Raglen orfodi i mesurau sicrwydd oedran ar lwyfannau rhannu fideos i oedolion sydd wedi’u sefydlu yn y DU

Cyhoeddwyd: 18 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 1 Mai 2024

Ar agor

Gwybodaeth am y rhaglen

Mesurau sicrwydd oedran ar lwyfannau rhannu fideos i oedolion sydd wedi’u sefydlu yn y DU

Achos wedi’i agor

10 Ionawr 2023

Crynodeb

Bydd y rhaglen orfodi hon yn edrych i weld a oes gan lwyfannau rhannu fideos (VSPs) sydd wedi’u sefydlu yn y DU ac sy’n arbenigo mewn cynnwys i oedolion fesurau sicrhau oedran priodol ar waith, fel sy’n ofynnol o dan y drefn VSP.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Mae’r drefn VSP wedi’i amlinellu yn Rhan 4B o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003

Update 18 December 2023 – extending programme into 2024

Ofcom continues to assess age assurance measures on adult video-sharing platforms (VSPs), making sure they are robust enough to prevent under-18s from accessing pornographic videos.

There's still more to do, so we have decided to extend the enforcement programme to April 2024. Continuing our work shows we are committed to driving improvements in this important area.

What we've achieved so far

Several adult VSPs have improved their age assurance measures, after we raised concerns that they were not effectively protecting under-18s from pornographic material. Notably, after our engagement:

  • Tapnet Ltd has updated its RevealMe platform to require users to verify their age, either by making a credit card payment or submitting valid identification to a third-party, automated age verification tool.
  • Kiwi Leisure Limited has committed to adding age assurance measures to its AdmireMe platform, so that users must either make a credit card payment or submit their image to a third-party, automated age estimation tool. If users are estimated to be under 21 years old, they will have to submit valid identification to a third-party, automated age verification tool.
  • Other notified VSPs are in the process of making similar improvements – more details to come soon.

We have also assessed some VSPs that had not already notified to Ofcom, but appeared to be in scope of the VSP regime. Similarly we have spoken to several VSPs that emerged in the UK since the regime began, to find out whether or not they are in scope. So far:

  • We have opened an investigation into Secure Live Media Ltd, provider of adult VSP CamSoda. We'll determine whether or not they failed to notify us, and to take steps to protect under-18s from pornographic videos on their site.
  • Two adult VSPs, Fansify and Sesire have notified us that they are in scope of the regime.
  • Mixed platform SoSpoilt (which primarily shows non-adult content) has notified us that it is in scope of the regime.
  • We have opened engagement with additional adult platforms that may fall outside the scope and jurisdiction of the VSP regime, but which are likely to be regulated under the online safety regime.

We have extended the programme so we can:

  • continue to drive improvements on notified adult VSPs;
  • finish our investigation into Secure Live Media Ltd;
  • assess further platforms in the adult VSP sector that have come to our attention during the course of the programme, and may fall in scope of the VSP regime, but haven't yet notified to Ofcom and may not have appropriate measures in place to protect under-18s from adult content; and
  • continue to progress our understanding of challenges faced by these platforms in implementing sufficiently robust age assurance measures on their sites.

We are still assessing the age assurance measures of certain notified and non-notified adult VSPs. So, we have extended the enforcement programme for another three months.

During this time, we intend to:

  • conclude our assessments of notified smaller adult VSPs and, where necessary, take steps to drive improvements to their age assurance measures;
  • continue our investigation into Secure Live Media Ltd;
  • conclude our assessments of certain other potentially in scope non-notified VSPs; and
  • aim to understand any further challenges faced by these platforms in implementing sufficiently robust age assurance measures on their sites.

Ers agor y Rhaglen Orfodi, mae Ofcom wedi cynnal gwaith ymgysylltu a chasglu gwybodaeth helaeth i ddeall mesurau sicrwydd oedran sy'n cael eu defnyddio ar draws y sector VSP oedolion ac i benderfynu a oes pryderon o ran cydymffurfio sy'n haeddu camau pellach er mwyn mynd i'r afael â niwed posib.

Mae diweddariadau allweddol i'r gwaith hwn yn cynnwys:

Darparwyr VSP oedolion llai eu maint sydd wedi hysbysu

  • rydym wedi bod wrthi'n ymgysylltu â rhai o'r darparwyr VSP oedolion llai eu maint sydd wedi hysbysu i ddeall y mesurau y maent wedi'u rhoi ar waith i warchod defnyddwyr dan oed rhag cynnwys i oedolion a nodi gwelliannau gofynnol;
  • mae sawl un eisoes wedi cymryd camau i wella eu mesurau rheoli mynediad ar gyfer defnyddwyr dan oed;
  • pan fyddwn yn nodi angen am welliannau pellach, byddwn yn pennu terfyn amser ar gyfer y darparwyr hyn i ddangos cydymffurfiaeth. Os byddant yn methu â chwrdd â'r terfyn amser hwn, mae'n bosib y byddwn yn ystyried camau gorfodi pellach.

Llwyfannau i oedolion sydd heb hysbysu

  • rydym wedi nodi nifer o lwyfannau oedolion nad ydynt wedi hysbysu y maent o bosib yn dod o dan gwmpas cyfundrefn VSP y DU yr ymddengys nad ydynt wedi rhoi mesurau sicrwydd oedran priodol ar waith;
  • bu i ni agor ymchwiliad i Secure Live Media Ltd (y credir mai nhw yw darparwr y VSP i oedolion CamSoda) ar 16 Mai 2023 i benderfynu a ydynt wedi methu â hysbysu Ofcom a chymryd mesurau priodol i warchod pobl ifanc dan 18 oed rhag fideos sydd â chynnwys pornograffig ar eu gwefan;
  • Rydym yn parhau i ymgysylltu â nifer o wefannau eraill i benderfynu a yw'n ofynnol iddynt gydymffurfio â chyfundrefn VSP y DU ai beidio. Dewisodd un lwyfan y gwnaethom gysylltu â hi, yr oedd yn ymddangos nad oedd ganddi fesurau rheoli mynediad digonol, i gau'r gwasanaeth i lawr ar ôl i ni gysylltu.

Dealltwriaeth gyffredinol

  • rydym yn ymgysylltu â llwyfannau oedolion ar draws y sector, ac mae hyn wedi datblygu ein dealltwriaeth o'r heriau y mae llwyfannau'n eu hwynebu wrth ystyried gweithredu unrhyw fesurau sicrwydd oedran a rhinweddau priodol y gwahanol ddulliau sydd ar gael iddynt;
  • bydd yr hyn yr ydym wedi'i ddysgu'n allweddol wrth i ni asesu llwyfannau pellach yn y gyfundrefn VSP ac o fewn y Gyfundrefn Diogelwch Ar-lein pan ddaw'r ddeddfwriaeth newydd i rym.

Y camau nesaf: Am mai un o flaenoriaethau allweddol Ofcom yw sicrhau bod pobl yn byw bywyd mwy diogel ar-lein, byddwn yn parhau i ymdrin â niweidiau posib sy'n deillio o bryderon ynghylch sicrwydd oedran. Gan gadw hyn mewn cof, bydd Ofcom yn ehangu'r rhaglen fonitro a gorfodi bresennol am dri mis arall. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn parhau:

  • i ymgysylltu'n barhaus â llwyfannau oedolion sydd wedi hysbysu;
  • â'n hymchwiliad gorfodi i Secure Live Media Ltd;
  • i ymgysylltu ymhellach â llwyfannau oedolion eraill nad ydynt wedi hysbysu, gyda chamau gorfodi posib ar gyfer methu â chydymffurfio; ac i
  • symbylu gwelliannau cyn y gyfundrefn Diogelwch Ar-lein o fewn y sector oedolion.

Bwriadwn gyhoeddi diweddariad yn dilyn y cyfnod hwnnw.

O bryd i’w gilydd, gall Ofcom agor rhaglen waith, neu “raglen orfodi” i archwilio problem neu bryder sy’n ymwneud â grŵp penodol o randdeiliaid, neu â sector cyfan.

Un o’n blaenoriaethau ar gyfer ail flwyddyn y drefn VSP yw hyrwyddo gweithredu sicrwydd oedran cadarn, fel bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag y cynnwys mwyaf niweidiol. Ym mis Hydref 2022, fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ar flwyddyn gyntaf rheoleiddio VSPs. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith nad yw’n ymddangos bod gan lawer o lwyfannau sy’n arbenigo mewn fideos sy’n cynnwys deunydd pornograffig (neu “VSPs i oedolion”) fesurau sy’n ddigon cadarn i atal plant rhag cael gafael ar ddeunydd pornograffig.

Heddiw, mae Ofcom yn agor rhaglen orfodi i fesurau sicrwydd oedran ar draws y sector VSP i oedolion.

Dyma ein hamcanion ar gyfer y rhaglen hon:

  • asesu’r mesurau sicrwydd oedran sy’n cael eu rhoi ar waith gan VSPs hysbysedig i oedolion, i sicrhau eu bod yn ddigon cadarn i atal pobl ifanc o dan 18 oed rhag cael gafael ar fideos sy’n cynnwys deunyddiau pornograffig;
  • nodi a oes llwyfannau eraill yn y sector VSP i oedolion a allai ddod o fewn cwmpas y drefn VSP ond:
    1. nad ydynt wedi rhoi gwybod i Ofcom am eu gwasanaeth eto, fel sy’n ofynnol o dan y fframwaith VSP (gweler mwy isod); a
    2. efallai nad oes mesurau priodol ar waith i ddiogelu pobl ifanc o dan 18 oed rhag cynnwys pornograffig; a
  • deall gan ddarparwyr gwasanaethau VSP i oedolion yr heriau maent wedi’u hwynebu wrth ystyried rhoi unrhyw fesurau sicrwydd oedran ar waith. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i greu darlun o ba fesurau sy’n gweithio ac sy’n gymesur i’w disgwyl gan wahanol VSPs, yn unol â’n blaenoriaeth strategol o fwrw ymlaen â’r gwaith o roi sicrwydd oedran cadarn ar waith.

Bydd y rhaglen yn ceisio penderfynu ar raddfa unrhyw bryderon o ran cydymffurfio, a hynny mewn perthynas â VSPs i oedolion sydd wedi ein hysbysu, yn ogystal â’r rhai sydd heb roi gwybod. Byddwn wedyn yn penderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach (gan gynnwys gorfodi), a beth yw’r ffordd orau o fynd i’r afael â niwed posibl.

Y fframwaith rheoleiddio

Ers 1 Tachwedd 2020, mae gan Ofcom bwerau i reoleiddio VSPs sydd wedi’u sefydlu yn y DU o dan y fframwaith sydd wedi’i nodi yn Rhan 4B o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Nod y fframwaith hwn yw diogelu defnyddwyr gwasanaethau VSP rhag mathau penodol o ddeunydd niweidiol mewn fideos, gan gynnwys diogelu pobl ifanc o dan 18 oed rhag deunydd a allai fod yn niweidiol, fel cynnwys pornograffig.

O dan y fframwaith, mae’r gyfraith yn mynnu bod rhaid i ddarparwyr gyflwyno hysbysiad ffurfiol o’u gwasanaeth i Ofcom os ydynt yn bodloni’r diffiniad o VSP ac yn dod o fewn awdurdodaeth y DU. Mae darparwyr yn gyfrifol am hunanasesu a oes angen iddynt roi gwybod i Ofcom am eu gwasanaethau fel VSP ar sail meini prawf cyfreithiol penodol. Mae rhagor o wybodaeth am hysbysu ar gael yn ein canllaw cyhoeddedig (PDF, 157.5 KB).

Mae Ofcom wedi datblygu canllawiau rheoleiddio (PDF, 157.5 KB) ar gyfer darparwyr VSP ar fesurau i ddiogelu defnyddwyr rhag deunyddiau niweidiol, sy’n cynnwys systemau ar gyfer cael sicrwydd ynghylch oedran gwylwyr posibl. Mae ein canllawiau’n cydnabod y gall fod ffyrdd gwahanol o sicrhau oedran, ond mae’n rhaid i lwyfannau ddefnyddio’r egwyddor bod yn rhaid i ddeunydd sydd â’r potensial mwyaf i niweidio datblygiad corfforol, meddyliol neu foesol pobl ifanc dan 18 oed fod yn ddarostyngedig i’r mesurau rheoli mynediad llymaf. Mae’r canllawiau hefyd yn disgrifio sawl math o ddilysu oedran na fyddai Ofcom yn ystyried ei fod yn darparu amddiffyniad priodol rhag cynnwys pornograffig (fel blychau ticio hunanddatganiad).

Rhaglen orfodi Ofcom

Yn dilyn ein hadolygiad o ymatebion i geisiadau ffurfiol am wybodaeth a gyflwynwyd i bob VSP hysbysedig, fe wnaethom nodi yn ein hadroddiad VSP ei bod yn bosibl nac ydy mesurau sicrwydd oed sy’n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd gan nifer o VSPs i oedolion yn ddigon cadarn i atal plant rhag cael gafael ar ddeunydd pornograffig. Rydym hefyd yn poeni y gallai fod VSPs eraill i oedolion o fewn awdurdodaeth y DU:

  1. nad ydynt wedi rhoi gwybod i ni hyd yma; a
  2. efallai nad ydynt wedi cymryd camau priodol i amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol.

Blaenoriaeth Ofcom yw sicrhau bod pobl yn byw bywyd mwy diogel ar-lein. Mae angen i ni fynd i’r afael â niwed posibl sy’n deillio o’n pryderon ynghylch sicrwydd oed, a meithrin gwelliannau ar draws y sector VSP i oedolion. Un o’n prif flaenoriaethau ar gyfer ail flwyddyn y drefn VSP yw hyrwyddo gweithredu sicrwydd oedran cadarn, fel bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag y cynnwys mwyaf niweidiol (gan gynnwys pornograffi). Bydd y rhaglen orfodi rydym wedi’i hagor heddiw yn ein helpu i gyflawni’r amcan hwn.

Os daw i sylw Ofcom bod llwyfan o fewn awdurdodaeth y DU nad yw’n diogelu ei ddefnyddwyr yn briodol, gallem gymryd camau gorfodi hyd yn oed os yw eisoes wedi rhoi gwybod i ni. Gallai methu â rhoi gwybod pan fydd gwasanaeth o fewn cwmpas fframwaith VSP hefyd arwain at gamau gorfodi. Felly, rydym yn annog pob darparwr i adolygu’r canllawiau a gyhoeddwyd gennym ar 10 Mawrth 2021, Llwyfannau rhannu fideos – pwy sydd angen hysbysu Ofcom? Mae llwyfannau rhannu fideos nad ydynt yn cael eu rheoleiddio yn y DU ar hyn o bryd yn debygol o fod yn ‘wasanaethau defnyddwyr i ddefnyddwyr’ (fel y’u diffinnir yn y Bil Diogelwch Ar-lein), ac felly byddai’n destun rheoleiddio pan ddaw’r ddeddfwriaeth newydd i rym os oes ganddynt nifer sylweddol o ddefnyddwyr y DU, neu os yw’r DU yn un o’u marchnadoedd targed.

Rydym yn disgwyl i’r rhaglen hon bara am bedwar mis i ddechrau. Byddwn yn asesu lefel y gydymffurfiaeth ar draws y sector VSP i oedolion, ac yn cyhoeddi diweddariad ar y cynnydd ar ddiwedd y cyfnod. Efallai y byddwn yn penderfynu agor ymchwiliadau ffurfiol ar ôl ein hasesiad.


Cyswllt

Y tîm gorfodi (enforcement@ofcom.org.uk)

Cyfeirnod yr achos

CW/01266/12/22

Yn ôl i'r brig