Y mesurau diogelwch sydd gan lwyfan, gan gynnwys adrodd a chwynion

Cyhoeddwyd: 4 Tachwedd 2023

Mae Ofcom yn rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos (VSP) a sefydlir yn y DU. Gwasanaethau yw'r rhain sy'n caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho fideo neu eu rhannu â phobl eraill. Ymysg y VSP sydd o dan ein hawdurdodaeth mae:

  • Bitchute
  • FruitLab
  • OnlyFans
  • Recast Sports
  • Snapchat
  • TikTok
  • Triller
  • Twitch
  • Vimeo
  • VuePay

Mae rhestr lawn ar gael o'r VSP sydd wedi hysbysu Ofcom eu bod yn dod o dan ein hawdurdodaeth.

Ein tasg yw sicrhau bod gan VSP o dan ein hawdurdodaeth fesurau priodol ar waith i ddiogelu defnyddwyr rhag fideos:

  1. a allai amharu ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesol pobl dan 18 oed;
  2. sy'n debygol o annog trais neu gasineb yn seiliedig ar faterion penodol megis rhyw, hil, lliw croen, tarddiad ethnig neu gymdeithasol, nodweddion genetig, iaith, crefydd neu gred, barn wleidyddol neu unrhyw farn arall, aelodaeth o leiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth, anabledd, oedran neu dueddfryd rhywiol; ac/neu
  3. sy'n annog gweithredoedd o derfysgaeth yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol; sy'n dangos neu'n ymwneud â chynnwys y mae'n gyfystyr â cham-drin plant yn rhywiol; ac yn dangos neu'n ymwneud â chynnwys sy'n annog hiliaeth neu senoffobia.

Gallai mesurau priodol gynnwys:

  • telerau ac amodau;
  • nodweddion adrodd a fflagio;
  • systemau graddio ar gyfer gwylwyr;
  • dilysu oedran;
  • nodweddion rheolaeth ar gyfer rhieni;
  • gweithdrefnau cwyno; neu
  • offer a gwybodaeth ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.

Os yw eich cwyn yn ymwneud ag unrhyw un o'r uchod, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein ffurflen gwyno fer.

Er nad ydym yn ymateb i gwynion unigol, bydd yr wybodaeth rydych yn ei darparu'n helpu Ofcom i fonitro a yw VSP yn diogelu defnyddwyr yn ddigonol ac yn ein helpu ni i bennu a yw'n briodol cymryd camau rheoleiddio. Os ydych eisiau i fideo penodol gael ei ddileu, dylech adrodd amdano i'r llwyfan y cafodd ei hygyrchu ohoni.

Sgorio’r dudalen hon

Diolch am eich adborth.

Rydym yn darllen yr holl adborth ond ni allwn ymateb. Os oes gennych ymholiad penodol dylech weld ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?
Yn ôl i'r brig