Cais am dystiolaeth: Ail gam rheoleiddio diogelwch ar-lein

Cyhoeddwyd: 10 Ionawr 2023
Ymgynghori yn cau: 21 Mawrth 2023
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Rydyn ni’n gofyn am dystiolaeth i gryfhau ein dealltwriaeth o’r ystod o ddulliau a thechnegau y gall llwyfannau eu defnyddio i’w helpu i gyflawni eu dyletswyddau arfaethedig o dan y Bil Diogelwch Ar-lein.

O dan y Bil Diogelwch Ar-lein, bydd yn ofynnol i wasanaethau sy’n cynnal unrhyw gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr a pheiriannau chwilio gael systemau a phrosesau ar waith i ddiogelu unigolion rhag mathau penodol o niwed ar-lein.

Mae’r cais hwn am dystiolaeth yn canolbwyntio ar y materion rydyn ni’n disgwyl y bydd yn cael eu cynnwys yn ein hail ymgynghoriad. Rydyn ni’n disgwyl ei gyhoeddi yn hydref 2023, er mwyn amddiffyn plant rhag cynnwys cyfreithlon sy’n niweidiol iddyn nhw, fel y nodir yn fanylach yn ein map. Bydd hyn yn cynnwys canllawiau drafft i helpu gwasanaethau i gydymffurfio â’u dyletswyddau asesu mynediad plant, canllawiau drafft ynghylch sut gall gwasanaethau y mae plant yn debygol o’u defnyddio gydymffurfio â’u dyletswyddau i gynnal asesiad risg ar gyfer plant, a chodau ymarfer drafft sy’n egluro sut gall gwasanaethau gydymffurfio â’u dyletswyddau diogelwch sy’n ymwneud ag amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol.

Rydyn ni’n croesawu ymatebion gan randdeiliaid sydd â diddordeb ac rydyn ni’n rhagweld y bydd y cais hwn am dystiolaeth yn berthnasol i amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys y rheini sydd â diddordeb neu arbenigedd mewn amddiffyn plant ar-lein, gan gynnwys sefydliadau cymdeithas sifil a darparwyr gwasanaethau ar-lein. Bydd yr ymatebion yn ategu’r dystiolaeth a gasglwyd o’n cais cyntaf am dystiolaeth.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cais hwn am dystiolaeth, cysylltwch ag os-cfe@ofcom.org.uk.

Ymateb i’r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch yr ymatebion drwy ddefnyddio’r Response-form-cmyru (ODT, 59.61 KB).

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Online Safety Call for Evidence
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig