Young girl using mobile phone in bed at night

Creu bywyd mwy diogel ar-lein i bobl yn y DU

Cyhoeddwyd: 26 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf: 30 Hydref 2023

Heddiw, derbyniodd y Ddeddf Diogelwch Ar-lein Gydsyniad Brenhinol, sy'n golygu bod pwerau Ofcom fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein wedi cychwyn yn swyddogol.

Rydym bellach yn symud yn gyflym i weithredu'r cyfreithiau newydd a heddiw rydym wedi cyhoeddi ein dull rheoleiddio a'n llinellau amser. Rydym hefyd yn nodi sut y byddwn yn sbarduno newid yn unol â nodau’r Ddeddf ac yn cefnogi gwasanaethau i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cyfreithiol newydd.

Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn gwneud cwmnïau sy'n gweithredu ystod eang o wasanaethau ar-lein poblogaidd yn gyfreithiol gyfrifol am gadw pobl, yn enwedig plant, yn ddiogel ar-lein. Rhaid i wasanaethau wneud hyn drwy asesu a rheoli risgiau diogelwch sy'n codi yn sgil cynnwys ac ymddygiad ar eu gwefannau a'u hapiau.

Mae'r gwasanaethau sydd o fewn cwmpas y rheolau newydd yn cynnwys gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr fel gwasanaethau ar gyfryngau cymdeithasol i rannu lluniau a fideos, llwyfannau sgwrsio a negeseua gwib, gemau ar-lein ac ar ddyfeisiau symudol, yn ogystal â gwasanaethau chwilio a safleoedd pornograffi.

Rôl Ofcom

Ein ffocws ni fydd y gwasanaethau a'r nodweddion sy'n peri’r risg fwyaf o niwed i ddefnyddwyr y DU. Bydd hyn yn golygu goruchwylio'r gwasanaethau mwyaf a mwyaf peryglus yn rheoleiddiol yn barhaus.

Mae’n bwysig nodi na fyddwn yn cyfarwyddo cwmnïau i ddileu darnau penodol o gynnwys na thynnu cyfrifon penodol i lawr. Yn hytrach, byddwn yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol cynnwys ar-lein sy'n anghyfreithlon ac yn niweidiol i blant, trwy geisio sicrhau gwelliannau systemig ar draws y diwydiant - a thrwy hynny lleihau'r risg ar raddfa, yn hytrach na chanolbwyntio ar achosion unigol.

Bydd angen i ni daro cydbwysedd priodol, gan ymyrryd i amddiffyn defnyddwyr rhag niwed lle bo angen, tra’n sicrhau bod rheoleiddio yn diogelu preifatrwydd a rhyddid mynegiant yn briodol, ac yn hyrwyddo arloesedd.

Sut y byddwn yn ysgogi newid

Rydym yn disgwyl i'r diwydiant weithio gyda ni ac rydym yn disgwyl newid. Yn benodol, byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod cwmnïau technoleg:

  • yn meddu ar ddulliau llywodraethu diogelwch cryfach, fel bod diogelwch defnyddwyr yn cael ei gynrychioli ar bob lefel o'r sefydliad – o'r Bwrdd i lawr i dimau cynnyrch a pheirianneg;
  • yn dylunio a gweithredu eu gwasanaethau gyda diogelwch mewn golwg;
  • yn galluogi defnyddwyr i gael mwy o ddewis a rheolaeth dros eu profiad ar-lein; a’u bod
  • yn fwy tryloyw ynghylch eu mesurau diogelwch a'u penderfyniadau i hyrwyddo ymddiriedaeth.

Pan fyddwn yn nodi methiannau i gydymffurfio, gallwn osod dirwyon o hyd at £18m neu 10% o’r refeniw byd-eang sy’n cymhwyso (p’un bynnag sydd fwyaf).

Mae'r cyfreithiau newydd hyn yn rhoi'r pŵer i Ofcom ddechrau gwneud gwahaniaeth go iawn wrth greu bywyd mwy diogel ar-lein i blant ac oedolion yn y DU. Rydym eisoes wedi hyfforddi a chyflogi timau arbenigol sydd â phrofiad ar draws y sector ar-lein, a heddiw rydym yn nodi llinell amser glir ar gyfer dwyn cwmnïau technoleg i gyfrif.

Nid sensor mo Ofcom, ac nid diben ein pwerau newydd yw tynnu cynnwys i lawr. Ein gwaith ni yw mynd i'r afael ag achosion sylfaenol niwed. Byddwn yn gosod safonau newydd ar-lein, gan sicrhau bod safleoedd ac apiau yn fwy diogel trwy ddylunio. Mae’n bwysig nodi y byddwn hefyd yn cymryd ystyriaeth lawn o hawliau pobl i breifatrwydd a rhyddid mynegiant. Rydym yn gwybod nad oes modd cyflawni bywyd mwy diogel ar-lein dros nos; ond mae Ofcom yn barod i ateb graddau a natur frys yr her.

y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom

Map gweithredu

Bydd y cyfreithiau newydd yn cael eu cyflwyno mewn tri cham fel a ganlyn, gyda'r amseru yn cael ei yrru gan ofynion y Ddeddf ac is-ddeddfwriaeth berthnasol:

Cam un: Cynnwys anghyfreithlon

Rydym yn cyhoeddi ein hymgynghoriad cyntaf ar niwed anghyfreithlon - gan gynnwys deunydd yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol, cynnwys terfysgol a thwyll - ar 9 Tachwedd 2023. Bydd hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer sut y gall gwasanaethau gydymffurfio â'r dyletswyddau diogelwch cynnwys anghyfreithlon a'r Codau Ymarfer drafft.

Cam dau: Diogelwch plant, pornograffi, ac amddiffyn menywod a merched

Bydd ein hymgynghoriad cyntaf, y disgwylir iddo gael ei gynnal ym mis Rhagfyr 2023, yn nodi canllawiau drafft ar gyfer gwasanaethau sy'n lletya cynnwys pornograffig. Bydd ymgynghoriadau pellach yn ymwneud â'r dyletswyddau Diogelwch Plant o dan y Ddeddf yn dilyn yng Ngwanwyn 2024, a byddwn yn cyhoeddi canllawiau drafft ar ddiogelu menywod a merched erbyn Gwanwyn 2025.

Cam tri: Dyletswyddau ychwanegol ar gyfer gwasanaethau wedi’u categoreiddio

Mae'r dyletswyddau hyn – gan gynnwys dyletswyddau i gyhoeddi adroddiadau tryloywder a defnyddio mesurau grymuso defnyddwyr – yn berthnasol i wasanaeth sy'n bodloni meini prawf penodol sy'n ymwneud â nifer eu defnyddwyr neu nodweddion eu gwasanaeth sy’n peri risg uchel.  Byddwn yn cyhoeddi cyngor i'r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch categoreiddio, a chanllawiau drafft ar ein dull o adrodd tryloywder, yng Ngwanwyn 2024. Yn amodol ar gyflwyno is-ddeddfwriaeth sy'n pennu'r trothwyon ar gyfer categoreiddio, rydym yn disgwyl cyhoeddi cofrestr o wasanaethau wedi’u categoreiddio erbyn diwedd 2024. Bydd cynigion pellach, gan gynnwys Cod Ymarfer drafft ar hysbysebu twyllodrus a hysbysiadau tryloywder twyllodrus yn dilyn yn gynnar ac yng nghanol 2025 yn y drefn honno, gyda'n codau a'n canllawiau terfynol yn cael eu cyhoeddi tua diwedd yr un flwyddyn.

Mae gwybodaeth fanylach (PDF, 1.4 MB) am y gwahanol gamau gweithredu ar gael ar ein gwefan.

Consultation-Online-Safety-Timeline-for-implementation-full-CYM
Yn ôl i'r brig