A graphic depicting a group of women from different backgrounds

Cyrff seiberddiogelwch a chwmnïau telathrebu blaenllaw yn ymuno ag addewid i annog mwy o fenywod i ymgymryd â swyddi technoleg

Cyhoeddwyd: 11 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf: 11 Hydref 2023

Mae pedwar sefydliad telathrebu arall o fri wedi ymuno ag Ofcom i ymrwymo i helpu mwy o fenywod i gael mynediad at rolau technoleg ar draws y diwydiant telathrebu.

Yn hanesyddol mae'r sector telathrebu wedi cael ei ddominyddu gan ddynion - yn enwedig mewn swyddi uwch sy'n canolbwyntio ar dechnoleg. Ond mae cwmnïau ar draws y sector bellach eisiau newid hynny a helpu menywod i adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil yn y byd telathrebu.

Ym mis Mehefin, llofnododd Ofcom a saith o gwmnïau mwyaf y sector – BT Group, Openreach, Sky, TalkTalk, Three, Virgin Media O2 a Vodafone – addewid yn ymrwymo i wella cynrychiolaeth i fenywod mewn rolau technoleg.

A heddiw, mae CityFibre, GCHQ, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol - sy'n rhan o GCHQ - a Zen Internet wedi ymuno â nhw i ymrwymo i'r addewid Women in Tech.

Mae pob un o'r sefydliadau wedi addo cynyddu cynrychiolaeth menywod mewn rolau technoleg uwch dros y tair blynedd nesaf, yn ogystal â chael mwy o fenywod yn eu gweithluoedd yn fwy cyffredinol.

Bydd y sefydliadau hefyd yn canolbwyntio ar ddenu a chadw mwy o fenywod, ac ar yr un pryd creu amgylcheddau gwaith mwy cynhwysol. Byddant yn dod ynghyd i rannu arfer da, yn ogystal â chyhoeddi gwybodaeth am effaith eu gwaith i sicrhau cynrychiolaeth well i fenywod – gan gynnwys perfformiad yn erbyn strategaethau amrywiaeth a chynhwysiad eu sefydliadau eu hunain.

Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: “Rydym yn falch iawn o weld mwy o gwmnïau'n llofnodi'r addewid Menywod mewn Technoleg. Boed hynny’n cyflwyno gwasanaethau band eang a symudol o ansawdd uchel neu’n cadw ein cysylltiadau’n ddiogel ac yn gadarn, y sefydliadau hyn yw asgwrn cefn digidol economi’r DU.

“Felly rydym yn croesawu eu hymrwymiad i helpu mwy o fenywod i ymgymryd â rolau technoleg – gan sicrhau bod gan y diwydiant weithlu dawnus ac amrywiol sy’n barod i fodloni gofynion byd sy'n gynyddol ddigidol.”

Greg Mesch, Prif Weithredwr CityFibre: "Mae CityFibre yn ymrwymedig i feithrin diwydiant telathrebu mwy amrywiol a chynhwysol felly rydym yn falch o fod wedi ymuno â’r addewid hon i hyrwyddo rôl menywod yn ein sector. Drwy fynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo amrywiaeth  rhwng y rhywiau, rydym yn gyrru newid cadarnhaol ac yn llywio dyfodol mwy disglair ac arloesol ar gyfer ein busnes a’n diwydiant.”

Lindy Cameron, Prif Weithredwr, Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol: “I gadw'r DU yn ddiogelu mewn seiberofod, mae amrywiaeth yn hollbwysig i'n llwyddiant ond yn anffodus rydym yn gwybod bod menwyod yn parhau i gael eu tangynrychioli ar draws y proffesiwn technoleg.

“Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi'i hymrywymo i ysgogi newid cadarnhaol - yn ein sefydliad ein hunain a thu hwnt - drwy feithrin amgylchedd cynhwysol ac eirioli dros fenywod i ddilyn gyrfaoedd llawn boddhad yn y maes.

“Rydym yn falch o fod yn cadarnhau'r ymrwymiad hwn drwy ymuno â'r addewid Menywod mewn Technoleg ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid i gyflawni gwell gynrychiolaeth yn y sector.”

Ayshea Robertson, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant Zen Internet: “Mater hollbwysig yw hwn ac edrychaf ymlaen at weithio gydag arweinwyr eraill yn y diwydiant i gyflawni newid o ran tegwch rhwng y rhywiau yn y byd telathrebu. Mae hyn, ac yn wir pob mater Amrywiaeth, Tegwch, Cynhwysiad a Pherthyn (DEIB) mor bwysig i ni, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i barhau i wella pethau yn Zen ac yn y sector yn gyffredinol.

"Mae addewid Ofcom yn fan cychwyn gwych i ysgogi cydweithredu ar draws y diwydiant, ond mae angen nawr i ni weld camau rhagweithiol ar gefn hyn gan mai hynny fydd yr allwedd i wneud gwahaniaeth.”

Yn ôl i'r brig