Pwyllgor Cynghori Cymru

Cyhoeddwyd: 6 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf: 25 Mehefin 2024

Mae Pwyllgor Cynghori Cymru'n rhoi cyngor i Ofcom ynghylch buddiannau a safbwyntiau pobl yng Nghymru mewn perthynas â materion cyfathrebu.

Mae'r Pwyllgor fel arfer yn cwrdd pum gwaith y flwyddyn. Mae cofnodion y Pwyllgor yn cael eu darparu i Fwrdd Ofcom.

Cylch Gwaith y Pwyllgor Cynghori yw:

  • ceisio nodi materion sy'n effeithio ar y sectorau cyfathrebiadau a phost yng Nghymru, fel Pwyllgor ar y cyd ac yn unigol fel Aelodau, yn enwedig yn y sectorau lle mae ganddynt wybodaeth benodol neu arbenigedd
  • darparu cyngor i Ofcom am faterion cyffredinol a phenodol sy'n ymwneud â sectorau'r cyfathrebiadau a phost sy'n codi yng Nghymru
  • darparu cyngor a sylwadaeth fel y bo angen am faterion a gyflwynir i'r Pwyllgor gan Ofcom
  • cynnig sylwadaeth am ymgynghoriadau Ofcom
  • ar gais y Bwrdd Cynnwys, darparu cyngor penodol i'r Bwrdd hwnnw ar faterion mewn perthynas â theledu, radio ac unrhyw gynnwys arall ar wasanaethau y mae Ofcom yn eu rheoleiddio
  • ar gais Bwrdd Ofcom, darparu cyngor i'r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau ar faterion yn y sector cyfathrebiadau sy'n effeithio ar ddefnyddwyr yng Nghymru
  • cynhyrchu adroddiad blynyddol yn adlewyrchu materion o fewn y sectorau cyfathrebu a phost yng Nghymru.

27 Chwefror 2024

12 Mehefin 2024

2 Hydref 2024

26 Tachwedd 2024

Robert Andrews (Cadeirydd)

Mae Robert yn newyddiadurwr a golygydd sydd wedi troi'n ddadansoddwr a strategydd golygyddol. Mae’n arbenigo mewn trawsnewid y cyfryngau, technoleg a marchnata. Helpodd i lansio un o wefannau papurau newydd lleol cyntaf y DU ac mae wedi ysgrifennu ar gyfer cyhoeddwyr sy'n cynnwys The Guardian, Wired a The Drum.  Roedd hefyd yn uwch olygydd rhyngwladol ffynhonnell newyddion dylanwadol y diwydiant cyfryngau digidol paidContent.

Mae Robert yn darparu adroddiadau ar dueddiadau'r diwydiant ar gyfer cwmnïau dadansoddi ac wedi darlithio ym maes newyddiaduraeth ar-lein ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae'n awdur y llyfr 'Startup Blueprint: 7 Skills For Founders, Builders &Leaders'. Yn wreiddiol o Lanelli, mae Robert wedi byw yng Nghaerdydd am ugain mlynedd.

Ymunodd Robert â Phwyllgor Cynghori Cymru ar 1 Tachwedd 2017 ac fe'i penodwyd yn Gadeirydd ar 1 Awst 2023. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Gorffennaf 2026.

Dr Aled Eirug (aelod anweithredol)

Mae Aled Eirug yn gynghorydd polisi strategol llawrydd ac yn gweithio i Brifysgol Abertawe a chleientiaid eraill. Bu'n aelod o awdurdod llywodraethu'r gwasanaeth darlledu Cymraeg, S4C (2012 -2015), cadeirydd pwyllgor ymgynghorol y Cyngor Prydeinig ar gyfer Cymru (2012-2015) ac yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr y Cyngor Prydeinig (2013-2015).

Mae'n newyddiadurwr a darlledwr profiadol gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn ITV a'r BBC. Ef oedd Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru Wales rhwng 1992 a 2006 ac yn aelod o Fwrdd Rheoli BBC Cymru Wales rhwng 2000 a 2006. Mae ganddo brofiad helaeth o gynhyrchu radio, teledu ac ar-lein ar draws newyddion, materion cyfoes a gwneud rhaglenni dogfen.

Ymunodd Aled â'r Pwyllgor ar 1 Rhagfyr 2021. Mae ei benodiad yn parhau tan 21 Mai 2025.

Angharad Evans (aelod anweithredol)

Mae Angharad Evans yn gyfreithiwr ffilm a theledu ymgynghorol ac mae wedi cynghori busnesau o bob maint o fusnesau newydd i frandiau a gydnabyddir yn rhyngwladol am yr 20 mlynedd diwethaf. Cyn dod yn ymgynghorydd roedd hi'n Bennaeth Adran Materion Cyfreithiol a Busnes S4C a bu'n gweithio yn y tîm Ffilm a Chyfryngau arbenigol yn SJ Berwin, Llundain.

Mae'n cynghori amrywiaeth o gleientiaid o gwmnïau cynhyrchu bach i gwmnïau rhyngwladol mawr ar gyd-gynyrchiadau, dosbarthu, trefniadau ariannu aml-bleidiol, cytundebau hawliau, cytundebau opsiwn a chliriadau. Mae'n cael ei chydnabod fel Unigolyn Blaenllaw yng Nghyfraith y Cyfryngau yng Nghymru yn y ‘Legal 500’ a ‘Chambers and Partners.’

Ymunodd Angharad Evans â Phwyllgor Cynghori Cymru ar 1 Ionawr 2022. Mae ei phenodiad yn parhau tan 31 Rhagfyr 2026.

Amanda Rees (aelod anweithredol)

Mae Amanda yn arbenigwr ym maes darlledu digidol a darlledu ar y teledu, sydd wedi ennill gwobrau BAFTA. Fel Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, a Chyfarwyddwr Llwyfannau’r sianel ar ôl hynny, bu Amanda yn gweithredu ar lefel y bwrdd a’r uwch arweinwyr, gan arwain strategaeth gomisiynu greadigol a digidol y darlledwr yn ystod ei 7 mlynedd yno. Cyn ymuno ag S4C yn 2016, roedd Amanda yn rhedeg ei chwmni cynhyrchu ei hun, TiFiNi Ltd, a oedd yn arbenigo mewn gwneud rhaglenni dogfen mynediad arbennig, a enwebwyd am wobrau.

Mae gan Amanda radd Meistr mewn Seicoleg Sefydliadol a Busnes, a Diploma CMI (Lefel 7) mewn Ymgynghori Proffesiynol. Mae’n gweithio gydag Ymgynghorwyr Busnes Elevate ac mae’n ymddiriedolwr gydag elusen Saving Saints Rescue UK.

Cafodd Amanda ei geni a’i magu yng Nghwm Gwendraeth ac mae hi’n siarad Cymraeg yn rhugl. Mae hi’n eiriolwr brwd dros arweinyddiaeth ddilys a chynhwysiant cymdeithasol, mae hi’n hoff iawn o gŵn, mae hi’n gerddor – er nad yw’n gwneud cymaint erbyn hyn, ac mae hi’n mwynhau coginio a bod yn greadigol gyda’r ryseitiau.

Ymunodd Amanda â Phwyllgor Cynghori Cymru ar 29 Ebrill 2024. Mae ei phenodiad yn parhau tan 14 Ebrill 2027.

_____________________

Yn ogystal â'r Aelodau a benodir i'r Pwyllgorau Cynghori, gwahoddir yr Aelodau o'r Bwrdd Cynnwys a'r Aelodau o'r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau ar gyfer y Gwledydd i fynychu Cyfarfodydd y Pwyllgor Cynghori perthnasol. Yng Nghymru yr aelodau hyn yw:

  • Yr Athro Ruth McElroy, Aelod o'r Bwrdd Cynnwys ar gyfer Cymru
  • Rachel Burr, Aelod o'r Panel Defnyddwyd Cyfathrebiadau
Yn ôl i'r brig