Mae Ofcom wedi adolygu ei berthynas â Stonewall yn ddiweddar, ac wedi penderfynu camu'n ôl o'n haelodaeth o'r rhaglen Eiriolwyr Amrywiaeth. Mae hyn am ddwy reswm.
Yn gyntaf, ar ôl gosod y sylfeini a fydd yn ein helpu i wella'r gefnogaeth i gydweithwyr LHDTC+, rydym yn hyderus y gallwn symud ymlaen yn gadarnhaol, heb barhau â'r rhaglen Eiriolwyr Amrywiaeth.
Yn ail, yn ystod y misoedd diwethaf bu craffu sylweddol ar rai o safbwyntiau polisi Stonewall. Yn achos Ofcom, rydym wedi ystyried a yw ein perthynas â Stonewall yn achosi gwrthdaro neu risg o ragfarn canfyddedig. Camu'n ôl o'r rhaglen Eiriolwyr Amrywiaeth, yng ngoleuni hyn, yw'r peth iawn i’w wneud. Fel y rheoleiddiwr cyfathrebu, rhan bwysig o'n cyfrifoldeb yw sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ddiduedd ac yn annibynnol bob amser.
Mae ein hymrwymiad i gefnogi hawliau a rhyddid pobl LHDTC+ yr un mor gryf ag erioed. Byddwn yn parhau i gymryd rhan ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, sy'n cael ei gydnabod yn eang fel offeryn meincnodi cryf i gyflogwyr fesur eu cynnydd o ran cynnwys pobl LHDTC+ yn y gweithle.
Cysylltwch â thîm y cyfryngau
Os ydych yn newyddiadurwr sydd am gysylltu â thîm cyfryngau Ofcom:
Ffoniwch: +44 (0) 300 123 1795 (newyddiaduron yn unig)
Gyrrwch eich ymholiad atom (newyddiaduron yn unig)
Os ydych yn aelod o'r cyhoedd sydd eisiau cyngor neu am gwyno i Ofcom: