- Treuliodd oedolion y DU fwy o amser ar-lein nag unrhyw wlad arall yn Ewrop yn ystod y pandemig
- Aeth ein bil siopa ar-lein y DU y tu hwnt i £110 biliwn am y tro cyntaf yn 2020
- Ymwelodd hanner oedolion y DU â gwefan neu ap i oedolion yn 2020
Treuliodd oedolion y DU fwy o amser ar-lein ar gyfrifiaduron, ffonau clyfar neu lechi yn 2020 na gwledydd cymharol yn Ewrop yn ôl astudiaeth flynyddol Ofcom o arferion ar-lein y genedl.
Mae adroddiad Ein Gwlad Ar-lein Ofcom[1] yn rhoi cipolwg ar flwyddyn ddigynsail, pan symudodd cyfathrebiadau, adloniant, diwylliant, manwerthu, gwaith ac addysg i gyd ar-lein.
Treuliodd oedolion y DU fwy na thair awr a hanner (217 munud) ar-lein bob dydd yn 2020 - dros awr yn fwy nag yn Yr Almaen nag yn Ffrainc a 30 munud yn fwy na Sbaen.[2]
Hefyd, gwariodd poblogaeth y DU bron £2.45bn ar, ac o fewn, apiau symudol trwy gydol y llynedd, ac roedd Tinder, Disney+, YouTube a Netflix ar frig y rhestr..[3]
Tyfodd gwariant ar apiau iechyd a ffitrwydd 70% yn 2020, a'r ap dysgu ieithoedd, Duolingo, oedd yr ap addysg mwyaf poblogaidd – gan gyrraedd 1.77 miliwn o oedolion yn y DU ar frig ei boblogrwydd y llynedd. Cymraeg oedd yr iaith a dyfodd gyflymaf wrth gael ei dysgu gan ddefnyddwyr yn y DU (i fyny 44% yn 2020).
Y bil siopa yn cyrraedd
Gyda siopau'r stryd fawr yn cael eu gorfodi i gau, cododd gwerthiannau siopa ar-lein y DU fesul hanner (+48%) i bron £113 biliwn yn 2020.4 Gwelodd storfeydd ar-lein manwerthwyr bwyd a diod y cynnydd mwyaf mewn gwerthiannau (+82% o'i gymharu â lefelau 2019), ac roedd ymchwydd mewn nwyddau cartref, o ganlyniad i fwy o ddiddordeb mewn gwelliannau cartref (+76%).5
Mae pŵer prynu plant yn tyfu ar-lein hefyd, wedi'i alluogi gan apiau arian poced digidol a chardiau debyg rhagdalu i bobl ifanc. Ers cyfnod clo gwanwyn 2020, mae pobl yn eu harddegau wedi bod yn gwario mwy o arian ar-lein nag oddi ar-lein, ac mae'r duedd hon wedi parhau i mewn i 2021 (68% ar-lein o'i gymharu â 32% oddi ar-lein ym mis Mawrth 2021). 6
Bodio i'r dde
Dwedodd tuag un o bob wyth o bobl sydd ar-lein yn y DU (12% neu chwe miliwn) a mwy nag un o bob pump (22%) o'r rhai 15-34 oed iddynt ddefnyddio gwasanaeth cariad ar-lein cyn cyfnod clo gwanwyn 2020. Tinder oedd yr ap cariad mwyaf poblogaidd ymysg oedolion ifanc y DU - yr ymwelodd 11% o bobl 18-24 oed ag ef ym mis Medi 2020 - roedd Plenty of Fish yn fwyaf poblogaidd ymysg y grŵp oedran 45-54. Gwelodd y cyfnod clo gynnydd mewn twyll cariad, gyda'r arian a gollir i dwyllwyr yn codi 12% i £18.5m.
Fideos cymdeithasol
Defnyddir gwefannau ac apiau fideo cymdeithasol gan bron yr holl (97%) oedolion sy'n defnyddio'r rhyngrwyd yn y DU, a chan 92% o blant 3-4 oed. Mae oedolion ifainc yn ddefnyddwyr arbennig o drwm o lwyfannau fideos cymdeithasol, gyda phobl 18-24 oed yn treulio 1 awr 16 munud y dydd ar gyfartaledd ar YouTube ym mis Medi 2020 – cynnydd o 11 munud ers 2019.
Profodd TikTok dwf enfawr yn ystod y pandemig – o 3 miliwn o ddefnyddwyr sy'n oedolion yn y DU ym mis Medi 2019 i 14 miliwn erbyn mis Mawrth 2021. Gwelodd TikTok y cynnydd mwyaf mewn defnydd bob dydd ymysg oedolion ifainc hefyd – gyda'r rhai 18-24 oed yn fwy na dyblu eu hamser arno yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2020 (i fyny o 17 munud i 38 munud).
Gan i greu perthynas newydd go iawn gael ei ganslo i bob pwrpas am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, ymwelodd tua hanner (49%) o oedolion y DU (tua 26 miliwn) â gwefan neu ap i oedolion ym mis Medi 2020. Ymwelwyd â'r un fwyaf, Pornhub, gan tua thraean o oedolion sydd ar-lein (15 miliwn) ym mis Medi 2020 – gan gynrychioli tua hanner yr holl ddynion yn y DU, o'i gymharu â 16% o fenywod y DU sydd ar-lein.[8]
Hunanymwybyddiaeth gymdeithasol
Er i'r rhan fwyaf o lwyfannau bennu eu hisafswm oedran ar gyfer defnyddwyr fel 13 oed, mae bron dau draean (59%) o blant y DU yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol erbyn iddynt gyrraedd 11 oed. Erbyn 15 oed, mae'r defnydd wedi codi i 95%.
