Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022. I nodi'r achlysur, bu i ni siarad â rhai o'n cydweithwyr benywaidd am eu rolau yn Ofcom, a gofyn iddynt beth y byddent yn ei ddweud wrth unrhyw fenywod sy'n ystyried gyrfa mewn sefydliad fel ein un ni neu mewn rhai o'r sectorau rydym yn eu rheoleiddio.
Mae ein cydweithwyr benywaidd yn gweithio ar draws ystod o ddisgyblaethau, gan ddod ag ystod eang o gefndiroedd, sgiliau a phrofiad i'r gwaith amrywiol a wnawn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag Ofcom, bwrw golwg ar y swyddi sydd ar gael gyda ni ar hyn o bryd.
Dyma'r hyn yr oedd gan rai o'n cydweithwyr gwych i'w ddweud:
Helen Hearn, cyfarwyddwr grŵp dros dro, sbectrwm
Rwyf wrth fy modd ag amrywiaeth fy rôl ac rwy'n mwynhau ymgysylltu â'n set eang o randdeiliaid; mae'r sgyrsiau gyda nhw a'r syniadau blaengar sydd ganddynt yn ddiddorol tu hwnt ac mae'n wir yn dangos y rôl bwysig sydd gan sbectrwm wrth ategu cymaint o'r dechnoleg a'r gwasanaethau sy'n hanfodol i ni bob dydd. Mae hefyd yn pwysleisio'r cyfrifoldeb sydd arnom i hwyluso a diogelu'r defnydd o sbectrwm.
I fenywod sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa fel fy un i, byddwn yn mynegi pa mor falch yr wyf fod yr hinsawdd i fenywod mewn rolau technegol ac uwch wedi symud ymlaen yn fawr ers i mi ddechrau ar fy ngyrfa. Byddwn hefyd yn dweud:
- nodwch eich cynghreiriaid, dynion a menywod a defnyddiwch eu cefnogaeth a'u profiadau;
- ceisiwch aros yn gadarnhaol pan fydd eich gwydr i'w weld yn hanner gwag a chwiliwch am y naratif hanner llawn; a
- pheidiwch â chymryd yn ganiataol bod gan y bobl eraill yn yr ystafell bethau clyfrach neu bwysicach i'w dweud na chi i'r graddau nad ydych yn meddwl y dylech chi siarad.
Jill Faure, pennaeth, grŵp rhwydweithiau a chyfathrebiadau
Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn cyfathrebu a hefyd mewn deall sut mae technoleg gyfathrebu'n gweithio. Mae bod yn arbenigwr technegol yn Ofcom wedi rhoi'r cyfle i mi ddeall y datblygiadau mewn technoleg gyfathrebu dros y blynyddoedd diwethaf ac i feddwl am dechnoleg yn ehangach, trwy weithio gyda chydweithwyr polisi.
Gall bod yn fenyw mewn rôl dechnegol fod yn heriol weithiau. Fodd bynnag, mae gweithio mewn lle fel Ofcom yn golygu eich bod yn gweithio gyda grŵp amrywiol o bobl sydd â gwahanol arbenigeddau, tra'n parhau i ddatblygu eich arbenigedd technegol.
Janelle Jones, cynllunydd sbectrwm, gwneud rhaglenni a digwyddiadau arbennig
Rwy'n gweithio mewn tîm bach o tua naw o bobl, pump ohonynt yn cynllunio ac yn cydlynu'r sbectrwm amleddau ar gyfer pob digwyddiad unigol sy'n defnyddio offer di-wifr (fel meicroffonau di-wifr, monitorau yn y glust, camerâu di-wifr, cysylltiadau sain, siarad yn ôl) ar gyfer y DU gyfan – sydd, fel y gallwch ddychmygu, yn dasg eithaf mawr. Rwy'n mwynhau gweld canlyniad terfynol yr holl waith caled sy'n gysylltiedig â chynllunio digwyddiadau ar raddfa fawr, gan wybod yr oedd fy nhîm yn hanfodol i wneud i'r digwyddiad hwnnw fynd yn fyw.
Yn hanesyddol, roedd sbectrwm yn broffesiwn a ddominyddwyd gan ddynion. Rwy'n credu fy mod yn enghraifft wych nad oes rhaid i chi gael cefndir mewn peirianneg radio i weithio yn y byd radio. Mae gan bobl gymaint o wybodaeth a brwdfrydedd o fewn y diwydiant ac, ymhen dim ond 6 blynedd, rwyf wedi creu cysylltiadau â rhwydwaith o bobl sydd wrth eu bodd yn rhannu gydag unrhyw un yr hyn y maent yn ei wneud.
Kerri-Ann ONeill, cyfarwyddwr pobl a thrawsnewid
Rwy'n arwain ein swyddogaeth Pobl a Thrawsnewid yn Ofcom ac rwy'n aelod o'r Uwch Dîm Rheoli – fy ngwaith i yw pweru Ofcom i fod y lle gorau posib i weithio dros ein doniau anhygoel ac i sicrhau y gall pawb gyrraedd eu potensial drwy sicrhau bod y bobl iawn yn y swyddi iawn ar yr amser iawn!
Rwyf wrth fy modd pan fyddwn yn gwneud rhywbeth beiddgar ac yn gwneud newid er gwell. Rwyf hefyd wrth fy modd yn gweld rhywun yn gwneud rhywbeth anhygoel. I unrhyw fenyw sy'n ystyried gyrfa mewn sefydliad fel yr un yma, byddwn i'n dweud ei bod yn bwysig gwybod beth rydych chi am ei gyflawni yn y chwe mis a'r tair blynedd nesaf - mae hyn yn eich helpu i hidlo unrhyw sŵn di-fudd. A byddwch yn garedig - mae'n fyd bach!
Nihal Newman, cyfarwyddwr diogelwch rhwydweithiau
Mae gennyf friff eang iawn yn fy rôl sy'n ei gwneud yn ddiddorol ac yn gyffrous. Mae pob diwrnod yn wahanol ac rwy'n cael cyfle i weithio gyda phobl hynod ddawnus. Fel rhan o fy rôl, rwy'n cael arwain y gwaith o ddylunio, dylanwadu a gweithredu mentrau pwysig sydd â'r nod o sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl.
Byddwn yn annog menywod i wneud cais am gyfleoedd yn Ofcom, gan ein bod ni'n sefydliad sy'n tyfu gydag amrywiaeth eang o waith diddorol a chyffrous. Mae Ofcom yn sefydliad cynhwysol lle gall unigolion dawnus gael profiad gwerthfawr i'w helpu i dyfu yn eu taith yrfaol.
Faye Tendall, graddedig peiriannu sbectrwm
I mi, mae bod yn fenyw mewn gwyddoniaeth a pheirianneg bob amser wedi gweithio o fy mhlaid, felly manteisiwch ar unrhyw gyfleoedd a gynigir i chi. Efallai mai chi fydd yr unig fenyw yn yr ystafell o bryd i'w gilydd, ond mae hyn yn newid yn gyflym. Ond byddwch chi'n sefyll allan am yr holl resymau cywir. Bydd pobl yn falch eich bod chi'n ymchwilio i'r hyn yr ydych yn angerddol drosto a byddant eisiau eich helpu i gyflawni eich nodau.
Armelle Boisset, cyfarwyddwr peirianneg sbectrwm
Mae'n daith barhaus, mae'r profiadau rydych chi'n eu hadeiladu ar hyd y ffordd i gyd yn gwneud cyfraniad. Mae pob cangen yn y ffordd yn arwain at un arall, ac yn edrych ymlaen nid yn ôl. Hoffwn ychwanegu hefyd fod arnom angen mwy o fenywod mewn Peirianneg, mae'n yrfa wych.
Mae'n gyfle i weithio ar draws amrywiaeth o brosiectau a gyda'r bobl ymroddedig a gwybodus sy'n gwneud Ofcom yn lle gwych i fod. Mae llawer mwy i Ofcom na'r agwedd cynnwys teledu y mae llawer o bobl yn ymwybodol ohoni, mae cyfathrebu'n treiddio i bopeth a wnawn, ac mae gennym rai rolau technegol gwych. Mae gwybod bod ein gwaith yn dylanwadu'n uniongyrchol ar y gwasanaethau yr ydym i gyd yn eu defnyddio bob dydd, fel ffonau symudol neu satnav, yn fraint ond hefyd yn gyfrifoldeb.