Ofcom yw'r rheoleiddiwr ar gyfer diogelwch ar-lein yn y DU. Mae'r dudalen hon yn amlinellu sut y byddwn weithiau'n defnyddio gwasanaethau ar-lein rheoledig fel rhan o'n gwaith i wneud gwasanaethau ar-lein yn fwy diogel i'r bobl sy'n eu defnyddio.
Cenhadaeth Ofcom yw gwneud bywyd yn fwy diogel ar-lein yn y DU, yn enwedig i blant. Ein rôl yw sicrhau bod gan wasanaethau defnyddiwr i ddefnyddiwr, gwasanaethau chwilio a gwasanaethau eraill sy’n cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (‘Gwasanaethau OS’) y systemau a’r prosesau priodol ar waith i ddiogelu pobl rhag niwed.
I gefnogi hyn, efallai y bydd Ofcom yn cael mynediad at Wasanaethau OS perthnasol o bryd i’w gilydd.
Yn dibynnu ar y cyd-destun, mae ein rhesymau dros gael mynediad at Wasanaethau OS yn debygol o gynnwys y canlynol:
- i’n helpu i ddeall a monitro’r mesurau sydd ar waith gan Wasanaethau OS, a’r ffordd maen nhw’n gweithio i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu’n briodol rhag deunydd niweidiol fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein;
- i’n helpu i ddeall natur a math y niwed sy’n deillio o Wasanaethau OS;
- cyfrannu at ein gwaith datblygu polisi, tynnu sylw at ddulliau arfer gorau ac archwilio sut mae Gwasanaethau OS yn diogelu defnyddwyr rhag cynnwys sy’n cynnwys deunydd niweidiol; ac,
- er mwyn ein galluogi i wirio a deall ymatebion Gwasanaethau OS i geisiadau ffurfiol am wybodaeth yn well.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd cael mynediad at Wasanaethau OS unigol yn ffordd fwy cymesur i ni gasglu gwybodaeth, lle mae gwybodaeth ar gael am y gwasanaeth, yn hytrach na chyhoeddi ceisiadau ffurfiol am wybodaeth. Er enghraifft, efallai y byddwn yn dymuno cael gafael ar y polisïau gwasanaeth diweddaraf ac archwilio teithiau defnyddwyr a swyddogaethau adnoddau defnyddwyr.
Pan fydd angen, er mwyn cael gafael ar gynnwys neu swyddogaethau perthnasol, bydd Ofcom yn creu cyfrifon unigol gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost Ofcom. Bydd Ofcom yn glynu wrth y Telerau Gwasanaeth, oni chytunir fel arall gyda darparwr y Gwasanaeth OS.