Mae Ofcom a chwmnïau telathrebu mwyaf y DU wedi dod at ei gilydd i lofnodi addewid newydd sy’n ymrwymo i helpu mwy o fenywod i ddatblygu gyrfaoedd ym maes technoleg ar draws y diwydiant.
Yn hanesyddol, mae’r sector telathrebu wedi cael ei ddominyddu gan ddynion – yn enwedig swyddi technoleg uwch. Ond mae Ofcom a saith o’r cwmnïau mwyaf yn y sector – Grŵp BT, Openreach, Sky, TalkTalk, Three, Virgin Media O2 a Vodafone – yn gobeithio newid hynny ac maent wedi llofnodi addewid yn ymrwymo i wella cynrychiolaeth i fenywod.
Y cwmnïau hyn yw asgwrn cefn digidol economi’r DU – gan ddarparu’r gwasanaethau band eang, symudol a seilwaith sy’n cysylltu miloedd o bobl a busnesau ledled y wlad.
Mae gwaith technoleg Ofcom ei hun yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd o fewn ei gylch gwaith – gan gynnwys rheoli sbectrwm, seiberddiogelwch a defnyddio data mewn ffordd arloesol. Rydym hefyd yn cynyddu ein galluoedd technolegol wrth i ni baratoi i fod yn rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU.
Felly, mae cael gweithlu talentog ac amrywiol i fodloni gofynion technolegol byd sy’n dod yn fwyfwy digidol yn hanfodol i lwyddiant y sector telathrebu yn y dyfodol.
Cymryd camau i greu mwy o gyfleoedd gyrfa i fenywod
Mae pob un o’r sefydliadau wedi cytuno i gymryd camau i wella’r gynrychiolaeth o fenywod mewn swyddi uwch ym maes technoleg dros y tair blynedd nesaf, yn ogystal â chael mwy o fenywod yn eu gweithluoedd yn fwy cyffredinol.
Bydd y sefydliadau hefyd yn canolbwyntio ar ddenu a chadw mwy o fenywod, gan greu amgylcheddau gweithio mwy cynhwysol. Byddant yn dod at ei gilydd i rannu arferion da, yn ogystal â chyhoeddi gwybodaeth am effaith eu gwaith i sicrhau gwell cynrychiolaeth i fenywod – gan gynnwys perfformio yn unol â strategaethau amrywiaeth a chynhwysiad eu sefydliad.
Mae’r ymrwymiadau hyn wedi cael eu datblygu gan Ofcom, gyda chefnogaeth y saith cwmni yng ngham cyntaf y fenter hon. Mae Ofcom yn gobeithio y bydd rhagor o gwmnïau o bob rhan o’r sector telathrebu yn ymuno â'r fenter hon ac yn ei chefnogi - gan chwarae eu rhan i helpu i wneud y sector yn fwy amrywiol a chynhwysol.
Mae cael gweithlu amrywiol yn hanfodol i lwyddiant unrhyw sefydliad. Mae’n annog creadigrwydd ac arloesedd ac mae’n sicrhau ein bod ni fel cyflogwyr yn denu’r sgiliau sydd eu hangen arnom o’r gronfa ehangaf bosibl. Ond i ormod o fenywod, mae dringo’r ysgol yrfa honno mewn diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion yn gallu bod yn her fawr.
Rydyn ni eisiau i’r diwydiant telathrebu, gan gynnwys ni yn Ofcom, arwain y ffordd o ran newid hynny. Mae’n wych gweld cynifer o gwmnïau’n cefnogi’r addewid hwn, ac yn ymrwymo i helpu mwy o fenywod i lansio gyrfaoedd technoleg sy’n para’n hir ac yn werth chweil. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio i gyflawni hyn.
Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom
Yn Grŵp BT, rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol i ni ein hunain ar amrywiaeth ein gweithlu o ran rhywedd, hil ac anabledd, ac rydyn ni’n gwreiddio cynhwysiad yn y ffordd rydyn ni’n gweithio ac yn byw ein gwerthoedd. Er ein bod wedi gwneud cynnydd, mae mwy y gallwn ei wneud o hyd i greu diwylliant gwirioneddol deg a chynhwysol ar draws ein busnes. Rydyn ni’n cefnogi addewid Ofcom yn llwyr ac rydyn ni’n ymrwymo i chwarae ein rhan i gyflawni'r nodau hyn.
