Datganiad: arweiniad i ddarparwyr VSP ar fesurau i ddiogelu defnyddwyr rhag deunydd niweidiol

Cyhoeddwyd: 24 Mawrth 2021
Ymgynghori yn cau: 2 Mehefin 2021
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 6 Hydref 2021

Mae Ofcom wedi derbyn pwerau newydd i reoleiddio llwyfannau rhannu fideos (VSP) a sefydlir yn y DU. Nod rheoleiddio VSP yw diogelu defnyddwyr VSP rhag mathau penodol o ddeunydd niweidiol mewn fideos. Mae hyn yn cynnwys diogelu pobl dan 18 oed rhag deunydd a allai fod yn niweidiol a phob defnyddiwr rhag deunydd sy'n annog trais neu gasineb, a chynnwys sy'n gyfystyr â throseddau gysylltiedig â therfysgaeth; deunydd cam-drin plant yn rhywiol; a hiliaeth a senoffobia. Mae hefyd yn ofynnol i VSPs sicrhau y bodlonir safonau penodol ynghylch hysbysebu.

Mae'r fframwaith statudol yn nodi rhestr o fesurau y mae'n rhaid i ddarparwyr ystyried eu gweithredu, fel y bo'n briodol, i sicrhau'r diogeliadau gofynnol Daeth y gofynion newydd hyn i rym ar 1 Tachwedd 2020.

Ymgynghorodd Ofcom ar arweiniad drafft ar gyfer darparwyr VSP ar y gofynion rheoleiddio rhwng 24 Mawrth 2021 ac 2 Mehefin 2021. Roedd hyn yn ymdrin â'r mesurau a ddisgrifiwyd yn y fframwaith statudol a sut y gellir rhoi'r rhain ar waith.

Rydym wedi cyhoeddi ein harweiniad terfynol ar yr un prydâ'r datganiad hwn.

Contact information

Yn ôl i'r brig