Cais am Dystiolaeth: Adolygiad o’r Canllawiau ar gyfer Cynyrchiadau teledu a Rhaglenni Rhanbarthol

Cyhoeddwyd: 26 Mawrth 2018
Ymgynghori yn cau: 10 Mai 2018
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Fel rhan o’r ymgynghoriad ym mis Mawrth 2017 ar Drwydded Weithredu’r BBC, fe wnaethom gyhoeddi ein bwriad i adolygu’r canllawiau i ddarlledwyr gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer cynyrchiadau rhanbarthol a rhaglenni rhanbarthol.

Mae’r canllawiau hyn yn esbonio sut gall ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gyflawni eu rhwymedigaethau i sicrhau bod cyfrannau penodol o’r rhaglenni maent yn eu dangos yn cael eu cynhyrchu tu allan i Lundain, yng nghenhedloedd a rhanbarthau’r DU. Maent hefyd yn esbonio sut ddylai trwyddedigion y BBC a Channel 3 gyflawni eu rhwymedigaethau i ddangos rhaglenni mewn gwahanol ranbarthau sy’n berthnasol i’r ardaloedd hynny.

Y Cais hwn am Dystiolaeth yw cam cyntaf ein hadolygiad. Y nod yw casglu data a safbwyntiau rhanddeiliaid am gyflwr y sector cynhyrchu yn y gwledydd a’r rhanbarthau, ac am effaith y canllawiau presennol ar y broses o wneud cynyrchiadau rhanbarthol a rhaglenni rhanbarthol. Bydd yr wybodaeth a gaiff ei chasglu yn cael ei defnyddio i helpu i ddatblygu ymgynghoriad a allai gynnwys cynigion penodol ynghylch newidiadau i’r canllawiau.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r ymgynghoriad yn nes ymlaen yn 2018. Felly, y Cais hwn am Dystiolaeth yw’r cyfle cyntaf o ddau i gyfrannu’n ffurfiol at yr adolygiad.

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Made Outside London Review Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig