
Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn cyflwyno rheolau newydd i ddarparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr, gwasanaethau chwilio, a gwasanaethau pornograffi. Bydd y rheolau hyn yn helpu i gadw pobl yn y DU yn ddiogel rhag cynnwys sy’n anghyfreithlon yn y DU ac i warchod plant rhag y cynnwys mwyaf niweidiol, fel deunydd pornograffi, hunanladdiad neu hunan-niwed.
Lle bynnag yn y byd mae gwasanaeth wedi’i leoli, os oes ganddo ‘gysylltiadau â’r DU’, mae ganddo bellach ddyletswyddau i ddiogelu defnyddwyr yn y DU. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau sydd â nifer sylweddol o ddefnyddwyr yn y DU neu fod y DU yn farchnad darged. Bydd y rheolau hyn hefyd yn berthnasol i wasanaethau y gellir eu defnyddio gan unigolion yn y DU ac sy’n peri risg gwirioneddol o niwed sylweddol.
Mae’r Ddeddf yn mynnu bod gwasanaethau’n cymryd camau i ddiogelu defnyddwyr yn y DU – nid yw’n berthnasol i ddefnyddwyr mewn unrhyw le arall yn y byd.
Mae Ofcom o’r farn fod ei agwedd hyblyg at asesu a lliniaru risg yn caniatáu i bob gwasanaeth gymryd camau priodol a chymesur i ddiogelu defnyddwyr yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon. Mae’n bosib y bydd rhai gwasanaethau yn ceisio atal defnyddwyr yn y DU rhag cael mynediad i’w safleoedd neu i rannau o’u safleoedd, yn hytrach na chydymffurfio â gofynion y Ddeddf i ddiogelu defnyddwyr yn y DU. Wel, eu dewis nhw fydd hynny.
Fodd bynnag, petai gwasanaeth yn penderfynu cyfyngu ar fynediad defnyddwyr yn y DU, byddai angen i hynny fod yn effeithiol i sicrhau nad yw’r gwasanaeth yn dod o dan gwmpas y Ddeddf. Ond y prawf allweddol o hyd yw a oes gan y gwasanaeth gysylltiadau â’r DU. Bydd hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol (gan gynnwys a yw’n dal i dargedu defnyddwyr yn y DU, er enghraifft, drwy hyrwyddo ffyrdd o osgoi’r cyfyngiadau mynediad). Byddai Ofcom yn asesu a yw gwasanaeth o fewn cwmpas y Ddeddf fesul achos ac, os yw’r Ddeddf yn berthnasol, byddai’n ystyried cydymffurfiad y gwasanaeth â’r gyfraith a, lle bo angen, yn defnyddio ein pwerau ymchwilio a gorfodi.
Rydym yn cydnabod hyd a lled a chymhlethdod y rheolau diogelwch ar-lein a bod amrywiaeth eang o wasanaethau yn mynd i ddisgyn o fewn y cwmpas.
Gall rheoliadau newydd greu ansicrwydd ac mae dod i ddeall y gofynion yn gallu bod yn heriol. Mae Ofcom wedi ymrwymo i weithio gyda darparwyr i’w helpu i gydymffurfio â’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ac i ddiogelu eu defnyddwyr. I’r perwyl hwn, rydym wedi datblygu amrywiol becynnau ac adnoddau er mwyn eu helpu i ddeall a chydymffurfio â’r gofynion. Yn ddiweddar gwnaethom hefyd gyhoeddi canllaw i helpu gwasanaethau bach i ddeall y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.