- Ofcom yn nodi canllawiau i helpu llwyfannau rhannu fideos i gadw defnyddwyr yn fwy diogel
- Mae un defnyddiwr rhannu fideos o bob tri yn dod ar draws iaith casineb
- Mae ein dull gweithredu yn cydbwyso diogelu defnyddwyr â chynnal rhyddid mynegiant
Dylai pobl sy’n defnyddio safleoedd ac apiau rhannu fideos ar-lein gael eu diogelu’n well rhag cynnwys niweidiol, wrth i Ofcom gyhoeddi canllawiau newydd i gwmnïau technoleg heddiw.
Mae llwyfannau rhannu fideos (VSPs) yn fath o wasanaeth fideos ar-lein lle gall defnyddwyr lwytho fideos i fyny a’u rhannu ag aelodau o’r cyhoedd. Maen nhw’n caniatáu i bobl ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gynnwys a nodweddion cymdeithasol.
Mae’r gyfraith yn mynnu bod VSPs sy’n cael eu sefydlu yn y DU – fel TikTok, Snapchat, Vimeo a Twitch – yn cymryd camau i ddiogelu pobl ifanc o dan 18 oed rhag cynnwys fideos a allai fod yn niweidiol; a phob defnyddiwr rhag fideos sy’n debygol o gymell trais neu gasineb, yn ogystal â rhai mathau o gynnwys troseddol.
Mae ymchwil Ofcom yn dangos bod traean o ddefnyddwyr yn dweud eu bod wedi gweld neu wedi profi cynnwys casineb; mae chwarter yn dweud eu bod wedi gweld cynnwys treisgar neu annymunol; ac mae un o bob pump wedi gweld fideos neu gynnwys a oedd yn annog hiliaeth.[1]
Mae canllawiau arferion gorau heddiw wedi’u llunio i helpu cwmnïau i ddeall eu rhwymedigaethau newydd a barnu sut orau i ddiogelu eu defnyddwyr rhag y math hwn o ddeunydd niweidiol. Rydym eisoes wedi dechrau trafod gyda llwyfannau beth yw eu cyfrifoldebau, a beth maent yn ei wneud i gydymffurfio â nhw.[2]
Beth ddylai llwyfannau ei wneud i ddiogelu defnyddwyr
Gwaith Ofcom yw gorfodi’r rheolau sydd wedi’u nodi mewn deddfwriaeth a dwyn VSPs i gyfrif. Yn wahanol i’n gwaith darlledu, nid asesu fideos unigol yw ein rôl ni. Ac mae’r swmp enfawr o gynnwys ar-lein yn golygu ei bod yn amhosibl atal pob achos o niwed.
Yn hytrach, mae’r cyfreithiau’n canolbwyntio ar y mesurau mae’n rhaid i ddarparwyr eu cymryd, fel y bo’n briodol, i ddiogelu eu defnyddwyr – ac i roi hyblygrwydd i gwmnïau o ran sut maent yn gwneud hynny. Er mwyn eu helpu i gyflawni eu rhwymedigaethau i ddiogelu defnyddwyr, mae ein canllawiau’n nodi disgwyliad y dylai VSPs:
- Roi rheolau clir ynghylch llwytho cynnwys i fyny. Mae llwytho cynnwys i fyny sy’n ymwneud â therfysgaeth, deunydd cam-drin plant yn rhywiol neu hiliaeth yn drosedd. Dylai llwyfannau gael telerau ac amodau clir a gweladwy sy’n gwahardd hyn – a’u gorfodi’n effeithiol.
- Meddu ar brosesau cwyno ac adrodd hawdd. Dylai cwmnïau roi offer ar waith sy’n caniatáu i ddefnyddwyr fflagio fideos niweidiol yn rhwydd. Dylent gyfeirio at ba mor gyflym y byddant yn ymateb, a bod yn agored am unrhyw gamau a gymerir. Dylai darparwyr gynnig llwybr i ddefnyddwyr godi pryderon yn ffurfiol gyda’r llwyfan, a herio eu penderfyniadau. Mae hyn yn hanfodol er mwyn diogelu hawliau a buddiannau defnyddwyr sy’n llwytho cynnwys i fyny ac yn ei rannu.
- Cyfyngu mynediad i safleoedd i oedolion. Dylai VSPs sy’n gwesteia deunydd pornograffig gael proses dilysu cadarn ar gyfer oedran, er mwyn diogelu pobl ifanc o dan 18 oed rhag cael gafael ar ddeunydd o’r fath.