Philip Jansen, Prif Weithredwr Grŵp BT
Yn hanesyddol, mae ein diwydiant ac Openreach wedi bod yn brin o amrywiaeth, ac mae hynny’n rhywbeth rydyn ni’n benderfynol o’i newid. Rydyn ni am i’n timau adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ym mhob cwr o’r DU, gan ein bod yn gwybod bod cwmnïau amrywiol a chynhwysol yn fwy arloesol, deinamig ac, yn y pen draw, yn gallu ymateb yn well i anghenion cwsmeriaid. I'r perwyl hwnnw, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi’r addewid hwn a gweithio gyda’r diwydiant i gyflawni’r nodau hyn.
Clive Selley, Prif Weithredwr Openreach
Mae diwydiant technoleg mwy cynhwysol yn hanfodol i sector technoleg ffyniannus yn y DU, ac mae’n hanfodol er mwyn gwireddu potensial llawn arloesi. Ond er mwyn sicrhau cynnydd ar raddfa eang, mae cydweithio yn y diwydiant yn allweddol. Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â’n cymheiriaid yn y diwydiant i gynyddu’r gynrychiolaeth o fenywod mewn swyddi sy’n ymwneud â thechnoleg yn y diwydiant telathrebu, gan adeiladu ar ein gwaith hirsefydlog yn y maes hwn. Ers 2017, rydyn ni bron â dyblu nifer y menywod yn ein tîm technoleg, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i ddatblygu hyn ar lefel diwydiant.
Stephen van Rooyen, Prif Weithredwr, Sky UK Ireland a Phrif Swyddog Masnachol, Grŵp Sky
Mae TalkTalk a minnau’n cefnogi’r fenter hon yn llwyr. Rydyn ni’n frwd dros gynyddu nifer y menywod ym maes technoleg, o ysbrydoli merched ifanc i bynciau STEM i fentora, cefnogi a rhoi dyrchafiad i fenywod i swyddi arwain. Fel crewyr gwobrau Women in Tech Gogledd-orllewin Lloegr, rydyn ni’n dathlu ac yn hyrwyddo’r llwyddiannau anhygoel niferus gan fenywod yn ein sector bob dydd.
Tristia Harrison, Prif Weithredwr Grŵp TalkTalk
Rydym eisoes wedi ymrwymo i raniad 50/50 o ran rhywedd mewn rolau arweinyddiaeth yn Three UK ac yn buddsoddi’n sylweddol mewn denu a chadw’r bobl iawn i’n helpu ni i wneud hynny. Fodd bynnag, rydym yn gwybod y bydd tracio’r anghydbwysedd hwn yn gofyn am ymdrech gydlynus gan y diwydiant i sicrhau y cynigir yr hyfforddiant a chefnogaeth iawn, felly mae’n bleser gennym lofnodi’r addewid hwn.
Robert Finnegan, Prif Weithredwr Three UK
Mae Virgin Media O2 yn falch o ymuno ag Addewid Amrywiaeth a Chynhwysiad Ofcom i gefnogi mwy o fenywod yn ein diwydiant, sy'n adeiladu ar ein hymrwymiad i ddod yn gwmni mwy cynhwysol a theg.
Mae hyn yn cynnwys ein huchelgais i gynyddu’r gynrychiolaeth o fenywod ar draws ein sefydliad; cyfres o bolisïau absenoldeb o’r radd flaenaf – o fwy o absenoldeb mamolaeth a mabwysiadu, i absenoldeb â thal i ofalwyr; a’n cefnogaeth i raglenni amrywiol sy’n annog mwy o fenywod i swyddi STEM, gyda’r nod o greu cyfeillgarwch ar draws ein busnes i sicrhau ein bod yn denu ac yn cadw’r doniau benywaidd gorau.
Lutz Schüler, Prif WeithredwrVirgin Media O2
Rydyn ni’n llwyr gefnogi’r addewid hwn gan Ofcom sy’n annog mwy o fenywod ledled y DU i ystyried swyddi ym maes technoleg.
Ein cyfrifoldeb ni, fel diwydiant ar y cyd, yw ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i fod yn arweinwyr technoleg beth bynnag fo’u rhywedd neu eu cefndir.
Ahmed Essam, Prif Weithredwr, Vodafone UK