Datganiad: Gwella gwybodaeth am fand eang ar gyfer cwsmeriaid

Cyhoeddwyd: 8 Mawrth 2023
Ymgynghori yn cau: 3 Mai 2023
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 13 Rhagfyr 2023, diweddarwyd 6 Rhagfyr 2024

Mae'r ffordd y caiff gwasanaethau band eang eu darparu yn newid. Ledled y DU, mae rhagor o rwydweithiau sy’n gallu delio â gigabits yn cael eu darparu, ac mae’r rhwydweithiau newydd hyn yn cydfodoli â rhwydweithiau hŷn.

Drwy gydol y cyfnod pontio hwn, un o’n blaenoriaethau yw sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu trin yn deg. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eu bod yn cael eu grymuso i wneud dewisiadau sy’n iawn iddyn nhw. Yn y cyd-destun hwnnw, mae’n arbennig o bwysig bod defnyddwyr yn cael gwybodaeth ddigonol a defnyddiol i ddewis eu gwasanaeth band eang.

Ym mis Mawrth 2023, buom yn ymgynghori ar gynigion i wella’r wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr, yn ogystal â chyhoeddi ymchwil a oedd yn nodi y byddai rhai pobl, wrth ddewis gwasanaeth band eang, yn cael budd o wybodaeth am y dechnoleg sylfaenol a ddefnyddir i ddarparu eu gwasanaethau.

Mae'r datganiad hwn yn nodi ein penderfyniadau i helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau mwy gwybodus. Mae’n egluro pam rydym yn credu y dylai darparwyr band eang ddweud wrth bobl am y dechnoleg sylfaenol sy’n cael ei defnyddio i ddarparu eu gwasanaeth. Mae hefyd yn nodi sut a phryd y dylai darparwyr rannu’r wybodaeth hon. 

Canllawiau newydd ar gyfer darparwyr band eang sefydlog

Yn ogystal â’r datganiad hwn, mae Ofcom wedi cyhoeddi canllawiau i sicrhau bod darparwyr yn rhoi'r wybodaeth hon i ddefnyddwyr mewn ffordd glir a diamwys. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i ddarparwyr mewn perthynas â’r wybodaeth y mae’n rhaid iddynt ei darparu i ‘gwsmeriaid perthnasol’, cyn i’r cwsmer perthnasol ymrwymo i gontract ar gyfer gwasanaeth cyfathrebu electronig, neu yn y contract ei hun. At y diben hwn, ystyr ‘cwsmeriaid perthnasol’ yw Defnyddwyr, Cwsmeriaid sy’n Fusnesau Bach neu Ficrofusnesau, a Chwsmeriaid Nid-Er-Elw. I gael rhagor o wybodaeth am y diffiniadau hyn, edrychwch ar yr Amodau Cyffredinol

Yn gryno, dyma beth mae’r canllawiau yn ei nodi:

  • Dylai darparwyr roi disgrifiad byr o dechnoleg sylfaenol pob cynnyrch band eang sefydlog a gynigir, a hynny yn y man talu ar y wefan, yn y Gwybodaeth am y Contract, ac yn y Crynodeb o’r Contract, gan ddefnyddio un neu ddau o dermau sy’n glir ac yn ddiamwys, fel ‘cebl’, ‘ffeibr llawn’, ‘copr’ neu ‘rhannol ffeibr’.
  • Mae defnyddio'r gair “ffeibr” ar ei ben ei hun i ddisgrifio’r dechnoleg sylfaenol yn gallu bod yn gamarweiniol, ac felly ni ddylid ei ddefnyddio i ddisgrifio’r dechnoleg sylfaenol.
  • Dylai darparwyr roi esboniad manylach o'r dechnoleg sylfaenol (er enghraifft, trwy ddolen) fel bod defnyddwyr yn gallu deall beth mae'n ei olygu iddyn nhw. Dylid ei roi hefyd ar ffurf sy’n hygyrch ac yn hawdd ei ddeall.

Dylid rhoi gwybodaeth am dechnoleg sylfaenol i ddefnyddwyr ni waeth sut maen nhw’n cofrestru ar gyfer gwasanaeth. O dan ein canllawiau ni, bydd y rhai sy’n cofrestru ar-lein yn cael yr wybodaeth hon ar wefan darparwr y band eang. Bydd y rhai sy’n prynu gwasanaeth dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn cael yr wybodaeth hon yn y Crynodeb o’r Contract, ac yn y contract ei hun. Cyn i’r cwsmer gadarnhau’r pryniant, rhaid darparu Crynodeb o’r Contract gyda gwybodaeth allweddol am y gwasanaeth.

Yn gyffredinol, rydym yn credu bod mynnu bod gwybodaeth yn cael ei darparu am y dechnoleg rhwydwaith sylfaenol yn ddigon i gyflawni ein hamcanion polisi ac nid oes angen nodi sut mae termau ffeibr yn cael eu defnyddio mewn cyd-destunau eraill e.e. mewn enwau cynnyrch.

Ymatebion

How to respond

Cyfeiriad
Broadband Information Consultation
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig