Pwyllgor Cynghori ar Dwyllwybodaeth a Chamwybodaeth

Cyhoeddwyd: 27 Tachwedd 2024

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Dwyllwybodaeth a Chamwybodaeth yn rhoi cyngor i Ofcom am feysydd penodol o’n gwaith sy’n berthnasol i dwyllwybodaeth a chamwybodaeth fel y nodir yn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein

Swyddogaeth y Pwyllgor yw cynghori Ofcom am feysydd penodol o’n gwaith sy’n berthnasol i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  1. sut dylai darparwyr gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio ddelio â thwyllwybodaeth a chamwybodaeth ar wasanaethau o’r fath,
  2. Ofcom yn arfer ei bwerau tryloywder i fynnu gwybodaeth gan wasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio am faterion sy’n ymwneud â thwyllwybodaeth a chamwybodaeth, ac
  3. Ofcom yn arfer ei ddyletswyddau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau mewn perthynas â mynd i’r afael â thwyllwybodaeth a chamwybodaeth ar wasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio.
  4. Ofcom yn datblygu polisi mewn perthynas â’r rhaglen waith ar gyfryngau rydym yn ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi.

I’w gadarnhau - rydym yn y broses o sefydlu'r Pwyllgor ar hyn o bryd.

 

I’w gadarnhau - rydym yn y broses o sefydlu'r Pwyllgor ar hyn o bryd.

 

Cadeirydd - Yr Arglwydd Allan o Hallam

Aelod Anweithredol

Mae gan Richard bron i 30 mlynedd o brofiad ym maes datblygu polisi cyfathrebu a thechnoleg. Ers 2010, mae wedi bod yn Aelod anetholedig o Dŷ’r Arglwyddi, ar ôl iddo gael ei wneud yn arglwydd am oes sef Barwn Allan o Hallam, o Ecclesall yn sir De Swydd Efrog. Mae wedi bod yn aelod nad yw’n perthyn i unrhyw grŵp ers 2 Hydref 2024 ac arferai fod yn gysylltiedig â phlaid y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda’r GIG, fel Datblygwr Systemau, gan adeiladu rhwydweithiau cyfrifiadurol a systemau gwybodaeth ar gyfer Avon FHSA. Rhwng 1997 a 2005 roedd yn Aelod Seneddol dros Sheffield Hallam, a bu hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Wybodaeth tan 2001. Ymunodd â Cisco Systems yn 2005, gan ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus tan 2009, lle bu’n arwain gwaith y cwmni ar yr holl faterion polisi telathrebu gyda gwleidyddion a rheoleiddwyr. Yna, rhwng 2009 a 2019 bu’n gweithio yn Facebook (Meta bellach) fel Is-lywydd Polisi Cyhoeddus; gan arwain tîm o fwy na 70 o arbenigwyr polisi ar draws EMEA, gan weithredu fel uwch wneuthurwr penderfyniadau ar gwestiynau polisi sensitif. 

Ar hyn o bryd mae ganddo rolau Bwrdd Anweithredol gyda Chwmnïau Buddiannau Cymunedol New Automotive a’r Ganolfan Data Cyhoeddus. Mae ei rolau Anweithredol blaenorol yn cynnwys bod yn Aelod o Fwrdd Arsyllfa Cyfryngau Digidol Ewrop, Cadeirydd Tasglu Pŵer y Cyfryngau ac Aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Dinas Sheffield.

Ofcom 
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA

T: 020 7981 3000

Yn ôl i'r brig