Children watching mobile phone

Gwefan oedolion yn y DU yn cyflwyno mesurau gwirio oedran yn sgil ymgysylltu ag Ofcom

Cyhoeddwyd: 27 Tachwedd 2023
Diweddarwyd diwethaf: 27 Tachwedd 2023

Mae Tapnet Ltd – sy’n darparu’r gwasanaeth fideo ar-lein i oedolion, RevealMe – wedi cyflwyno mesurau gwirio oedran, ar ôl i Ofcom godi pryderon nad oedd yn gwneud digon i atal plant rhag medru cyrchu pornograffi ar ei lwyfan.

O dan reoliadau presennol sy'n rhagddyddio cyfreithiau diogelwch ar-lein newydd y DU, mae'n ofynnol i lwyfannau rhannu fideos (VSPs) sydd wedi'u sefydlu yn y DU gymryd camau i atal pobl ifanc dan 18 oed rhag cyrchu deunydd pornograffig.

Beth mae Ofcom wedi'i wneud o dan reoliadau VSP

Yn gynharach eleni, fe wnaethom lansio rhaglen orfodi ar fesurau sicrwydd oedran gwefannau oedolion y DU, i archwilio graddfa pryderon cydymffurfio posibl yn y sector a phenderfynu a oedd angen unrhyw gamau pellach.

Gwnaed hyn yn sgil ein hymarfer cywain gwybodaeth ffurfiol, a amlygodd y posibilrwydd nad oedd rhai gwefannau'n cyrraedd y safonau a ddisgwylir ganddynt. I ddechrau, ni ddarparodd Tapnet yr wybodaeth ofynnol erbyn y terfyn amser a osodwyd gennym, a gwnaethom roi dirwy i'r cwmni am fethu â chydymffurfio â’n rheolau cais am wybodaeth.

Ar ôl i'r wybodaeth gael ei darparu, gwnaethom godi pryderon gyda RevealMe ei fod yn dibynnu ar hunan-ddatgan a thaliadau cerdyn debyd i roi sicrwydd ynghylch oedran ei ddefnyddwyr.

Yn ôl i'r brig