Dywed tua naw o bob deg o blant (8-15 oed) fod cyfryngau cymdeithasol wedi helpu nhw i deimlo'n agosach at ffrindiau yn ystod y pandemig. Ond dywed cyfran debyg o bobl yn eu harddegau iddo greu pwysau o ran poblogrwydd. Mae dau draean o fechgyn (67%) a thri chwarter o ferched (77%) 7 i 16 oed hefyd yn cytuno y gall cyfryngau cymdeithasol achosi pryderon ynghylch delwedd y corff.[9]
Adroddodd dros hanner y bobl ifanc 12 i 15 oed am gael profiad negyddol ar-lein yn 2020. Y profiad mwyaf cyffredin (a nodwyd gan 30%) oedd bod rhywun nad oeddent yn ei nabod yn ceisio ffurfio cyfeillgarwch â nhw ar-lein. Roedd lleiafrif arwyddocaol wedi gweld rhywbeth brawychus neu a fu'n peri pryder (18%), neu gynnwys rhywiol ei natur a barodd iddynt deimlo'n anghyfforddus (17%).
Meddai Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom: “Mewn blwyddyn ddigynsail, rydym wedi gweld cynnydd sydyn iawn wrth i ni symud i wasanaethau ar-lein - sydd wedi darparu llinell fywyd i lawer o bobl yn ystod y cyfnod clo.
“Mae'r ymchwil hon yn bwysig tu hwnt er mwyn i ni gadw i fyny â'r newidiadau mewn technoleg, economeg ac ymddygiad, wrth i ni baratoi i ymgymryd â chyfrifoldebau rheoleiddio diogelwch ar-lein.”
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
- Mae Ein Gwlad Ar-lein yn cyfuno ymchwil a gynhyrchir gan Ofcom a chan ddarparwyr trydydd parti; cyhoeddir trosolwg o'n methodoleg fel atodiad i'r adroddiad hwn. Mae'r adroddiad yn cynnwys ymchwil newydd a gyflawnwyd gan Yonder yn 2020 ar lwyfannau rhannu fideos a gwasanaethau cyfathrebu ar-lein. Mae'r ffynonellau trydydd parti yn cynnwys Comscore, partner sydd wedi'i gymeradwyo gan UKOM ar gyfer mesur cynulleidfaoedd cyfryngau ar-lein rhwng 2012 a 2020, a The Insights Family UK, adnodd mewnwelediadau ac ymchwil y farchnad ar blant rhwng 3 a 18 oed.
- Lawrlwythodd oedolion y DU fwy o apiau yn ystod y cyfnod clo na'n cymheiriaid yn Ewrop – 2.41 biliwn bob dydd ar gyfartaledd, o'i gymharu â'r Almaen - 2.2 biliwn, Ffrainc - 2.15 biliwn, a Sbaen -1.46 biliwn.
- Roedd y ap gêm aml-chwaraewr Among Us yn ffenomen fyd-eang ar ffonau clyfar, gyda dros 11 miliwn o lawrlwythiadau yn y DU yn ystod pedwar mis olaf 2020.
- Bu siopa ar-lein yn cyfrif am ychydig dros draean (35% o'r cyfanswm gwariant ar fanwerthu yn ystod 2020 - i fyny o 20% cyn y cyfnod clo - a bu hynny'n gyson hyd at ddiwedd y flwyddyn (30%).
- Ehangodd archfarchnadoedd eu gweithrediadau siopa ar-lein yn gyflym; Erbyn mis Rhagfyr 2020, roedd 11% o werthiannau marchnadoedd bwyd y DU ar-lein, i fyny o 5% ar ddechrau’r flwyddyn. Just Eat oedd y gwasanaeth cludiadau bwyd mwyaf poblogaidd - ymwelwyd ag ef gan bron 10 o bobl lwglyd yn y DU ym mis Rhagfyr 2020 – gydag archebion rhwng misoedd Hydref a Rhagfyr 58% yn uwch o'r un flwyddyn i'r llall.
- Gwariant pobl 13-17 oed ar-lein ac oddi ar-lein, fel cyfran o gyfanswm gwariant: Ionawr 2019 i Fawrth 2021.
- Gweler Traciwr Ymwybyddiaeth Oedolion a Rhieni o'r Cyfryngau Ofcom 2020/21 ar ein gwefan.
- Am y tro cyntaf mae adroddiad Ein Gwlad Ar-lein Ofcom yn cynnwys ymchwil i gynnwys ar gyfer oedolion i gefnogi ein dyletswyddau newydd fel rheoleiddiwr llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU ac wrth i ni baratoi i ymgymryd â chyfrifoldebau newydd dros reoleiddio niwed ar-lein. Er nad yw'n wefan cynnwys i oedolion yn unig, adroddodd OnlyFans gynnydd 75% mewn crewyr cynnwys newydd ym mis Mai 2020, wedi'i yrru gan bobl sydd am gynhyrchu incwm yn ystod y pandemig.
- Ymchwil Teuluoedd, Plant ac Ieuenctid. Yn ôl ein hymchwil Bywydau Cyfryngau Plant, defnyddiodd y rhan fwyaf o ferched a bechgyn y siaradom â hwy hidlyddion i olygu lluniau a fideos y gwnaethant eu postio ar gyfryngau cymdeithasol. Bu i rai ddefnyddio 'hidlyddion difyr’ i roi clustiau anifeiliaid neu dafod arnynt, er enghraifft. Ond defnyddiodd hyd yn oed y plant iau hidlyddion lefel isel i newid eu hymddangosiad mewn ffotograffau a rannwyd ar-lein - fel esmwytho eu croen.