Cynlluniau a blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod
Un o’n pum blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod – fel y nodir yn ein cynllun gwaith (PDF, 867.5 KB) – yw gweithio gyda VSPs i leihau’r risg o ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol.
Dywedodd The Internet Watch Foundation fod cynnydd o 77% yn nifer y cynnwys sy’n cael ei hunan-gynhyrchu yn 2020. Mae llwyfannau rhannu fideos oedolion yn golygu mwy o risg o ddeunydd camdrin plant yn rhywiol ac mae'r cynnydd mewn safleoedd tanysgrifio uniongyrchol i ddefnyddwyr sy’n arbenigo mewn cynnwys oedolion a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, wedi cynyddu'r risg yma o bosib. O ystyried y risg uwch hon, rydym yn disgwyl y bydd prosesau cofrestru crewyr VSPs a’r gwiriadau dilynol yn ddigon cryf i leihau’n sylweddol y risg o ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol yn cael ei lwytho i fyny a’i rannu ar eu llwyfannau.
Dros y 12 mis nesaf byddwn hefyd yn blaenoriaethu: mynd i’r afael â chasineb a therfysgaeth ar-lein; sicrhau profiad sy’n briodol i oedran ar lwyfannau sy’n boblogaidd ymysg pobl ifanc o dan 18 oed; gosod y sylfeini ar gyfer dilysu oedran ar safleoedd i oedolion; a sicrhau bod prosesau VSPs ar gyfer adrodd cynnwys niweidiol yn effeithiol.
Ein dull o orfodi ac adrodd
Byddwn yn meddu ar agwedd gadarn, ond teg, at ein dyletswyddau newydd. O ran teledu a radio, byddwn yn sicrhau cydbwysedd rhwng diogelu pobl rhag niwed, a hawliau i ryddid mynegiant.
Os byddwn yn canfod bod darparwr VSP wedi torri ei rwymedigaethau i gymryd mesurau priodol i ddiogelu defnyddwyr, mae gennym y grym i ymchwilio a chymryd camau yn erbyn llwyfan. Gallai hyn gynnwys dirwyon, mynnu bod y darparwr yn cymryd camau penodol, neu – yn yr achosion mwyaf difrifol – atal neu gyfyngu ar y gwasanaeth.
Mae gennym hefyd ystod eang o rymoedd newydd i gasglu gwybodaeth gan ddarparwyr am beth maent yn ei wneud i fynd i’r afael â diogelwch defnyddwyr gyda’u gwasanaethau.
Yn ystod hydref y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyhoeddi adroddiad cyntaf o’i fath a fydd yn rhoi tryloywder i ddefnyddwyr a’r cyhoedd yn ehangach ynghylch y camau mae VSPs yn eu cymryd i ddiogelu plant a defnyddwyr eraill rhag niwed.
Mae fideos ar-lein yn chwarae rhan enfawr yn ein bywydau nawr, yn enwedig i blant. Ond mae llawer o bobl yn gweld deunydd cas, treisgar neu amhriodol wrth eu defnyddio.
Nawr mae gan y llwyfannau lle mae'r fideos hyn yn cael eu rhannu, ddyletswydd gyfreithiol i gymryd camau i ddiogelu eu defnyddwyr. Felly rydyn ni'n gwella ein gwaith o oruchwylio'r cwmnïau technoleg hyn, ac yn paratoi ar gyfer y dasg o fynd i'r afael ag amrywiaeth llawer enhangach o niwed ar-lein yn y dyfodol.
Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
- Gwnaethom gomisiynu ymchwil defnyddwyr pwrpasol i lywio ein dull o reoleiddio VSPs. Cynhaliwyd gwaith maes ar gyfer yr ymchwil hwn rhwng mis Medi a mis Hydref 2020, ac mae’r canfyddiadau’n ymwneud â’r tri mis cyn y cyfweliad. Rydym hefyd wedi cyhoeddi dau adroddiad gan academyddion blaenllaw o Sefydliad Alan Turing, sy’n rhoi sylw i gasineb ar-lein; a gan y Sefydliad Cymunedau Cysylltiedig ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain, ar ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein.
- Heddiw, rydym hefyd wedi cyhoeddi canllaw esboniadol byr i’r diwydiant ar y fframwaith newydd ar gyfer llwyfannau rhannu fideos.