Ymchwiliad i ddarpariaeth EE o wybodaeth gontract

Cyhoeddwyd: 23 Ionawr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 9 Gorffennaf 2024

Ar gau

Ymchwiliad i

British Telecommunications Plc (BT)

Achos wedi’i agor

23 Ionawr 2023

Achos ar gau

22 Mai 2024

Crynodeb

Roedd yr ymchwiliad hwn yn archwilio cydymffurfiaeth British Telecommunications Plc (BT) â’i rwymedigaeth i ddarparu gwybodaeth am gontractau a chrynodeb o gontractau i gwsmeriaid cyn iddynt ymrwymo i gontract o ganlyniad i amheuaeth o dorri amodau gan ei is-gwmnïau, EE Limited (EE) a Plusnet Plc (Plusnet).

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Amodau Cyffredinol C1.3 i C1.7 a C5.16.

Heddiw cyhoeddodd Ofcom fersiwn nad yw'n gyfrinachol o Gadarnhad o Benderfyniad ar BT ar 22 Mai 2024.

Cadarnhad o Benderfyniad nad yw'n gyfrinachol a gyflwynwyd ar British Telecommunications Plc (BT)

Yn dilyn ein hymchwiliad, mae Ofcom heddiw wedi cyhoeddi Penderfyniad Cadarnhau i British Telecommunications Plc (‘BT’) o dan a96C o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, bod BT wedi mynd yn groes i Amodau Cyffredinol C1.3 i C1.7 drwy fethu â rhoi’r wybodaeth ofynnol am gontractau a dogfennau crynodeb o gontractau i rai cwsmeriaid EE a Plusnet.

Ers 17 Mehefin 2022, mae darparwyr cyfathrebiadau, gan gynnwys BT, wedi bod yn gorfod rhoi gwybodaeth benodol am gontractau a dogfennau crynodeb o gontractau i ddefnyddwyr a microfusnesau a busnesau bach a chwsmeriaid dim-er-elw cyn iddynt ymrwymo i gontract. Mae’r ddwy ddogfen yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y gwasanaeth cyfathrebu sydd ar gael, gan helpu cwsmeriaid i wneud penderfyniadau prynu ar sail gwybodaeth, drwy sicrhau eu bod yn gallu cael gwybodaeth glir y gellir ei chymharu cyn iddynt brynu ac y gallant gyfeirio ati yn ystod eu contract.

Yn 2022, cyfaddefodd BT ei fod wedi methu â darparu’r dogfennau gofynnol i gwsmeriaid a oedd yn prynu gwasanaethau drwy rai o’i sianeli gwerthu EE a Plusnet. Mae ein hymchwiliad wedi datgelu bod BT wedi methu â rhoi’r wybodaeth hon i rai cwsmeriaid a oedd yn prynu gwasanaethau drwy ei siopau adwerthu a gwefan/ap digidol EE, canolfan gyswllt a gwefan Plusnet a sianeli gwerthu eraill i ddefnyddwyr a busnesau. Dechreuodd y tor-amodau ar 17 Mehefin 2022, pan ddaeth y rheolau newydd i rym, ac yn y rhan fwyaf o achosion roedd yn para hyd at bum mis, er bod y tor-amodau’n parhau mewn perthynas â rhai gwerthiannau. O ganlyniad, mae BT wedi gwneud dros 1.3 miliwn o werthiannau heb roi’r wybodaeth ofynnol i gwsmeriaid.

O ystyried difrifoldeb tor-amodau BT, rydym yn rhoi cosb ariannol o £2.8 miliwn i BT. Pennwyd y gosb hon gan ystyried ein Canllawiau Cosbau ac mae’n cynnwys gostyngiad o 30% o ganlyniad i gyfaddefiad BT o atebolrwydd a’r ffaith ei fod wedi cwblhau proses setlo Ofcom. Mae’r gosb yn adlewyrchu nifer o ffactorau, gan gynnwys ein canfyddiad bod BT yn gwybod na fyddai rhai sianeli gwerthu EE a Plusnet yn cydymffurfio pan ddaeth y rheolau i rym ac wedi dewis cymryd y risg o’u rhoi ar waith yn hwyr. Mae hefyd yn ystyried y camau y mae BT wedi’u cymryd hyd yma i unioni canlyniadau’r tor-amodau.

