Yr Uwch Dîm Rheoli

Cyhoeddwyd: 29 Chwefror 2024

Yr Uwch Dîm Rheoli yw rheolwyr pennaf Ofcom. Maen nhw'n benaethiaid grwpiau o fewn Ofcom ac yn rhan hanfodol o'n Bwrdd Polisi a Rheoli.

Cristina Nicolotti Squires

Cristina Nicolotti Squires

Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a'r Cyfryngau

Cristina Nicolotti yw’r Cyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Darlledu a’r Cyfryngau, gan arwain gwaith Ofcom i gefnogi sector darlledu iach a bywiog sy’n gwasanaethu holl wasanaethau teledu, radio a fideo ar-alw y DU mewn tirwedd sy’n newid yn gyson ac sy’n symud yn gyflym.

Ymunodd Cristina ag Ofcom ar ôl 35 mlynedd fel newyddiadurwr, ac mae ganddi gefndir yn y sector masnachol. Cyn dechrau gweithio i Ofcom, roedd hi’n Gyfarwyddwr Cynnwys yn Sky News ac yn gyfrifol am yr allbwn ar draws teledu, ar-lein, radio/podlediadau a rhaglenni dogfen. Cyn hynny, roedd hi yn ITN am 22 mlynedd yn gweithio mewn nifer o rolau gwahanol, gan gynnwys cyfnodau fel cynhyrchydd maes mewn lleoliadau ledled y byd, golygydd rhaglen flaenllaw News at Ten ITV a Golygydd 5 News ar Channel 5. Yn rhan o’i gyrfa, llwyddodd i ennill Gwobr RTS ar gyfer Rhaglen Newyddion y Flwyddyn yn 2010. Mae hi’n falch iawn o’r cyflawniad hwn, nid yn unig am ennill y wobr, ond oherwydd datganiad y beirniaid, a nododd mai dyma’r rhaglen a oedd wedi llwyddo i “gael Prydain”. Y cysylltiad dwfn hwnnw â chynulleidfaoedd yw’r hyn sydd wedi ei harwain at Ofcom lle mae hi’n angerddol dros sicrhau ein bod yn diogelu pob cynulleidfa ledled y DU.


David Willis

David Willis

Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm

David Willis yw Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm, ac mae’n gyfrifol am arwain gwaith Ofcom yn rheoli tonnau awyr y DU.

Mae gan David 30 mlynedd o brofiad ym maes technoleg a thelegyfathrebu mewn llywodraeth a diwydiant. Cyn ymuno ag Ofcom, roedd yn Llywydd y Ganolfan Ymchwil Cyfathrebu, sef canolfan ymchwil Llywodraeth Canada ar gyfer telegyfathrebiadau di-wifr uwch, rheoli sbectrwm a helpu i wella gwasanaethau band eang ar gyfer Canada.

Cyn hyn, roedd David yn arwain y tîm Peirianneg a Chynllunio Sbectrwm yn Innovation Science and Economic Development Canada. Yma, roedd ei waith yn cynnwys safonau sbectrwm rhyngwladol; peirianneg a chynllunio sbectrwm di-wifr; polisi sbectrwm lloeren, trwyddedu a chydlynu; ac arwain dirprwyaeth Canada yng Nghynhadledd Radiogyfathrebu’r Byd 2019.

Mae David hefyd wedi ymgymryd â rolau arwain ym maes rheoli cynnyrch, gweithrediadau a pheirianneg yn BlackBerry a Nortel Networks.


Jessica Hill

Jessica Hill

Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant

Ymunodd Jessica Hill ag Ofcom yn 2022 ac mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Pobl a Diwylliant ers mis Chwefror 2024. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o ddarparu adnoddau dynol strategol mewn gwasanaethau proffesiynol byd-eang. Mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Mae Jessica yn ymddiriedolwr elusen fach sy’n cefnogi pobl sy’n cael trafferth gydag amrywiaeth o heriau personol ac economaidd yn un o rannau tlotaf y DU.

Lawrlwytho llun cydraniad uchel o Jessica


Kate Davies

Kate Davies

Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus

Ymunodd Kate Davies ag Ofcom yn 2016, ac mae hi’n Gyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus ers 2021. Mae hi’n cefnogi gwaith Ofcom ar draws y sectorau cyfathrebu, y cyfryngau ac ar-lein, yn ogystal ag ymgysylltu â llunwyr polisïau ledled y DU. Mae Kate hefyd yn goruchwylio gwaith Ofcom yn y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol. Cyn hynny, bu Kate yn Gyfarwyddwr Strategaeth yn Ofcom am dair blynedd.

Cyn ymuno ag Ofcom, bu Kate yn gweithio mewn amrywiaeth o swyddi yn Nhrysorlys Ei Fawrhydi, yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yn y trydydd sector. Kate oedd Pennaeth y Strategaeth Wariant yn Nhrysorlys Ei Fawrhydi, a hi oedd yn gyfrifol am gyflwyno Adolygiad o Wariant 2015.

Mae gan Kate radd MSc mewn Datblygu a Phoblogaeth o’r LSE, a gradd MA Cydanrhydedd mewn Hanes a Saesneg o Brifysgol Caeredin.

Lawrlwytho llun cydraniad uchel o Kate


Lindsey Fussell

Lindsey Fussell

Cyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Rhwydweithiau a Chyfathrebu

Ymunodd Lindsey Fussell ag Ofcom yn 2016 ac mae’n Gyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Rhwydweithiau a Chyfathrebu, gan arwain gwaith Ofcom yn y sectorau telegyfathrebu, post a rhwydwaith, lle rydym yn ceisio diogelu buddiannau defnyddwyr a hyrwyddo cystadleuaeth. Fe’i penodwyd i Fwrdd Ofcom ym mis Rhagfyr 2020.

Cyn ymuno ag Ofcom, bu Lindsey yn gweithio mewn amrywiaeth o uwch swyddi arweinyddiaeth yn y gwasanaeth sifil. Roedd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus yn Nhrysorlys EF, lle bu’n arwain ar ddatganoli, addysg a diwylliant, amddiffyn a chyfiawnder troseddol, ac roedd yn gyfrifol am gyflawni agweddau allweddol ar Adolygiadau Gwariant 2013 a 2015. Mae Lindsey hefyd yn aelod lleyg o Gyngor llywodraethu Prifysgol Caerefrog.

Lawrlwytho llun cydraniad uchel o Lindsey


Luisa Affuso

Luisa Affuso

Prif Economegydd a Chyfarwyddwr Grŵp Economeg

Luisa Affuso yw ein Prif Economegydd, a’r Cyfarwyddwr Grŵp Economeg, ac mae’n arwain ein heconomegwyr sy’n helpu i sicrhau bod ein penderfyniadau’n seiliedig ar ddadansoddiad economaidd arbenigol.

Mae gan Luisa dros ugain mlynedd o brofiad o ddefnyddio economeg cystadleuaeth, rheoleiddio, a diwydiannol. Mae hi’n arbenigo mewn defnyddio dadansoddiad economaidd ac econometrig gyda chwestiynau rheoleiddio a chystadleuaeth cymhleth.

Ymunodd Luisa ag Ofcom ym mis Hydref 2018 o PwC, lle’r oedd yn arwain ymarfer cynghori ar Economeg Cystadleuaeth.

Cyn dod yn ymgynghorydd economaidd, roedd Luisa’n Gyfarwyddwr Astudiaethau ac yn Gymrawd mewn Economeg yng Ngholeg Robinson, Caergrawnt; ac roedd yn Gymrawd Ymchwil yng Nghaergrawnt ac wedyn yn Ysgol Fusnes Llundain. Ar hyn o bryd mae hi’n Uwch Aelod o Goleg Robinson.

Cafodd Luisa ei haddysgu ym Mhrifysgol Warwick, ac yno enillodd MSc a PhD mewn Economeg. Mae ganddi BSc a Doethuriaeth mewn Economeg o Brifysgol Naples (Federico II), yr Eidal.

Lawrlwytho llun cydraniad uchel o Luisa


Martin Ballantyne

Martin Ballantyne

Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddwr y Grŵp Cyfreithiol

Martin Ballantyne yw Cwnsler Cyffredinol Ofcom a Chyfarwyddwr y Grŵp Cyfreithiol. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyfreithiol yng Ngrŵp Cyfreithiol Ofcom ers 2011, ac mae’n darparu cyngor ar gyfer pob maes polisi yn Ofcom, yn ogystal â goruchwylio ymgyfreitha pan fydd ein penderfyniadau’n cael eu herio yn y llysoedd.

Cyn ymuno ag Ofcom, bu Martin yn gweithio fel cyfreithiwr cystadleuaeth yn y cwmni dinesig, Macfarlanes. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgolion Caerwysg, a Tübingen, yr Almaen.

Lawrlwytho llun cydraniad uchel o Martin


Melanie Dawes

Melanie Dawes

Prif Weithredwr

Ymunodd y Fonesig Melanie Dawes fel Aelod Gweithredol o’r Bwrdd a Phrif Weithredwr ar 2 Mawrth 2020.

Cyn ymuno ag Ofcom, roedd Melanie yn Ysgrifennydd Parhaol yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (2015-2020). Mae wedi ysgwyddo rolau uwch ar draws y Gwasanaeth Sifil, gan weithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Daeth yn Hyrwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiad y Gwasanaeth Sifil yn 2019.

Dechreuodd ar ei gyrfa fel economegydd, a threuliodd 15 mlynedd yn y Trysorlys, lle bu'n Gyfarwyddwr Materion Ewropeaidd. Roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Ysgrifenyddiaeth Materion Economaidd a Domestig yn Swyddfa’r Cabinet rhwng 2011 a 2015, a chyn hynny bu’n aelod o Fwrdd CThEF fel Pennaeth Treth Busnes. Bu’n Gyfarwyddwr Cyffredinol Treth Busnes o fis Tachwedd 2007, a oedd yn cynnwys bod yn gyfrifol am yr holl drethi a thollau busnes, yn ogystal ag arwain perthynas yr adran â busnesau mawr. O 2009 ymlaen, bu hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu strategaeth gyffredinol Cyllid a Thollau EM fel adran.

Mae hi wedi ysgwyddo rolau anweithredol, gan gynnwys gyda’r corff defnyddwyr Which?, ac mae’n un o ymddiriedolwyr y Patchwork Foundation sy’n annog pobl ifanc, sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, i gymryd rhan mewn democratiaeth.

Lawrlwytho llun cydraniad uchel o Melanie


A photo of Melissa Tatton, Interim Group Director

Melissa Tatton

Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr y Grŵp Corfforaethol

Melissa Tatton yw Prif Swyddog Gweithredu Ofcom a Chyfarwyddwr y Grŵp Corfforaethol, sy’n goruchwylio ein swyddogaethau corfforaethol mewnol, fel ein timau Cyllid a Phobl, y Ganolfan Cyswllt Defnyddwyr a thimau cysylltiadau allanol.

Cyn ymuno ag Ofcom ym mis Medi 2020, roedd gan Melissa amrywiaeth o rolau arwain uwch mewn cyrff cyhoeddus, yn fwyaf diweddar fel Prif Swyddog Gweithredol Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Chomisiynydd Sicrhau Trethi CThEM. Cafodd Melissa ei gwneud yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ym mis Mehefin 2016.

Mae Melissa yn Is-gadeirydd Prifysgol y Frenhines Mary yn Llundain.

Lawrlwytho llun cydraniad uchel o Melissa


Simon Redfern

Simon Redfern

Cyfarwyddwr Cyfathrebu

Simon yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu Ofcom. Mae wedi gweithio i rai o sefydliadau mwyaf y byd yn y meysydd cyfryngau, defnyddwyr a thechnoleg, gan ddatblygu a darparu eu strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu gwleidyddol.

Cyn ymuno ag Ofcom, bu Simon yn arwain Materion Cyhoeddus Ewropeaidd i Google. Bu’n arwain y gwaith cyfathrebu hefyd ar gyfer Salesforce EMEA, ac yn adeiladu’r swyddogaeth materion corfforaethol ar gyfer Starbucks yn Ewrop.

Lawrlwytho llun cydraniad uchel o Simon


Yih-Choung Teh

Yih-Choung Teh

Cyfarwyddwr y Grŵp Strategaeth ac Ymchwil

Yih-Choung Teh yw ein Cyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Strategaeth ac Ymchwil.

Roedd Yih-Choung yn arfer bod yn Gyfarwyddwr Grŵp Cystadleuaeth Ofcom, lle’r oedd yn gweithio ar faterion megis strategaeth Ofcom i annog buddsoddiad mewn seilwaith telegyfathrebiadau fel rhwydweithiau ffeibr llawn.

Cyn ymuno ag Ofcom, bu Yih-Choung yn gweithio i ymgynghoriaeth strategaeth yn y sector telegyfathrebu, ac roedd yn rhoi cyngor ar bolisïau a strategaethau i gleientiaid yn y sector cyhoeddus a phreifat yn fyd-eang.

Roedd Yih-Choung yn gweithio mewn swydd ymchwil academaidd ym Mhrifysgol Rhydychen, ar ôl cwblhau DPhil mewn Mathemateg, gan ymchwilio i fodelau mathemategol o rwydweithiau cyfathrebu. Hefyd, mae ganddo MA mewn Mathemateg a Diploma mewn Ystadegau Mathemategol, o Brifysgol Caergrawnt.

Lawrlwytho llun cydraniad uchel o Yih-Choung


Yn ôl i'r brig