Mae Ofcom wedi cyhoeddi dau adroddiad ymchwil ansoddol heddiw ynghylch beth mae pobl yn ei feddwl a’i deimlo am y newyddion a sut maen nhw’n cael gafael arno.
Gyda llawer iawn o straeon newyddion ar gael 24/7, drwy amrywiaeth eang o ddyfeisiau a llwyfannau ar-lein, mae’r ymchwil yn datgelu sut rydyn ni’n addasu ein harferion a’n hymddygiad er mwyn dal i fyny. Mae’r ymchwil hwn yn helpu Ofcom i gyflawni ei ddyletswydd i hyrwyddo a chynnal ymchwil mewn llythrennedd yn y cyfryngau.
Mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi sylwebaeth ar y prif themâu o’r adroddiadau, gan gynnwys:
- sialens ‘gormod o newyddion’;
- defnyddio newyddion yn ‘oddefol’;
- amgylchedd newyddion aneglur cyfryngau cymdeithasol;
- meddwl yn feirniadol wrth lywio drwy newyddion ar-lein; ac
- ymddiriedaeth mewn ffynonellau newyddion.
Mae Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom, wedi cyflwyno sylwadau ar y canfyddiadau yma.
Ymchwil
Saesneg yn unig.
Scrolling news: The changing face of online news consumption (PDF, 9.5 MB)
The changing world of news: Qualitative research (PDF, 1000.4 KB)
Sylwebaeth
Llywio drwy newyddion mewn byd ar-lein: Crynodeb o ymchwil ansoddol (PDF, 678.9 KB)