Rydym yn mynnu bod BT yn cymryd camau pellach i sicrhau ei fod yn cydymffurfio ac yn gwneud iawn am dorri’r amodau. Rhaid i BT sicrhau bod sianeli gwerthu nad ydynt yn cydymffurfio yn cael eu gorfodi i gydymffurfio, a hynny o fewn tri mis i’r penderfyniad hwn yn y rhan fwyaf o achosion. Rydym hefyd yn mynnu bod BT, o fewn pum mis i’r penderfyniad hwn, yn cymryd pob cam rhesymol i ad-dalu cwsmeriaid nad oeddent wedi cael crynodeb o’r contract a gwybodaeth am y contract ac a oedd wedyn wedi cael cosb ariannol am adael eu contract cyn diwedd cyfnod eu contract.

Bydd fersiwn heb fod yn gyfrinachol o’r Penderfyniad Cadarnhau yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, roeddem hefyd wedi ystyried cydymffurfiad BT ag Amod Cyffredinol C5.16, sy’n datgan bod yn rhaid i ddarparwyr sicrhau bod gwybodaeth am gontractau a dogfennau crynodeb o gontractau ar gael mewn fformat hygyrch (fel braille) i unrhyw gwsmer sydd ei angen oherwydd eu hanabledd. Nid ydym wedi gweld tystiolaeth bod BT wedi mynd yn groes i Amod Cyffredinol C5.16. Felly, nid ydym yn gwneud canfyddiad mewn perthynas â’r Amod hwnnw.

Heddiw mae Ofcom yn agor ymchwiliad i gydymffurfiad BT i ddarparu cytundeb gwybodaeth a chrynodeb cytundeb i gwsmeriaid cyn iddynt ymrwymo i gytundeb ffurfiol. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried a yw BT wedi mynd yn groes i Amodau Cyffredinol C1.3 i C1.7 ac C5.16 o ganlyniad i achosion a amheuir o dorri rheolau gan bob un o'i is-gwmnïau EE a Plusnet.

Ers 17 Mehefin 2022, bu'n ofynnol i ddarparwyr cyfathrebu perthnasol roi crynodeb o brif delerau eu cytundeb i ddefnyddwyr, busnesau micro a mentrau bach a chwsmeriaid dielw, a gwybodaeth am goytundeb sy'n bodloni'r gofynion yn yr Atodiad i Amod Cyffredinol C1, cyn maent yn ymrwymo i gytundeb ffurfiol ar gyfer gwasanaethau cyfathrebiadau electronig cyhoeddus.

Rhaid i ddarparwyr hefyd, ar gais, sicrhau bod unrhyw wybodaeth am gytundeb neu grynodeb o gytundeb ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw gwsmer sydd ei angen oherwydd eu hanableddau, mewn fformat sydd yn rhesymol dderbyniol. Er enghraifft, efallai y byddant yn darparu'r un wybodaeth mewn print bras neu Braille.

Bwriad y rheolau hyn yw galluogi pob cwsmer i wneud dewisiadau gwybodus am y gwasanaethau a gynigir iddynt.

Ar 4 Hydref 2022, agorodd Ofcom ymchwiliad i gydymffurfiaeth EE ag Amodau Cyffredinol C1.3 i C1.7 a C5.16 dan gyfeirnod achos CW/01262/08/22. Yn dilyn hynny, cafodd Ofcom wybodaeth oedd yn awgrymu y gallai Plusnet fod wedi methu â chydymffurfio â’r gofynion hyn hefyd. Bydd yr ymchwiliad hwn felly yn ystyried a yw BT wedi mynd yn groes i Amodau Cyffredinol C1.3 i C1.7 a C5.16 o ganlyniad i amheuaeth o dorri amodau gan bob un o'i is-gwmnïau, EE a Plusnet. Byddwn yn casglu gwybodaeth bellach ac yn diweddaru'r dudalen hon wrth i'n hymchwiliad fynd rhagddo.

Bydd yr ymchwiliad i EE dan gyfeirnod achos CW/01262/08/22 bellach yn cau, a bydd unrhyw wybodaeth a gasglwyd hyd yma yn cael eu hystyried o fewn cylch gorchwyl yr ymchwiliad uchod i BT, cyfeirnod CW/01265/11/22.


Cyswllt

Y tîm gorfodi (enforcement@ofcom.org.uk)

Cyfeirnod yr achos

CW/01262/08/22

Yn ôl i'r brig