd yr ymdriniwyd â'u cwynion.
  • Heblaw Virgin Media, derbyniodd NOW Broadband a TalkTalk fwy o gwynion na chyfartaledd y diwydiant ar gyfer llinell dir, a derbyniodd NOW Broadband fwy o gwynion na chyfartaledd y diwydiant ar gyfer band eang.
  • Sky unwaith eto a gynhyrchodd y lleiaf o gwynion fesul 100,000 o danysgrifwyr ar gyfer band eang a llinell dir.
  • TalkTalk a Sky oedd y darparwyr teledu-drwy-dalu y cwynwyd leiaf amdanynt y chwarter hwn, gan dderbyn y nifer lleiaf o gwynion fesul 100,000 o danysgrifwyr.
  • O2 a BT Mobile oedd y gweithredwyr symudol y cwynwyd fwyaf amdanynt, gyda chwynion am O2 yn cael eu hysgogi'n bennaf gan y ffordd yr ymdriniwyd â chwynion cwsmeriaid a chwynion am BT yn cael eu hysgogi gan brofiadau cwsmeriaid o newid darparwr. Sky Mobile, EE a Vodafone a gynhyrchodd y lleiaf o gwynion yn y sector symudol.

Gweler isod am wybodaeth ynghylch cymaroldeb nifer y cwynion am ddarparwyr penodol. Mae ein dogfen gefndir a methodoleg (Saesneg yn unig) yn mynd i fwy o fanylder.

Mae'r siart isod yn dangos maint cymharol y cwynion rydym wedi'u derbyn ar gyfer gwasanaethau band eang, llinell dir, symudol talu'n fisol a theledu-drwy-dalu. Gallwch ddefnyddio'r llithrydd i hidlo fesul blwyddyn.

Maint cymharol y cwynion fesul gwasanaeth i bob 100,000 o gwsmeriaid

Wrth gymharu o flwyddyn i flwyddyn, mae’r maint cymharol o gwynion am fand eang sefydlog, llinell dir sefydlog, symudol talu'n fisol a theledu-trwy-dalu i gyd wedi cynyddu (Saesneg yn unig).

Tablau cynghrair a chwynion allweddol

Band eang sefydlog

Llinell dir

Symudol talu'n fisol

Mae'r tabl wedi cael ei ddiweddaru ar ôl i ddarparwr ailgyflwyno data.

Teledu-drwy-dalu

Cymaroldeb cwynion fesul 100,000 o danysgrifwyr

Pan fydd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag 1, rydym yn ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy. O fewn y sectorau canlynol, credwn fod modd cymharu'r darparwyr a restrir:

Band eang sefydlog:

  1. BT a Plusnet;
  2. Vodafone, TalkTalk a Chyfartaledd y Diwydiant.

Llinell dir:

  1. Plusnet, Vodafone a BT;
  2. BT a Shell Energy;
  3. Shell Energy a Chyfartaledd y Diwydiant;

Symudol talu'n fisol:

  1. Sky Mobile, EE a Vodafone;
  2. EE, Vodafone a Tesco Mobile;
  3. Vodafone, Tesco Mobile, Cyfartaledd y Diwydiant, iD Mobile a Three;
  4. BT Mobile ac O2.

Teledu-drwy-dalu:

  1. TalkTalk a Sky;
  2. BT a Chyfartaledd y Diwydiant;

Cymharu gwahanol ddarparwyr

I gymharu perfformiad dau neu fwy o ddarparwyr, dewiswch y gwasanaeth ac yna'r darparwyr rydych am eu cymharu o'r rhestrau ar y dde (Saesneg yn unig).

Cwynion fesul darparwr

Gallwch gymharu cwynion ar gyfer darparwr ar draws sectorau lluosog gan ddefnyddio'r opsiynau ar y dde (Saesneg yn unig).

Mwy o wybodaeth

Mae'r data sylfaenol ar gael mewn fformat CSV (CSV, 13.3 KB) (Saesneg yn unig). Rydym hefyd yn cynnwys data tueddiadau cyffredinol ar gyfer cwynion symudol talu-wrth-ddefnyddio.

Gallwch hefyd ddarllen cefndir a methodoleg (PDF, 219.4 KB) yr adroddiad (Saesneg yn unig).

Adroddiadau blaenorol

Noder bod y rhain ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae adroddiadau hŷn ar gael yn yr Archifau Cenedlaethol.

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig