Mae cyflymder band eang yng nghartrefi'r DU wedi parhau i wella, gyda chyflymderau llwytho i lawr ac i fyny ar gynnydd, yn ôl yr ymchwil ddiweddaraf gan Ofcom (Saesneg yn unig).
Mae ein hadroddiad Perfformiad Band Eang Cartref y DU yn edrych ar y cyflymder band eang a gyflawnwyd gan sampl o aelwydydd ar draws y DU yn ystod mis Tachwedd 2020.
Ni fu cysylltiadau band eang dibynadwy o ansawdd uchel erioed yn bwysicach nag yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, pan fu'n rhaid i lawer ohonom ni weithio a dysgu o gartref.
Dengys ein data fod cyflymder lawrlwytho cyfartalog gwasanaethau band eang preswyl y DU wedi codi 25% ers 2019, o 64 Mdid yr eiliad i 80.2 Mdid yr eiliad.
Cartrefi'r DU yn elwa o fedru llwytho i fyny yn gyflymach
Gwelsom hefyd y bu cynnydd sylweddol yn y cyflymder llwytho i fyny, sydd wedi cael ei symbylu gan i lawer o aelwydydd uwchraddio i wasanaethau cyflymach gan gynnwys cysylltiadau ffeibr llawn sydd â chyflymder llwytho i fyny uchel iawn.
Mae'r cyflymder llwytho i fyny yn mynd yn bwysicach i'r rhai ohonom y mae angen i ni weithio o gartref, gan ei fod yn helpu technoleg fel galwadau fideo, ac yn eich helpu i uwchlwytho a rhannu ffeiliau mawrion gyda chydweithwyr.
Mae'n bwysig hefyd ar gyfer y rhai sy'n chwarae gemau fideo ar-lein, ac i grewyr a ffrydwyr fideo sy'n creu ac yn rhannu cynnwys ar-lein. Mae fideos a ffrydiau byw o ansawdd uchel yn ffeiliau mawrion. Felly, po fwyaf eich cyflymder llwytho i fyny, gorau y byddant.
Nododd ein hymchwil y bu cynnydd 54% yn y cyflymder llwytho i fyny ers 2019, o 14 Mdid yr eiliad i 21.6 Mdid yr eiliad
Yn yr hydref byddwn yn cyhoeddi adroddiad llawn ar berfformiad band eang cartref a fydd yn cynnwys mwy o fanylder a'r data diweddaraf.
Os ydych am fanteisio i'r eithaf ar eich cysylltiadau wrth i chi weithio o gartref, gallai ein hawgrymiadau ymarferol fod o gymorth.