Amrywiaeth a chynhwysiad yn Ofcom
Cyhoeddwyd: 10 Medi 2010
Diweddarwyd diwethaf: 10 Rhagfyr 2024
Yn Ofcom rydym yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth y tu mewn i'n sefydliad ac yn y sectorau ehangach rydym yn eu rheoleiddio.
Addewid i recriwtio mwy o fenywod i rolau technoleg uwch
Cyhoeddwyd: 23 Tachwedd 2023
Diweddarwyd diwethaf: 24 Medi 2024
Mae Ofcom a phrif ddarparwr telathrebu’r DU wedi ymrwymo i hyrwyddo rôl menywod mewn swyddi technoleg.
Dathlu mis hanes LHDT+ 2024
Cyhoeddwyd: 28 Chwefror 2024
Mae mis hanes LHDT+ yn dod i ben, a'r thema eleni oedd meddygaeth, #UnderTheScope.Mae thema 2024 yn dathlu cyfraniadau pobl LHDT+ at iechyd a meddygaeth, tra hefyd yn cydnabod rhai o'r anghydraddoldebau y mae'r gymuned wedi'u hwynebu wrth gael mynediad at ofal iechyd.
Dathlu arloeswyr Du yn ein diwydiannau ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon
Cyhoeddwyd: 27 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf: 30 Hydref 2023
I nodi Mis Hanes Pobl Dduon, rydym yn edrych ar rai o’r arloeswyr Du sydd wedi helpu i fraenaru’r tir yn rhai o’r sectorau y mae Ofcom yn gofalu amdanynt fel rheoleiddiwr. Mae rhai o’r technolegau a’r llwyfannau sy’n dod o dan ein cylch gwaith yn dyddio’n ôl gryn amser, ac mae dylanwad cyfranwyr Du yn amlwg hyd yn oed mewn rhai o’r datblygiadau arloesol cynharaf, gan barhau i dechnolegau a chynnwys rydym yn eu mwynhau heddiw.
Cyrff seiberddiogelwch a chwmnïau telathrebu blaenllaw yn ymuno ag addewid i annog mwy o fenywod i ymgymryd â swyddi technoleg
Cyhoeddwyd: 10 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf: 11 Hydref 2023
Mae pedwar sefydliad telathrebu arall o fri wedi ymuno ag Ofcom i ymrwymo i helpu mwy o fenywod i gael mynediad at rolau technoleg ar draws y diwydiant telathrebu.
Ofcom named a Times Top 50 employer for women
Cyhoeddwyd: 29 Ebrill 2021
Diweddarwyd diwethaf: 9 Awst 2023
We’re pleased to announce that Ofcom has again been recognised as a Times Top 50 employer for women.
Cefnogi ein cydweithwyr LHDTC+ ar Ddiwrnod Cenedlaethol Dod Allan
Cyhoeddwyd: 11 Hydref 2021
Diweddarwyd diwethaf: 5 Gorffennaf 2023
Heddiw, i nodi Diwrnod Cenedlaethol Dod Allan, roeddem eisiau sôn am rai o'r ffyrdd yr ydym yn cefnogi ein cydweithwyr LHDTC+ ac yn creu lle diogel a llawn parch i bawb weithio ynddo bob dydd - waeth p'un a yw ein cydweithwyr yn dewis bod allan yn y gwaith ai beidio.
Sut rydym yn cefnogi ein cydweithwyr ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion
Cyhoeddwyd: 19 Tachwedd 2021
Diweddarwyd diwethaf: 5 Gorffennaf 2023
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion, rydym yn dathlu'r dynion yn ein bywydau a'r cyfraniad y maent yn ei wneud at ein teuluoedd a chymdeithas
Ofcom yn cael ei chydnabod fel cyflogwr yn 50 uchaf The Times ar gyfer cydraddoldeb rhywiol
Cyhoeddwyd: 29 Mehefin 2023
Rydym wedi cael ein rhestru fel un o'r 50 Cyflogwr Gorau The Times ar gyfer Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, gan gydnabod ein hymrwymiad parhaus i greu diwylliant gweithle cynhwysol i bob menyw.
Datganiad Ofcom ar Eiriolwyr Amrywiaeth Stonewall
Cyhoeddwyd: 25 Awst 2021
Diweddarwyd diwethaf: 29 Mehefin 2023
Mae Ofcom wedi adolygu ei berthynas â Stonewall yn ddiweddar, ac wedi penderfynu camu'n ôl o'n haelodaeth o'r rhaglen Eiriolwyr Amrywiaeth. Mae hyn am ddau reswm.