Roeddent wedi disodli’r drefn drwyddedu flaenorol a oedd yn berthnasol o dan Ddeddf Telegyfathrebiadau 1984 tan 25 Gorffennaf 2003, pan roddwyd fframwaith rheoleiddio cyfathrebiadau’r UE ar waith yn y DU drwy Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.
Mae’r Amodau Cyffredinol yn amodau sy’n berthnasol yn gyffredinol. Gallwn eu gorfodi ar bob darparwr cyfathrebiadau neu ar bob darparwr rhwydweithiau neu wasanaethau o ddisgrifiad penodol. Yn wahanol i amodau gwasanaeth cyffredinol, amodau “SMP” (a orfodir o ganlyniad i ganfod pŵer sylweddol yn y farchnad) ac amodau cysylltiedig â mynediad, ni ellir gosod Amodau Cyffredinol ar ddarparwyr unigol penodol.
Gweler fersiwn gyfun answyddogol o’r Amodau Cyffredinol presennol a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2024.
Mae’r amodau cyffredinol wedi cael eu diwygio o bryd i’w gilydd. Rydym wedi crynhoi mwy a gallwch hefyd weld archif o gyflyrau cyffredinol hŷn a chanllawiau cysylltiedig a gafodd eu disodli ar 1 Hydref 2018 yma.
Gweithredu'r Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd newydd (EECC)
Ym mis Rhagfyr 2018, diweddarodd y Cod Cyfathrebiadau Electronig Ewropeaidd (EECC), Cyfarwyddeb yr UE, y fframwaith rheoleiddio ar gyfer gwasanaethau cyfathrebiadau electronig, gyda dyddiad gweithredu o 21 Rhagfyr 2020. Er bod y DU wedi gadael yr UE ar 31 Ionawr 2020, o dan delerau’r Cytundeb Ymadael, roedd y DU yn dal o dan rwymedigaeth i weithredu EECC mewn cyfraith ddomestig. Gwnaeth Llywodraeth y DU newidiadau i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 i weithredu gofynion amrywiol yr EECC mewn cyfraith ddomestig.
Mae’r EECC yn cynnwys pecyn o fesurau sydd wedi’u dylunio i ddiogelu cwsmeriaid gwasanaethau cyfathrebiadau electronig, gan gynnwys gwasanaethau band eang, symudol a llinell dir. Mae Ofcom wedi gwneud newidiadau i’r Amodau Cyffredinol er mwyn gweithredu’r mesurau diogelu EECC newydd.
Cwmpas y defnydd a’r diffiniadau
Mae’r Amodau Cyffredinol yn perthyn yn fras i dri phrif gategori:
- amodau gweithredu’r rhwydwaith (Rhan A o’r Amodau Cyffredinol);
- rhifo ac amodau technegol eraill (Rhan B o'r Amodau Cyffredinol); a
- amodau diogelu defnyddwyr (Rhan C o’r Amodau Cyffredinol).
Ar ddechrau pob Amod Cyffredinol, mae ei gwmpas cymhwyso wedi’i nodi drwy ddisgrifio’r categori o ddarparwyr cyfathrebiadau y mae’r amod yn berthnasol iddynt a diffinio’r categori hwnnw o ddarparwyr fel “Darparwyr Rheoleiddiedig” at ddibenion amodau unigol. Mae rhai Amodau Cyffredinol, fel amodau A2 a B1, yn berthnasol i bob “Darparwr Cyfathrebiadau”, tra bo eraill yn berthnasol i gategorïau mwy cyfyngedig o ddarparwyr cyfathrebiadau, er enghraifft mae amod C8 yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau symudol.
Mae’r holl ddiffiniadau a ddefnyddir yn yr Amodau Cyffredinol wedi’u nodi mewn un adran ‘Diffiniadau’ ar ddiwedd yr Amodau Cyffredinol. Mae’r rhain yn cynnwys y termau “Rhwydwaith cyfathrebiadau Electronig” a “Gwasanaeth cyfathrebiadau Electronig”, sy’n berthnasol i’r diffiniad o “Ddarparwr Cyfathrebiadau”.
Rhan A: Amodau gweithredu’r rhwydwaith
Mae’r amod hwn yn mynnu bod pob darparwr rhwydweithiau cyfathrebiadau electronig cyhoeddus yn negodi cytundebau rhyng-gysylltu â darparwyr rhwydwaith eraill ar gais, ac mae’n mynnu bod pob darparwr cyfathrebiadau yn parchu cyfrinachedd gwybodaeth a geir ynglŷn â thrafodaethau ynghylch mynediad at rwydwaith.
Mae’r amod hwn yn sicrhau bod pob darparwr cyfathrebiadau yn mabwysiadu safonau technegol cyffredin drwy fynnu eu bod yn cydymffurfio ag unrhyw fanylebau a safonau gorfodol yr UE ac yn ystyried manylebau a safonau Ewropeaidd a rhyngwladol eraill.
Nod yr amod hwn yw sicrhau bod gwasanaethau cyfathrebiadau cyhoeddus ar gael i’r graddau mwyaf posibl bob amser, gan gynnwys os bydd trychinebau’n digwydd neu fethiannau rhwydwaith trychinebus, a mynediad di-dor at sefydliadau brys. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau galwadau sicrhau bod modd gwneud galwadau i sefydliadau brys yn rhad ac am ddim a sicrhau bod gwybodaeth am leoliad y galwr ar gael i sefydliadau brys lle bo hynny’n dechnegol ymarferol. Mae hefyd yn cynnwys rheolau penodol sy’n ymwneud â darparwyr gwasanaethau galwadau allan VoIP sy’n ceisio sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaethau hynny’n ymwybodol o unrhyw gyfyngiadau posibl ar wneud galwadau i sefydliadau brys a bod modd rhoi gwybodaeth gywir a chyfredol am leoliad y galwr i’r sefydliadau brys lle bo hynny’n bosibl.
Dogfennau cysylltiedig:
Canllawiau: Amddiffyn mynediad at sefydliadau brys pan fo toriad yn y pŵer ar safle’r cwsmer
Datganiad polisi cyffredinol o dan adran 105Y o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003
Canllawiau Ofcom ar y gofynion diogelwch yn adrannau 105A i D o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003
Mae’r amod hwn yn mynnu bod pob darparwr cyfathrebiadau sy’n darparu gwasanaethau cyfathrebiadau llais neu rwydwaith cyfathrebiadau electronig cyhoeddus y darperir y gwasanaethau hyn ar ei gyfer, yn cytuno ar drefniadau gyda sefydliadau brys ac awdurdodau cyhoeddus eraill i sicrhau bod rhwydweithiau a gwasanaethau’n cael eu darparu neu eu hadfer yn gyflym os bydd trychineb.
Dogfennau cysylltiedig: Cyfarwyddyd cynllunio brys (dogfen Saesneg yn unig)
Mae’r amod hwn yn rhoi pŵer i Ofcom gyfarwyddo bod yn rhaid i ddarparwyr rhwydwaith darlledu gynnwys rhai sianeli teledu darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae’r rhestr hon o sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus wedi’i nodi yn Neddf Cyfathrebiadau 2003 ac mae’n destun adolygiad drwy orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol.
Rhan B: Rhifo ac amodau technegol
Mae’r amod hwn yn nodi’r telerau y caiff darparwyr cyfathrebiadau wneud cais amdanynt, eu dyrannu a mabwysiadu rhifau ffôn er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon.
Dogfennau cysylltiedig:
Mae’r amod hwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob darparwr cyfathrebiadau y dyrennir rhifau ffôn iddynt drosglwyddo gwybodaeth eu tanysgrifwyr i bobl eraill er mwyn sicrhau y gellir llunio cronfa ddata gynhwysfawr o rifau ffôn y gellir eu defnyddio i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau rhifau ffôn. Mae hefyd yn mynnu bod rhifau ffôn yn cael eu diweddaru o leiaf unwaith y flwyddyn a’u darparu i danysgrifwyr ar gais.
Mae’r amod hwn yn nodi’r rheolau y mae’n rhaid i ddarparwyr cyfathrebiadau eu dilyn pan fydd cwsmeriaid yn gofyn am gael mynd â’u rhif(au) llinell dir a/neu symudol gyda nhw wrth newid darparwr.
Nod yr amod hwn yw sicrhau bod defnyddwyr yn gallu cael gafael ar yr holl rifau ffôn (a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar y rhifau hynny) a bod darparwyr cyfathrebiadau ond yn rhwystro mynediad at rifau ffôn pan fydd Ofcom yn dweud wrthynt am wneud hynny am resymau twyll neu gamddefnyddio.
Dogfennau cysylltiedig: Canllawiau Adnabod Llinell y Galwr Ofcom (dogfen Saesneg yn unig)
Rhan C: Amodau amddiffyn defnyddwyr
Nod yr amod hwn yw diogelu defnyddwyr drwy sicrhau bod contractau ar gyfer cysylltiad â rhwydwaith cyfathrebiadau electronig cyhoeddus neu ar gyfer gwasanaethau cyfathrebiadau electronig cyhoeddus yn cynnwys telerau a gwybodaeth sylfaenol. Mae hefyd yn nodi gofynion ynghylch hyd contractau, adnewyddu contractau, hysbysiadau diwedd contract, gwybodaeth flynyddol am y tariffau gorau, hwyluso prosesau newid darparwyr cyfathrebiadau a hawliau defnyddwyr i derfynu contract, sydd â'r bwriad o sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu trin yn deg ac yn gallu newid i ddarparwr gwahanol mewn achosion priodol. Os yw’r contract ar gyfer gwasanaeth band eang sefydlog, dylai hefyd roi disgrifiad byr o’r dechnoleg sylfaenol.
Dogfennau cysylltiedig:
Nod yr amod hwn yw sicrhau bod gwybodaeth ddigonol, gyfredol y gellir ei chymharu ar gael i ddefnyddwyr ynghylch prisiau, tariffau, telerau ac amodau gwasanaethau cyfathrebiadau, ac unrhyw ffioedd sy’n berthnasol pan fydd eu contract yn dod i ben er mwyn galluogi defnyddwyr i gymharu’n hawdd y cynigion a’r gwasanaethau sydd ar gael yn y farchnad. Ar gyfer gwasanaethau band eang sefydlog, dylid darparu disgrifiad byr o’r dechnoleg sylfaenol hefyd. Ar ben hynny, mae’n ceisio sicrhau bod prisiau a ffioedd sy’n ymwneud â gwasanaethau cyfradd premiwm, rhifau nad ydynt yn rhai daearyddol a rhifau personol, yn glir.
Mae’r amod hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth fod ar gael i gwsmeriaid busnesau bach a chanolig am lefelau’r gwasanaeth a gynigir iddyn nhw a'r iawndal a gaiff ei dalu am fethiannau penodol mewn ansawdd gwasanaeth. Hefyd, mae’n ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth i drydydd partïon at ddibenion darparu offer cymharu cymwys.”
Dogfennau cysylltiedig:
- Datganiad ar offer cymharu digidol
- Gwybodaeth am fand eang:Canllawiau o dan Amodau Cyffredinol C1 a C2 (dogfen Saesneg yn unig)
Nod yr amod hwn yw sicrhau nad yw cwsmeriaid darparwyr cyfathrebiadau yn talu gormod a’u bod yn cael y gwasanaethau maen nhw’n talu amdanyn nhw, eu bod yn gallu rheoli’n ddigonol faint maen nhw’n ei wario ar ddefnyddio gwasanaethau galwadau llais a data, a’u bod yn cael eu trin yn deg pan nad ydyn nhw wedi talu eu biliau.
Cynnwys cysylltiedig:
- Cyfeiriad Bilio a Mesur Ofcom (dogfen Saesneg yn unig)
- Canllawiau ar y cynllun bilio a mesur (dogfen Saesneg yn unig)
- Canllawiau Ofcom ar ofynion crwydro C3 (dogfen Saesneg yn unig)
Nod yr amod hwn yw sicrhau nad yw cwsmeriaid darparwyr cyfathrebiadau yn talu gormod a’u bod yn cael y gwasanaethau maen nhw’n talu amdanyn nhw, eu bod yn gallu rheoli’n ddigonol faint maen nhw’n ei wario ar ddefnyddio gwasanaethau galwadau llais a data, gan gynnwys crwydro, a’u bod yn cael eu trin yn deg pan nad ydyn nhw wedi talu eu biliau. Mae’r amod hwn hefyd yn mynnu bod gwybodaeth yn cael ei darparu am grwydro a mesurau diogelu ychwanegol sy’n ymwneud â chrwydro mewn rhai amgylchiadau.
Mae’r amod hwn yn sicrhau bod pob darparwr cyfathrebiadau yn delio â chwynion y mae’n eu cael gan ei gwsmeriaid yn unol â safonau gweithdrefnol sylfaenol penodol. Mae’r amod hwn yn mynnu bod darparwyr cyfathrebiadau yn sicrhau bod eu gweithdrefnau delio â chwynion yn hygyrch i gwsmeriaid, gan gynnwys y rheini sy’n anabl a’r rheini sydd mewn amgylchiadau a allai eu gwneud yn agored i niwed, ac yn nodi eu gweithdrefnau delio â chwynion mewn cod ymarfer. Mae’r amod hwn hefyd yn mynnu bod darparwyr cyfathrebiadau yn aelodau o gynllun anghydfod amgen annibynnol ac yn cydymffurfio â phenderfyniadau’r cynllun hwnnw.
Nod yr amod hwn yw sicrhau bod darparwyr cyfathrebiadau yn rhoi digon o ystyriaeth i anghenion penodol pobl ag anableddau a phobl y gallai eu hamgylchiadau eu gwneud yn agored i niwed. Mae hefyd yn ceisio sicrhau bod pobl ag anableddau yn gallu cael mynediad tebyg at wasanaethau cyfathrebiadau electronig cyhoeddus i rai pobl nad ydynt yn anabl a bod eu mynediad at y gwasanaethau hyn pan fydd ganddynt wir angen yn cael ei ddiogelu.
Dogfennau cysylltiedig:
- Canllaw Ofcom i roi cyhoeddusrwydd i wasanaethau sydd ar gael i bobl anabl (dogfen Saesneg yn unig)
- Canllaw Ofcom ar atwrneiaeth a rheoli biliau trydydd parti.
- Canllaw Ofcom ar gyfer trin cwsmeriaid agored i niwed yn deg (dogfen Saesneg yn unig)
Mae’r amod hwn yn mynnu bod darparwyr cyfathrebiadau yn darparu cyfleusterau adnabod llinell y galwr yn ddiofyn lle bynnag y bo hynny’n ymarferol yn dechnegol ac yn economaidd, er mwyn i’r rheini sy’n derbyn galwadau allu adnabod y sawl sy’n eu ffonio a dewis a ydynt am dderbyn yr alwad ai peidio.
Er mwyn helpu i adnabod galwyr a lleihau nifer y galwadau niwsans, dylai pob darparwr cyfathrebiadau sicrhau bod unrhyw rif ffôn sy’n gysylltiedig â galwad ar lefel rhwydwaith a/neu a gyflwynir i dderbynnydd galwad yn rhif dilys y gellir ei ddeialu sy’n galluogi’r sawl sy’n ffonio i gael ei adnabod, er mwyn i’r sawl sy’n derbyn yr alwad allu ffonio’n ôl i’r unigolyn hwnnw.
Dogfennau cysylltiedig: Canllawiau Adnabod y Galwr Ofcom (dogfen Saesneg yn unig)
Nod yr amod hwn yw diogelu cwsmeriaid yn ystod y broses o newid eu llinell dir (gan gynnwys trosglwyddo eu rhif ffôn) a/neu wasanaethau band eang, naill ai wrth symud o un darparwr cyfathrebiadau i un arall, neu aros gyda’r un darparwr cyfathrebiadau wrth symud lleoliad, neu wrth newid gwasanaethau gyda’r un darparwr cyfathrebiadau. Mae hefyd yn ceisio diogelu cwsmeriaid wrth newid darparwr symudol, p’un ai ydyn nhw’n dod â’u rhif ffôn symudol gyda nhw pan fyddan nhw’n newid.
Dogfennau cysylltiedig:
Nod yr amod hwn yw diogelu defnyddwyr, cwsmeriaid microfusnesau a busnesau bach, yn ogystal â chwsmeriaid nid-er-elw drwy sicrhau bod darparwyr cyfathrebiadau yn cadw at rwymedigaethau penodol wrth werthu a marchnata eu gwasanaethau galwadau a negeseuon testun symudol. Mae hefyd yn mynnu bod darparwyr cyfathrebiadau yn rhoi darpariaethau safonol sylfaenol penodol ar waith ynglŷn ag ymddygiad gwerthu a marchnata eu manwerthwyr.