Cais am dystiolaeth: Cam cyntaf rheoleiddio diogelwch ar-lein

Cyhoeddwyd: 6 Gorffennaf 2022
Ymgynghori yn cau: 13 Medi 2022
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Rydym yn gofyn am dystiolaeth i gryfhau ein dealltwriaeth o'r ystod o ddulliau a thechnegau y gall llwyfannau eu defnyddio i'w helpu i gyflawni eu dyletswyddau arfaethedig o dan y Mesur Diogelwch Ar-lein.

Bydd y Mesur Diogelwch Ar-lein yn ei wneud yn ofynnol i wasanaethau sy'n cynnal cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr a pheiriannau chwilio fod â systemau a phrosesau ar waith i amddiffyn unigolion rhag mathau penodol o niwed ar-lein.

Heddiw rydym wedi cyhoeddi map, sy'n nodi ein cynlluniau ar gyfer gweithredu rheoleiddio Diogelwch Ar-lein. Mae’r cais hwn am dystiolaeth yn canolbwyntio ar y materion rydym yn disgwyl fydd yn cael eu cynnwys yn ein hymgynghoriad cyntaf yn 2023, fel y nodir yn fanylach ar ein map. Felly, mae’r ffocws ar asesu’r risg o niwed o gynnwys anghyfreithlon, mesurau lliniaru yn ymwneud â chynnwys anghyfreithlon, asesiadau mynediad plant a gofynion tryloywder.

Hoffem glywed gan fusnesau, sefydliadau a grwpiau sy'n gallu darparu tystiolaeth am ein cwestiynau, gan gynnwys darparwyr y mae eu gwasanaethau'n debygol o ddod o fewn cwmpas y fframwaith Diogelwch Ar-lein, yn ogystal â rheoleiddwyr, academyddion, sefydliadau cymdeithas sifil, cynrychiolwyr defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb ac arbenigedd yn y maes hwn.

Bydd ein Cais am Dystiolaeth yn agored am 10 wythnos ar ôl ei gyhoeddi ac rydym yn gofyn am ymatebion yn ôl erbyn 5pm ar 13 Medi 2022. Nid oes angen ymateb i bob cwestiwn neu ysgogiad, a chyflwyniadau clir a chyfiawn fydd y rhai mwyaf defnyddiol wrth ddatblygu ein dealltwriaeth o'r cwestiynau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cais am dystiolaeth hwn, cysylltwch â OS-CFE@ofcom.org.uk.

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Online Safety Call for Evidence
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig