Ymgynghoriad: arweiniad i ddarparwyr ODPS ar fesurau i ddiogelu defnyddwyr rhag deunydd niweidiol

Cyhoeddwyd: 20 Gorffennaf 2021
Ymgynghori yn cau: 14 Medi 2021
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae Ofcom yn ymgynghori ar arweiniad drafft ar gyfrifoldebau darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw (ODPS) o ran deunydd niweidiol.

Mae'r arweiniad arfaethedig yn adlewyrchu newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio a ddaeth i rym ar 1 Tachwedd 2020 a bydd yn disodli arweiniad presennol Ofcom ar ddeunydd niweidiol (PDF, 285.3 KB) (Saesneg yn unig). Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys gofyniad newydd ar ddarparwyr ODPS i gymryd camau priodol a chymesur i sicrhau nad yw unrhyw ddeunydd a allai amharu ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesol pobl o dan 18 oed fel arfer yn cael ei weld na'i glywed ganddynt.

Bwriad ein harweiniad arfaethedig yw helpu darparwyr i asesu a yw'r deunydd y maent yn bwriadu ei ddarparu ar eu gwasanaeth yn bodloni'r diffiniadau statudol o ddeunydd niweidiol, ac os felly, sut i gymryd camau priodol a chymesur i ddiogelu defnyddwyr.

How to respond

Yn ôl i'r brig