Dyddiadau pwysig cydymffurfio â Diogelwch Ar-lein

Cyhoeddwyd: 17 Hydref 2024

Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar gwmnïau sydd ag ystod eang o wasanaethau ar-lein i gadw pobl, yn enwedig plant, yn ddiogel ar-lein. Mae’r dudalen hon yn egluro cerrig milltir pwysig – gan gynnwys pryd mae dyletswyddau’n dod i rym a’r camau mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein eu cymryd.

Daw’r dyletswyddau newydd cyntaf i rym tua diwedd 2024. I gael rhagor o fanylion, edrychwch ar ein map diweddaraf. Mae ein canllaw Rheolau newydd i wasanaethau ar-lein yn egluro i bwy mae’r rheolau’n berthnasol, sut mae gweld a yw eich gwasanaeth o fewn y cwmpas, a beth mae’r rheolau newydd yn ei olygu.

Mae’r holl ddyddiadau’n adlewyrchu’r amseru disgwyliedig ar hyn o bryd ac mae’r dudalen hon yn cynnwys y dyddiadau diweddaraf sydd ar gael. Gallai rhai dyddiadau newid wrth i ni barhau i fynd i’r afael â’r materion sydd wedi cael eu codi gan randdeiliaid ac wrth i’r Llywodraeth roi’r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol ar waith. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddyddiadau’r map Diogelwch Ar-lein, tanysgrifiwch i’n briff diogelwch ar-lein.

Am beth ydych chi’n chwilio?

Mae’r tablau isod yn cynnwys cerrig milltir allweddol, mae rhai yn ddyletswyddau gorfodol ond does dim rhaid ymateb i ymgyngoriadau. Mae'r tabl 'I'w nodi' yn nodi cerrig milltir ychwanegol a allai fod o ddiddordeb i chi"

 

Dyletswyddau a chamau gweithredu Ymgynghoriadau     i’w nodi    

Dyletswyddau a chamau gweithredu  

Mae’r tabl hwn yn nodi’r prif ddyletswyddau Diogelwch Ar-lein a beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol i chi fel gwasanaeth ar-lein. Os na fyddwch yn cydymffurfio erbyn y dyddiadau cau, bydd Ofcom yn gallu cymryd camau gorfodi yn erbyn eich gwasanaeth o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2003.

  • Dyddiad Cychwyn: Dyddiad neu amserlen y garreg filltir hon.
  • Carreg Filltir: Y prif gerrig milltir Diogelwch Ar-lein y bydd angen i chi weithredu arnynt.
  • Disgrifiad/Cam Gweithredu: Y garreg filltir ac unrhyw gamau gweithredu mae’n rhaid i chi eu cymryd.
  • Pwy ddylai weithredu? Mae hwn yn amlinellu i bwy mae’r garreg filltir yn berthnasol.
    • Pob gwasanaeth OS: Bydd pob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio yng nghwmpas y Ddeddf.
    • Gwasanaethau VSP: Mae hyn yn cyfeirio at Llwyfannau Rhannu Fideos sydd wedi Hysbysu (pob VSP a sefydlwyd yn y DU sydd eisoes yn bodoli – llwyfannau sy’n diwallu’r cwmpas a'r meini prawf awdurdodaeth o dan Ran 4B o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003).
    • Gwasanaethau OS wedi’u Categoreiddio: Bydd cyfran fach o wasanaethau’n cael eu categoreiddio a’u dynodi’n wasanaethau categori 1, 2A neu 2B os ydynt yn bodloni trothwyon penodol a nodir mewn is-ddeddfwriaeth gan y Llywodraeth. Er hwylustod, rydym yn cyfeirio at ‘wasanaethau wedi’u categoreiddio’ yn y tabl. 
    • Cyhoeddwyr cynnwys pornograffig: Mae hyn yn golygu gwasanaethau pornograffi yng nghwmpas y dyletswyddau yn Rhan 5 o’r Ddeddf.[link to adults only page]
    • Gwasanaethau OS sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant: Pob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio wedi’i reoleiddio sy’n debygol o gael ei ddefnyddio gan blant (ac yn gorfod cydymffurfio â’r dyletswyddau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant) o fewn ystyr y Ddeddf.
  • Dyddiad cwblhau: Dyddiad cau neu ddyddiad gorffen y garreg filltir.

Gallwch chwilio am gynnwys sy’n berthnasol i chi, drwy chwilio am allweddeiriau fel y math o wasanaeth ydych chi, dyletswyddau perthnasol (asesiad risg) neu bynciau (plant). 

Dyletswyddau a chamau gweithredu  

Dyddiad Cychwyn Carreg Filltir Disgrifiad/Cam Gweithredu Pwy ddylai gweithredu? Dyddiad cwblhau Dolenni defnyddiol
Rhagfyr 2024     Ofcom yn cyhoeddi canllawiau ar asesu risg cynnwys anghyfreithlon a fersiwn cyntaf o'r codau ymarfer niwed anghyfreithlon Cynnal asesiad risg o gynnwys anghyfreithlon. All OS services including VSPs

canol Mawrth 2025 

Byddwn yn disgwyl i wasanaethau penodol ddatgelu eu hasesiadau risg i ni o 31 Mawrth 2025

Canllaw cyflym i asesiadau risg cynnwys anghyfreithlon - Ofcom
Mawrth 2025 Cod Ymarfer Niwed Anghyfreithlon yn dod i rym Cydymffurfio â dyletswyddau diogelwch cynnwys anghyfreithlon  Pob gwasanaeth OS  Amh Pob gwasanaeth OS Quick guide to illegal content codes of practice - Ofcom
Ionawr 2025 Ofcom yn cyhoeddi canllawiau ar asesiadau mynediad plant Cynnal asesiad o fynediad plant Pob gwasanaeth OS yn cynnwys VSPs

Ebrill 2025

Canllaw cyflym i asesiadau mynediad plant - Ofcom
Ionawr 2025 Ofcom yn cyhoeddi canllawiau terfynol ar sicrwydd oedran ar gyfer darparwyr pornograffi Darllen canllawiau a pharatoi i roi sicrwydd oedran ar waith. Cyhoeddwyr cynnwys pornograffig (gwasanaethau o fewn cwmpas dyletswyddau rhan 5). Amh Canllaw cyflym i reolau am bornograffi ar-lein - Ofcom
Ionawr/I’w gadarnhau 2025 Y llywodraeth yn cychwyn dyletswyddau diogelwch ar-lein ar sicrwydd oedran ar gyfer cyhoeddwyr cynnwys pornograffig Cydymffurfio â dyletswyddau sicrwydd oedran. Pob gwasanaeth OS (bydd dyletswyddau tryloywder ond yn berthnasol i wasanaethau wedi’u categoreiddio) Amh Gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein: Amddiffyn plant rhag pornograffi ar-lein - Ofcom
Ionawr-Mawrth 2025 Ofcom yn cyhoeddi canllawiau terfynol adrodd ar dryloywder ar gyfer gwasanaethau sy’n debygol o gael eu categoreiddio Gwasanaethau i nodi’r canllawiau sydd ar gael gyda’r bwriad o baratoi ar gyfer gofynion adrodd. Bydd y gofynion ond yn berthnasol i wasanaethau sydd wedi’u categoreiddio.  Pob gwasanaeth OS (bydd dyletswyddau tryloywder ond yn berthnasol i wasanaethau wedi’u categoreiddio) Amh

Dwy ddolen yma

Ymgynghoriad: Canllawiau drafft ar adrodd am dryloywder - Ofcom

EBrill 2025 Ofcom yn cyhoeddi canllawiau ar asesu risg plant a’r fersiwn cyntaf o godau ymarfer amddiffyn plant Cynnal asesiad o fynediad plant.  Gwasanaethau OS sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant, gan gynnwys VSPs

Gorffennaf 2025 

Byddwn yn disgwyl i wasanaethau penodol ddatgelu eu hasesiadau risg i ni o 31 Gorffennaf 2025 ymlaen.

Canllaw cyflym i asesiadau risg plant: amddiffyn plant ar-lein - Ofcom
Mehefin-Gorffennaf 2025 Ofcom yn cyhoeddi cofrestr o wasanaethau wedi’u categoreiddio Bydd y gofrestr yn pennu pa wasanaethau sy’n cael eu categoreiddio. Bydd gwasanaethau’n cael cyfle i ymateb i ymgynghoriadau am ddyletswyddau ychwanegol gwasanaethau wedi’u categoreiddio, a bydd angen iddynt baratoi i gydymffurfio â’r dyletswyddau hynny wrth iddynt ddod i rym.  Gwasanaethau wedi’u categoreiddio gan OS I’w gadarnhau Online service categorisation: information notices
Gorffennaf 2025 Cod Ymarfer Amddiffyn Plant yn dod i rym  Cydymffurfio â’r dyletswyddau diogelwch plant  Gwasanaethau OS sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant Amh Canllaw cyflym i Godau Diogelwch Plant - Ofcom
Awst-Tachwedd 2025 Ofcom yn cyhoeddi hysbysiadau tryloywder drafft a therfynol ar gyfer gwasanaethau wedi’u categoreiddio Gwasanaethau wedi’u categoreiddio yn ymateb i hysbysiadau tryloywder Gwasanaethau wedi’u categoreiddio gan OS I’w gadarnhau Amh

Ymgyngoriadau

Mae’r tabl hwn yn nodi’r dyddiadau sy’n berthnasol i ymgyngoriadau. Bydd y tabl yn eich arwain ar ba bryd mae’r rhain, a’r dyddiad cau i gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad. Sylwch, mae’r dyddiadau i gyd yn adlewyrchu ein hamserlenni ar hyn o bryd ac mae’n bosibl iddyn nhw newid.

  • Dyddiad Cychwyn: Dyddiad neu amserlen y garreg filltir hon.
  • Carreg Filltir: Y prif Ymgynghoriad Diogelwch Ar-lein yr hoffech ei ddarllen ac ymateb iddo.
  • Disgrifiad/Cam Gweithredu: Rhagor o fanylion a chamau gweithredu a awgrymir ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.
  • I bwy mae hwn yn fwyaf perthnasol? Er bod ein hymgyngoriadau’n gyhoeddus a’n bod yn derbyn ymatebion gan unrhyw un, rydym wedi egluro’r mathau o wasanaethau y mae cynigion yr ymgynghoriad yn arbennig o berthnasol iddynt, er mwyn helpu gwasanaethau i ddeall pryd maent fwyaf tebygol o fod eisiau darllen yr ymgynghoriad ac ymateb.
    • Pob gwasanaeth OS: Bydd pob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio yng nghwmpas y Ddeddf.
    • Gwasanaethau VSP: Mae hyn yn cyfeirio at Llwyfannau Rhannu Fideos sydd wedi Hysbysu (pob VSP a sefydlwyd yn y DU sydd eisoes yn bodoli – llwyfannau sy’n diwallu’r cwmpas a'r meini prawf awdurdodaeth o dan Ran 4B o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003).
    • Gwasanaethau OS wedi’u Categoreiddio: Bydd cyfran fach o wasanaethau’n cael eu categoreiddio a’u dynodi’n wasanaethau categori 1, 2A neu 2B os ydynt yn bodloni trothwyon penodol a nodir mewn is-ddeddfwriaeth gan y Llywodraeth. Er hwylustod, rydym yn cyfeirio at ‘wasanaethau wedi’u categoreiddio’ yn y tabl. 
    • Cyhoeddwyr cynnwys pornograffig: Mae hyn yn golygu gwasanaethau pornograffi yng nghwmpas y dyletswyddau yn Rhan 5 o’r Ddeddf.
    • Gwasanaethau OS sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant: Pob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio wedi’i reoleiddio sy’n debygol o gael ei ddefnyddio gan blant (ac yn gorfod cydymffurfio â’r dyletswyddau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant) o fewn ystyr y Ddeddf.
  • Dyddiad cwblhau: Dyddiad cau neu ddyddiad gorffen ymateb i’r ymgynghoriad.

Gallwch chwilio am gynnwys sy’n berthnasol i chi, drwy chwilio am allweddeiriau fel y math o wasanaeth ydych chi neu bwnc ymgynghoriad. 

Ymgyngoriadau

Dyddiad Cychwyn Carreg Filltir Disgrifiad/Cam Gweithredu I bwy y bydd hyn o’r diddordeb mwyaf? Dyddiad cwblhau Dolenni defnyddiol
Hydref 2024 Ymgynghori ar fesurau ychwanegol ar gyfer Codau Ymarfer (niwed anghyfreithlon ac amddiffyn plant) Rhoi adborth ar yr ymgynghoriad mesurau ychwanegol (dewisol) Pob gwasanaeth OS  I’w gadarnhau Amh
Rhagfyr 2024 Ymgynghori ar y safonau gofynnol ar gywirdeb ac achredu technoleg ar gyfer hysbysiadau CSEA/terfysgaeth Rhoi adborth ar yr ymgynghoriad CSEA/terfysgaeth (dewisol) Pob gwasanaeth OS  I’w gadarnhau Amh
Chwefror 2025 Ymgynghori ar ganllawiau amddiffyn menywod a merched Rhoi adborth ar ymgynghoriad amddiffyn menywod a merched (dewisol) Pob gwasanaeth OS  I’w gadarnhau Amh
Ebrill - Mehefin 2025 Ymgynghori ar fesurau ychwanegol ar gyfer Codau Ymarfer (niwed anghyfreithlon ac amddiffyn plant) Rhoi adborth ar yr ymgynghoriad mesurau ychwanegol (dewisol) Pob gwasanaeth OS  I’w gadarnhau Amh
Hydref 2025 - Mawrth 2026 Ymgynghori ar ddyletswyddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau wedi’u categoreiddio Gwasanaethau wedi’u categoreiddio i roi adborth ar yr ymgynghoriad dyletswyddau ychwanegol (dewisol) Gwasanaethau wedi’u categoreiddio gan OS I’w gadarnhau

Gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein: Dyletswyddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau ar-lein ‘wedi’u categoreiddio’ - Ofcom

I’w Nodi

Mae’r tabl hwn yn rhoi dyddiadau cerrig milltir Diogelwch Ar-lein eraill y gallech fod eisiau eu nodi. Sylwch, mae’r dyddiadau i gyd yn adlewyrchu ein hamserlenni ar hyn o bryd ac mae’n bosibl iddyn nhw newid.

  • Dyddiad Cychwyn: Dyddiad neu amserlen y garreg filltir hon.
  • Carreg Filltir: Y prif gerrig milltir Diogelwch Ar-lein y gallech chi fod eisiau eu nodi.
  • Disgrifiad/Cam Gweithredu: Rhagor o fanylion a chamau gweithredu a awgrymir ar gyfer y garreg filltir hon.
  • Pwy ddylai dalu sylw? Rydym wedi egluro’r mathau o wasanaethau mae’r cerrig milltir neu’r cynigion yn arbennig o berthnasol iddynt.
    • Pob gwasanaeth OS: Bydd pob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio yng nghwmpas y Ddeddf.
    • Gwasanaethau VSP: Mae hyn yn cyfeirio at Llwyfannau Rhannu Fideos sydd wedi Hysbysu (pob VSP a sefydlwyd yn y DU sydd eisoes yn bodoli – llwyfannau sy’n diwallu’r cwmpas a'r meini prawf awdurdodaeth o dan Ran 4B o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003).
    • Gwasanaethau OS wedi’u Categoreiddio: Bydd cyfran fach o wasanaethau’n cael eu categoreiddio a’u dynodi’n wasanaethau categori 1, 2A neu 2B os ydynt yn bodloni trothwyon penodol a nodir mewn is-ddeddfwriaeth gan y Llywodraeth. Er hwylustod, rydym yn cyfeirio at ‘wasanaethau wedi’u categoreiddio’ yn y tabl.
    • Cyhoeddwyr cynnwys pornograffig: Mae hyn yn golygu gwasanaethau pornograffi yng nghwmpas y dyletswyddau yn Rhan 5 o’r Ddeddf.
    • Gwasanaethau OS sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant: Pob gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaeth chwilio wedi’i reoleiddio sy’n debygol o gael ei ddefnyddio gan blant (ac yn gorfod cydymffurfio â’r dyletswyddau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant) o fewn ystyr y Ddeddf.
  • Dyddiad cwblhau: Dyddiad cau neu ddyddiad gorffen y garreg filltir.

Gallwch chwilio am gynnwys sy’n berthnasol i chi, drwy chwilio am allweddeiriau fel y math o wasanaeth ydych chi, math o gyhoeddiad neu bwnc. 

I’w Nodi

Dyddiad Cychwyn Carreg Filltir Disgrifiad/Cam Gweithredu Pwy ddylai dalu sylw? Dyddiad cwblhau Dolenni defnyddiol
Mehefin-Gorffennaf 2025 Ofcom yn cyhoeddi adroddiad Mynediad i Ymchwilwyr Gwasanaethau i nodi adroddiad Mynediad Ymchwilydd (dewisol) Pob gwasanaeth OS Amh Ymchwil mynediad a chynhwysiad - Ofcom
Mai-Gorffennaf 2025 Ofcom yn cyhoeddi Datganiad Ymwybyddiaeth o'r Cyfryngau Gwasanaethau i nodi Datganiad Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau (dewisol) Pob gwasanaeth OS Amh Ymwybyddiaeth o'r Cyfryngau - Ofcom

(I’w gadarnhau) Q3 2025 Dyddiad diddymu VSP wedi’i rannu Yr Ysgrifennydd Gwladol i bennu dyddiad diddymu’r VSP Llwyfannau rhannu fideos I’w gadarnhau Amh
(I’w gadarnhau) Q3 2025 Diddymu’r drefn VSPs Y VSPs yn dod yn gwbl ddarostyngedig i’r Ddeddf OS Llwyfannau rhannu fideos I’w gadarnhau Diddymu’r drefn VSPs: yr hyn y mae angen i chi ei wybod - Ofcom
Yn ôl i'r brig