Mae Ofcom wedi cymeradwyo cais gan y BBC i ddarlledu gemau nad ydynt yn gemau rownd derfynol Pencampwriaeth Wimbledon 2024 (“y Bencampwriaeth”) yn fyw ac yn egsgliwsif.
Bydd gemau’r Bencampwriaeth nad ydynt yn gemau rownd derfynol yn cael eu darlledu gan y BBC ar BBC One a BBC Two, a bydd sylw ychwanegol ar gael drwy Fotwm Coch y BBC a BBC iPlayer. Mae’r BBC hefyd yn dal yr hawliau radio cenedlaethol ac mae’n bwriadu darlledu sylw byw ar BBC Radio 5 Live, a gorsafoedd eraill.
Ar ben hynny, mae Warner Bros. Discovery (“WBD”) yn dal yr hawliau i ddarlledu uchafbwyntiau teledu o’r gemau nad ydynt yn gemau rownd derfynol ar ei sianeli Eurosport.
Mae’r gemau nad ydynt yn gemau rownd derfynol yn y Bencampwriaeth yn ddigwyddiad rhestredig Grŵp B at ddibenion Deddf Darlledu 1996. Felly mae’n rhaid i’r BBC gael cydsyniad Ofcom i ddarlledu gemau’r Bencampwriaeth nad ydynt yn gemau rownd derfynol yn fyw ac yn ecsgliwsif, yn unol ag adran 101 o’r Ddeddf. Fodd bynnag, pan fydd ail ddarlledwr, WBD yn yr achos hwn, yn rhoi digon o sylw eilaidd i ddigwyddiad rhestredig Grŵp B, gall Ofcom roi caniatâd ‘awtomatig’ i ddarlledu heb ymgynghori
Mae paragraffau 1.18 i 1.21 Cod Ofcom ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill (PDF, 71.2 KB) yn darparu bod yn rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir gan y darlledwyr fod mewn categorïau gwahanol ac yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn mae digon o sylw eilaidd yn ei olygu. Yn yr achos hwn, mae sianeli’r BBC yn ‘wasanaethau cymwys’ ac mae sianeli Eurosport yn ‘wasanaethau nad ydynt yn gymwys’.
Ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd gan y BBC, a’r wybodaeth atodol a ddarparwyd gan WBD, mae Ofcom wedi penderfynu rhoi caniatâd awtomatig i gais y BBC.
Bydd y BBC a WBD yn darlledu rowndiau terfynol y Bencampwriaeth (a ddynodwyd yn ddigwyddiad rhestredig Grŵp A) yn fyw. Pan nad yw’r darlledu byw yn egsgliwsif, efallai na fydd angen cydsyniad Ofcom – gweler yr eithriad yn adran 101(1) o’r Ddeddf. Yn yr achos hwn, mae Ofcom yn fodlon nad yw’r trefniadau’n gofyn am ein cydsyniad ni.